Gyda phryderon cynyddol ynghylch cost amgylcheddol ffermydd pysgod un rhywogaeth, mae project ymchwil a gyllidwyd gan yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn cynnal ymchwil dichonoldeb i gyflwyno math o ffermio pysgod all fod yn fwy cynaliadwy ac a all gynnig mwy o elw, gan ddefnyddio tair rhywogaeth gyflenwol.
Yn yr un modd ag yr oedd pobol frodorol America yn plannu sgwash, India corn a ffa dringo gyda'i gilydd, er mwyn bod o fudd i’w gilydd, (cyfeirir at hyn yn aml fel ‘y tair chwaer’), gall ffermio pysgod asgellog, cregynbysgod a gwymon gyda’i gilydd fod o fudd i’w gilydd a lleihau effaith amgylcheddol ffermio pysgod.
Gelwir y system yn ddyframaeth aml-droffig integredig ar raddfa fach (Small scale integrated multi-trophic aquaculture neu IMTA). Yn draddodiadol, mae wedi’i defnyddio ar raddfa fechan ddomestig yn Asia, gan ddarparu mwy nag un cnwd i’r ffermwr eu defnyddio neu werthu.
Mae’r astudiaeth dichonoldeb gan Brifysgol Bangor wedi adnabod lleoliadau ar arfordir yr Iwerydd sy’n fwyaf addas ar gyfer IMTA, gan seilio’r gwaith ar ddefnydd o eog, cregyn gleision a môr-wregys, math o wymon o deulu’r môr-wiail, sy’n gyffredin i arfordir tymherus yr Iwerydd. Roedd yr ymchwil yn ystyried dosbarthiad naturiol y tair rhywogaeth, a oedd y lleoliadau addas yn cael eu croesi gan lwybrau llongau prysur neu’n tramwyo gwarchodfeydd morol, ac a oedd porthladd o faint ddigonol yn gyfleus er mwyn cyrraedd marchnadoedd.
Y lleoliadau gorau i ddatblygu IMTA ymhellach oedd arfordir gorllewinol Lewis, Ynysoedd Heledd, Yr Alban; Lough Swilly yn Swydd Donegal, Iwerddon; ac arfordir gorllewinol Llydaw, gogledd-orllewin Ffrainc.
Fel yr esbonia Conchúr Hughes o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor,
“Un o’r problemau gyda dyframaeth un rhywogaeth, o’r math a geir yn Ewrop, yw y gall bwyd dros ben a charthion arwain at ddirywio’r ecoleg leol, tra gall dwysedd nifer y pysgod arwain at orddefnydd gwrthfiotigau ac ychwanegion eraill, er mwyn cynnal stoc bysgod iach.”
“Mae cregyn gleision yn bwydo wrth ffiltro’r dŵr, gallent fod yn gyfrifol am dynnu hyd at 54% o ddeunydd gwastraff eog o’r dŵr, gan ei ddefnyddio fel egni i dyfu, tra bo’r gwymon yn echdynnu maetholion hydawdd o’r dŵr. Gellir ffermio a defnyddio’r môr-wregys mewn sawl cynnyrch, o ychwanegion bwyd i bobol a ffermydd pysgod, fel gwrtaith neu gynhwysyn mewn cynhyrchion fferyllol.”
“Mae pob rhywogaeth yn gweddu’r llall ac yn gweithio yn erbyn unrhyw broblemau.”
Dyframaethu IMTA
Mae eog a chregyn gleision yn fwydydd pwysig yn Ewrop. Er nad yw’r môr-wregys yn ffynhonnell fwyd o bwys ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r sector gwymon brofi twf yn y galw amdano ac iddo ehangu’n sydyn yn y blynyddoedd i ddod, gan ddarparu ffynhonnell amgen o wrtaith a chynnyrch eraill.
Gall tyfu gwymon ddarparu buddiannau amgylcheddol yn ogystal. Mae’r gwymon yn rhwystr yn erbyn egni’r tonnau wrth iddynt nesáu at y glannau, gan leihau’r ynni wrth iddo fynd drwy’r gwymon, yn yr un modd ag y mae coed yn lleihau effaith y gwynt.
Mae hefyd yn codi lefel pH ac yn rhoi ocsigen yn y dŵr.