Ag yntau yng nghategori gwyddonwyr o fri, bydd taith Iestyn yn cynnwys taith darlithio i sawl safle CAS yn Tsieina dros bythefnos yn ystod 2024. Mae’r fenter hefyd yn darparu cyllid i gynnal ymchwilydd ôl-ddoethurol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion am oddeutu tri mis, er mwyn cryfhau cydweithio gwyddonol.
Dylunnir pecyn Gwyddonydd o fri'r PIFI ar gyfer gwyddonwyr rhyngwladol hynod gymwys. Disgrifir CAS fel canolbwynt ymgyrch Tsieina i archwilio a defnyddio technoleg uwch a gwyddor naturiol er budd Tsieina a’r byd. Mae CAS yn cynnwys rhwydwaith ymchwil a datblygu cynhwysfawr, cymdeithas academaidd ar sail teilyngdod, a chyfundrefn addysg uwch. Mae’n dod â gwyddonwyr a pheirianwyr o Tsieina a ledled y byd ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau damcaniaethol a chymhwysol gan ddefnyddio ymdriniaethau gwyddonol a rheolaethol gorau’r byd.
Ffocws ymchwil Dr Iestyn Woolway yw’r rhyngberthynas ffisegol rhwng hinsawdd a dŵr, ac mae ganddo ddiddordeb penodol mewn ffiseg a hydroleg llynnoedd y byd. Mae wedi bod yn gweithio efo gwyddonwyr o Tsieina ar nifer o bapurau sy’n edrych ar newidiadau mewn tymheredd arwynebedd llynnoedd a rhewlifoedd.
Graddiodd Iestyn o Brifysgol Bangor yn 2011 gyda gradd BSc a MSc mewn Cefnforeg Ffisegol. Yn 2018, dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Unigol Marie Sklodowska-Curie yn Sefydliad Technoleg Dundalk (Iwerddon), ac yna Cymrodoriaeth Asiantaeth Gofod Ewrop (European Space Agency neu ESA) yn 2020 - wedi’i leoli yn Swyddfa Hinsawdd ESA yn Swydd Rhydychen. Yn 2021, enillodd y Gymrodoriaeth NERC a’r llynedd dyfarnwyd Medal Dillwyn ar gyfer Y Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru iddo am ei waith ym maes difrod amgylcheddol byd eang.