Rhaglenni MSc Coedwigaeth Prifysgol Bangor yn Estyn Allan gyda Hyblygrwydd Digynsail a Modiwlau Blaengar
Mae Prifysgol Bangor, sy’n arweinydd ym maes addysg goedwigaeth gyda gwaddol sy’n rhychwantu dros ganrif, yn chwyldroi ei rhaglenni Meistr mewn Gwyddoniaeth (MSc). cience (MSc) programmes.
Gan adeiladu ar ei safle nodedig o 2il yn y Deyrnas Unedig am Amaethyddiaeth a Choedwigaeth yn The Times/Sunday Times Good University Guide 2024, mae’r brifysgol bellach yn cynnig hyblygrwydd heb ei ail a chyfres o fodiwlau arloesol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ym meysydd coedwigaeth ac amaethgoedwigaeth.
Gyda hanes cyfoethog mewn coedwigaeth sy’n mynd yn ôl i 1904 a thros 4,000 o raddedigion o fwy na 100 o wledydd, mae Prifysgol Bangor yn sefyll allan fel esiampl o ragoriaeth mewn addysg goedwigaeth. Mae ei phedair rhaglen MSc nodedig - MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu'r Cyflenwad Bwyd, MSc Coedwigaeth, MSc Coedwigaeth Amgylcheddol, ac MSc Coedwigaeth Drofannol - i gyd wedi'u hachredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig, sy'n tystio i’w henw da am ansawdd a pherthnasedd.
Gan adfyfyrio ynghylch ei phrofiad, dywedodd un o raddedigion diweddar y rhaglen, Rebeca D'Arcy, “Mae wedi bod yn werth chweil astudio am fy MSc yng nghwmni cyd-fyfyrwyr o bob rhan o’r byd, gan ddysgu am wahanol safbwyntiau ac arferion ym myd coedwigaeth. Fe wnes i fwynhau’n arbennig y modiwlau a wnaeth i mi fentro y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus i mi.”
Yn dilyn proses adolygu ac ailddilysu gynhwysfawr, mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi ei bod yn ehangu’r opsiynau astudio MSc yn sylweddol. Gall myfyrwyr nawr ddilyn eu gradd MSc yn y cnawd (ar y campws) neu drwy ddull dysgu o bell, dros gyfnodau hyblyg o 1, 2 neu 3 blynedd. Mae hyn yn caniatáu i unigolion o bob cefndir i deilwra eu haddysg i'w hanghenion unigryw eu hunain, p'un a yw'n well ganddynt brofiad trochol ar y campws neu’r hwylustod o astudio o bell.
“Rydym yn deall bod angen hyblygrwydd ar fyfyrwyr," meddai Dr Eefke Mollee, cyfarwyddwr MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu'r Cyflenwad Bwyd. “Mae’r cynnig gwell o ran rhaglenni MSc wedi’u cynllunio i rymuso myfyrwyr i gyflawni eu nodau academaidd a phroffesiynol, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau. P’un a ydych yn weithiwr proffesiynol, yn rhiant, neu wedi’ch lleoli dramor, gallwch gael mynediad at yr addysg goedwigaeth o safon fyd-eang yr ydym yn ei darparu.”
Ar ben hynny, mae pob rhaglen MSc wedi’i chyfoethogi ag amrywiaeth o fodiwlau newydd, blaengar, gan sicrhau bod gan raddedigion y wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf i ddilyn gyrfa lle gallant chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, gan gynnal lles dynol a’r prosesau o ran cynhyrchu pren a bwyd. Mae'r modiwlau hynny’n cynnwys y canlynol:
- Hanfodion Pridd a Dŵr: “Meistroli prif egwyddorion rheoli pridd a dŵr er mwyn arbed carbon, lleihau’r perygl o lifogydd a gwneud penderfyniadau gwybodus o ran rheoli tir”
- Pren a Chynhyrchion sy’n Seiliedig ar Goed: Archwilio’r defnydd cynaliadwy o adnoddau pren o fewn economi gylchol yng nghyd-destun arloesi technolegol cyflym.
- Adfer Ecolegol: Dysgu i adfer ac adfywio ecosystemau diraddiedig.
- Gwarchod Coedwigoedd: Deall a lliniaru bygythiadau i iechyd coedwigoedd.
- Cynllunio Busnes ar gyfer yr Economi Werdd: Datblygu sgiliau entrepreneuraidd ar gyfer mentrau cynaliadwy.
- Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol ar gyfer Coedwigaeth a Rheoli Tir: Harneisio technolegau geo-ofodol ar gyfer rheolaeth effeithiol er mwyn darparu cymaint â phosibl o wasanaethau ecosystemau ar raddfa tirwedd.
Mae’r modiwlau hyn yn adeiladu ar ein cyfres bresennol o fodiwlau sy’n darparu addysg yn elfennau craidd y pynciau canlynol:
- Coedwigaeth, gan gynnwys Coedwriaeth; Stocrestru, Asesu a Monitro Coedwigoedd; Cynllun Rheoli Coedwigoedd; Ecoleg Coedwigoedd; Materion Cymdeithasol mewn Rheoli Coedwigoedd; Hanes, Polisi a Rheolaeth Coedwigoedd; Coedwigaeth Drefol,
- Amaethgoedwigaeth gan gynnwys Systemau ac Arferion Amaethgoedwigaeth; Rheoli Adnoddau Naturiol; Diogelu’r Cyflenwad Bwyd Byd-eang; Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd, a
- Project ymchwil traethawd hir MSc.
Mae’n werth nodi bod y radd arloesol MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu'r Cyflenwad Bwyd yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r her o gyfuno rheidrwydd diogeledd bwyd yn fyd-eang â chynnal y buddion hanfodol a ddarperir gan goed a choedwigoedd. Yn yr un modd, mae'r MSc Coedwigaeth Amgylcheddol yn rhoi pwyslais cryf ar arferion rheoli coetiroedd sy'n blaenoriaethu gwytnwch a chadwraeth bioamrywiaeth, fel y dangosir gan yr archwiliad manwl o ecoleg coedwigoedd ac adfer ecolegol sy’n rhan o gwricwlwm y cwrs.
Ni waeth beth fo'r dull astudio, mae pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn taith astudio breswyl, gan roi cyfle amhrisiadwy ar gyfer rhwydweithio a dysgu ymarferol. Mae'r profiadau trochol hynny’n meithrin ymdeimlad cryf o gymuned ac yn gwella'r defnydd ymarferol o wybodaeth ddamcaniaethol.
"Mae'r teithiau astudio preswyl yn gonglfeini i'r rhaglenni," ychwanega Dr Bid Webb, cyfarwyddwr yr MSc Coedwigaeth Amgylcheddol a’r MSc Coedwigaeth Drofannol. "Maen nhw'n dod â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol ynghyd, gan greu profiad dysgu gwirioneddol fyd-eang."
"Rydym yn hynod falch o natur gynhwysfawr a blaengar y rhaglenni hyn," dywedodd Dr James Walmsley, cyfarwyddwr yr MSc Coedwigaeth. "Mae'r modiwlau newydd a'r opsiynau astudio hyblyg yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym meysydd coedwigaeth a rheoli tir yn gynaliadwy."
Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i ragoriaeth ac arloesedd yn sicrhau bod ei rhaglenni MSc coedwigaeth yn parhau i fod ar flaen y gad ym myd addysg, gan baratoi graddedigion i fynd i’r afael â’r heriau hollbwysig sy’n wynebu coedwigoedd ein planed.
Ynglŷn â Phrifysgol Bangor:
Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o ragoriaeth academaidd sy’n mynd yn ôl i 1884. Gydag ymrwymiad cryf i addysgu ac ymchwil, mae'r brifysgol yn ymroddedig i ddarparu profiad addysgol trawsnewidiol i fyfyrwyr.


