Mae cysylltiad cryf rhwng ymchwil ecolegol yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol â chadwraeth a rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol, a rhoddir sylw penodol i goedwigoedd, yn ogystal â thir amaethyddol, ardaloedd gwarchodedig a systemau amaeth-goedwigaeth integredig, sy'n rhychwantu amrywiaeth eang o amgylcheddau trofannol a thymherus.
Rydym yn rhoi pwyslais penodol ar ymchwil amlddisgyblaethol, gan gysylltu ein harbenigedd sy'n cynnwys porthiant ecoleg foleciwlaidd, ecoffisioleg, porthiant planhigion a phathogen/symbiont coed, cylchu ac adnoddau maetholion, peillwyr, rhywogaethau goresgynnol, ecoleg tirwedd, dalgylchoedd, synhwyro o bell, modelu systemau gofodol a bioeconomaidd, asesu cylch bywyd, a phontydd i'r gwyddorau cymdeithasol.
Mae ein hymchwil cymhwysol yn sail i ddarparu gwasanaethau ecosystem mewn modd cynaliadwy gan rhoi sylw penodol i liniaru newid yn yr hinsawdd (atafaelu carbon a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr), ac effeithiau newid defnydd tir a diraddio coedwigoedd, ynghyd â'r her o gyfuno cynhyrchu bwyd a ffibr cynaliadwy gyda chadwraeth bioamrywiaeth.
Yr ail brif faes yw gwytnwch ac adfer ecosystem, gan roi sylw penodol i gysylltiadau swyddogaeth amrywiaeth-ecosystem, ac effeithiau ac addasu newid yn yr hinsawdd. Mae ymchwil y grŵp yn cynhyrchu ac yn syntheseiddio tystiolaeth allweddol ar gyfer datblygu “atebion ar sail natur” arloesol a pholisi effeithiol i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol a datblygiad cynaliadwy byd-eang allweddol.