Fy ngwlad:

Astudio Ôl-raddedig

Parhau eich siwrne

Ydych chi yn ystyried parhau eich siwrne ym Mhrifysgol Bangor? A wyddoch chi, os ydych yn penderfynu aros ym Mangor i astudio cwrs ôl-radd, fe allwch fod yn gymwys i dderbyn Ysgoloriaeth Alumni fydd yn rhoi gostyngiad o 20% mewn ffioedd ar ein cyrsiau ôl-radd trwy ddysgu.  

Mae'r amrywiaeth eang o gyrsiau ôl-radd, y gostyngiad hael mewn ffioedd i'n graddedigion a'r Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau sydd ar gael, ymysg y rhesymau mae ein myfyrwyr yn dewis aros ym Mangor i astudio ar lefel ôl-radd. 
 

Myfyrwyr yn cerdded tu allan i adeilad Pontio

Digwyddiadau Ôl-raddedig

Y ffordd orau i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau ôl-radd a'r gostyngiad mewn ffioedd i fyfyrwyr presennol yw ymuno â ni ar un o'n Digwyddiadau Ôl-raddedig. Mewn Digwyddiad Ôl-raddedig cewch drafod eich opsiynau gyda staff a chael gwybod mwy am y gefnogaeth fydd ar gael i chi fel myfyriwr ôl-radd. 

Ysgoloriaeth Alumni

Os ydych yn gyn-fyfyriwr Cartref (yn cynnwys Gweriniaeth Iwerddon) Prifysgol Bangor sy'n hunan-gyllidol neu yn gyn-fyfyriwr hunan-gyllidol Rhyngwladol, fe gewch ostyngiad mewn ffioedd o 20%

Dau fyfyriwr yn cerdded ar hyd teras y Brif Adeilad

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Mae gennym nifer o Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau, yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr Ysgolion academaidd unigol. Mae'r Ganolfan Addysg Rhyngwladol hefyd yn cynnig amrywiaeth o wobrau i fyfyrwyr rhyngwladol.

Myfyrwyr yn darlithfa Pontio
Dau fyfyriwr yn cerdded i ddarlith

Amrywiaeth o Gyrsiau

Gyda thros 200 o raglenni ôl-radd trwy ddysgu ac ymchwil, os ydych yn aros ymlaen i astudio ar lefel ôl-radd, cewch ddewis ehangu eich diddordebau academaidd neu barhau i arbenigo yn eich maes pwnc. 

myfyriwr yn gwneud gwaith

Sut i wneud cais

Dylech wneud cais yn defnyddio’r ffurflen ar-lein am y mwyafrif o’n cyrsiau ôl-radd yn y Brifysgol. Fel myfyriwr israddedig presennol ym Mhrifysgol Bangor, pan yn gwneud cais am y rhan fwyaf o’n cyrsiau ôl-radd ym Mangor, ni fydd angen cyflwyno geirda academaidd fel rhan o’ch cais. 

Ffioedd ac Ariannu

Ymchwiliwch sut i ariannu eich astudiaethau a sut i wneud cais am gyllid ôl-radd.

Mwy o wybodaeth

Sgwrsiwch â ni

Sgwrsiwch gyda myfyrwyr ôl-radd presennol sy'n hapus i ateb eich cwestiynau. 

Sgwrsiwch gyda ni

Wedi Gwneud Cais?

Dewch i wybod mwy am beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais i astudio fel myfyriwr ôl-radd.

Mwy o wybodaeth

Astudio Hyblyg

Cynigir cyrsiau dysgu o bell neu gyrsiau cymysg, mewn rhai o’n hysgolion.

mwy o wybodaeth