Dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, 2025, yn Pontio
Dydd Sadwrn, 1 Chwefror 2025
Dathlwch y Flwyddyn Newydd Leuadol gyda ni yn Pontio ar 1 Chwefror 2025! Ymunwch â ni am ŵyl llawn bwrlwm gweithdai diwylliannol, perfformiadau, a gweithgareddau wrth i ni groesawu Blwyddyn y Neidr. Darganfyddwch lawenydd a harddwch traddodiadau Tsieineaidd trwy weithdai ymarferol, perfformiadau cyfareddol, a phrofiadau rhyngweithiol. P'un a hoffech chi ddysgu sgil newydd neu fwynhau ysbryd yr ŵyl, mae gan y diwrnod hwn rywbeth arbennig i bawb.
Mae pob gweithgaredd am ddim ac yn agored i bob oed!
Uchafbwyntiau:
Gweithdy Clymau a Breichledau Tsieineaidd
Lefel 2, 10am – 12pm
Crëwch eich breichled swyn eich hun gyda chlymau a dulliau traddodiadol Tsieineaidd. Dechreuwch y flwyddyn â gwaith llaw ddaw â llwyddiant ichi. RHAD AC AM DDIM!
Gweithdy Caligraffi Tsieineaidd
Lefel 2, 1pm – 3pm
Rhowch gynnig ar y grefft Tsieineaidd o geinlythrennu! Dysgwch beintio cymeriadau Tsieineaidd hardd, dan arweiniad tiwtoriaid medrus. RHAD AC AM DDIM!
Perfformiadau Cerddoriaeth Tsieineaidd
Bar Ffynnon, 12pm – 12.30pm
Mwynhewch gerddoriaeth Tsieineaidd draddodiadol fyw wrth iddi lenwi Bar Ffynnon ag alawon hudolus. Mae pob perfformiad byr yn cynnig taith gerddorol unigryw. RHAD AC AM DDIM!
Arddangosiad Tai Chi
Plaza, Tu allan i Pontio, 12.30pm – 1pm
Gwyliwch neu ymunwch â’r arddangosiad Tai Chi hwn, sy’n ffordd berffaith o ddarganfod y symudiadau tawelu, rhythmig sy’n dod â chytgord i’r corff a’r meddwl. RHAD AC AM DDIM!
Gweithdy Dawnsio Tsieineaidd
Bocs Gwyn, 1pm
Profwch geinder dawnsio Tsieineaidd yn y gweithdy rhyngweithiol difyr hwn! Mae'r sesiwn hon yn berffaith ar gyfer pob gallu, ac yn eich gwahodd i ymgolli yn harddwch dawnsio traddodiadol, mynegiannol. Am ddim ond mae angen tocyn!
Gala Tsieineaidd
Theatr Bryn Terfel, 3pm – 3.45pm
Daw ein dathliadau i ben gyda Gala Tsieineaidd gyffrous. Mwynhewch arddangosfa syfrdanol o gerddoriaeth, dawns, a mwy yn y dathliad bywiog hwn o ddiwylliant Tsieineaidd. Archebwch le yma!
Ymunwch â ni yn Pontio i ddathlu Blwyddyn y Neidr gyda diwrnod difyr o ddarganfod a chyfoeth diwylliannol!