Tŷ Agored Sefydliad Confucius: Dewch i weld Celf Caligraffeg Tsieineaidd!
Nid yn unig y mae caligraffeg Tsieineaidd yn ffurf ar ysgrifennu ond mae hefyd yn gelfyddyd gain sy'n cyfuno estheteg weledol gyda dehongliad ystyr llenyddol. Mae'r traddodiad cyfoethog hwn wedi'i wreiddio'n ddwfn yn Tsieina ac yn uchel ei barch ar draws Dwyrain Asia. Caiff caligraffeg ei ystyried yn aml yn un o’r sgiliau a hobïau mwyaf uchel eu parch ymysg hen lenorion Tsieineaidd.
Ymunwch â ni i brofi cyfaredd byd caligraffeg Tsieineaidd. Bydd ein tiwtoriaid medrus yn eich arwain wrth i chi ddysgu am y ffurf gelfyddydol hardd hon, a chewch gyfle i greu eich campweithiau eich hun. Cewch hefyd gyfle i ymlacio a mwynhau synau lleddf a thawel perfformiad o’r Guzheng.
Nid oes angen cofrestru, galwch heibio a rhowch gynnig arni!