Ymunwch â Ni am Sesiwn Tai Chi dros yr Awr Ginio
A ydych chi’n chwilio am gydbwysedd a llonyddwch mewn diwrnod prysur? Ymunwch â ni am sesiwn Tai Chi adnewyddol AM DDIM yn ystod eich amser cinio! Does dim angen archebu ymlaen llaw. Croeso i bawb!
Manylion y Sesiwn:
Dyddiadau: 3 Hydref 2023 - 14 Rhagfyr 2023
Sesiynau Awyr Agored Arbennig:
17 Hydref
14 Tachwedd
15 Tachwedd
16 Tachwedd
Yn yr Awyr Agored (Gan Ddibynnu ar y Tywydd):
Gardd Les Rathbone
Beth i'w Ddisgwyl:
Mae Tai Chi yn ymarfer gosgeiddig, braf sy'n helpu o ran ymlacio, ystwythder ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'n addas i bob oedran a lefel ffitrwydd. Bydd ein hyfforddwr profiadol yn eich arwain trwy symudiadau ysgafn, a’ch helpu chi ddod o hyd i dawelwch yng nghanol prysurdeb y diwrnod.
Pam ymuno â ni?
Sesiynau am ddim: Mae’r sesiynau Tai Chi i gyd am ddim.
Mae’n Lle Hardd: Mae Neuadd Rathbone a Gardd Les Rathbone yn lle tawel a hyfryd i'r ymarfer.
Buddion Iechyd: Gall Tai Chi wella cydbwysedd y corff, lleihau straen, a gwella lles cyffredinol.
Cymuned: Cewch gysylltu ag unigolion o gyffelyb anian a phrofi pŵer ymarfer grŵp.
Dewch â’r isod efo chi:
Dillad ac esgidiau cyfforddus
Potel ddŵr
Meddwl agored a chwilfrydedd
Nodiadau Pwysig:
Mewn tywydd garw, mae'n bosibl y caiff y sesiynau awyr agored eu canslo.
Gwyliwch y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'r amserlen.
Darganfod Cytgord Mewnol Amser Cinio:
P’un a ydych chi’n ymarferwr profiadol neu’n newydd i Tai Chi, mae ein sesiynau amser cinio wedi’u cynllunio i gynnig egwyl adfywiol a hybu lles.
Ymunwch â ni yn Neuadd Rathbone, Prifysgol Bangor, rhwng 3 Hydref ac 14 Rhagfyr am y profiad cyfoethog hwn. Cymerwch gam tuag at gydbwysedd a heddwch yng nghanol eich diwrnod.
I gael mwy o wybodaeth a diweddariadau, ewch i'r wefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Edrychwn ymlaen at rannu crefft Tai Chi gyda chi!