Ysgol Haf Iaith a Diwylliant Mandarin i Ddechreuwyr 2024
Am ddim!
Dewch i ddysgu am iaith a diwylliant Tsieina yn yr Ysgol Haf Iaith a Diwylliant Mandarin i Ddechreuwyr, a gynhelir rhwng 22 a 26 Gorffennaf, 2024. Caiff y digwyddiad ar-lein hwn ei gynnal gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ac mae croeso cynnes i ddysgwyr 16 oed a hŷn.
Trwy gyfrwng sesiynau rhyngweithiol ar lwyfan Zoom, bydd y cyfranogwyr yn ymchwilio i hanfodion Tsieinëeg, ac yn cael eu cyflwyno i'w hanes cyfoethog a'i diwylliant bywiog. Mae'r cwrs rhagarweiniol hwn yn cynnig profiad dysgu cynhwysfawr heb bwysau arholiadau ffurfiol. Fodd bynnag, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau aseiniadau fel gwaith cartref ac i gymryd rhan mewn project wythnos o hyd i atgyfnerthu eu gwybodaeth newydd.
Sylwch y bydd y cyfan yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg. Er mwyn gallu cymryd rhan yn llawn, gwnewch yn siŵr fod gennych gysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd a bod gennych feicroffon a chamera. Yn ogystal, rydym yn argymell bod gennych feiro a phapur wrth law i gymryd nodiadau.
Cynhelir yr ysgol haf bob dydd rhwng 9:00am a 2:00pm pryd ceir dwy wers iaith, sesiynau i ymarfer siarad, sesiynau diwylliannol, ac amser penodedig i ddatblygu eich project.
Pam ddylech chi achub ar y cyfle euraidd hwn?
Bydd cofrestru i wneud yr ysgol haf nid yn unig yn cyfoethogi eich CV gyda sgiliau amlddiwylliannol amhrisiadwy ond hefyd yn eich grymuso i gymryd rhan mewn sgyrsiau Mandarin sylfaenol o fewn ychydig ddyddiau. Ar ben hynny, byddwch yn mireinio'ch sgiliau ymchwil ac yn dysgu am ddiwylliant cyfareddol Tsieina.
Ydych chi’n barod i gychwyn ar y daith oleuedig hon?
Cwblhewch y ffurflen gofrestru hon cyn 30 Mehefin, 2024, a chymerwch y cam cyntaf i fyd o ddarganfod ieithyddol a diwylliannol!