Anrhydeddu Rhagoriaeth: Disgyblion Ein Harglwyddes yn Disgleirio mewn Seremoni Wobrwyo Genedlaethol Mandarin!
Mae’n bleser gennym rannu bod dau ddisgybl dawnus o Flwyddyn 6 ein hysgol bartner, Ysgol Ein Harglwyddes, wedi teithio i Lundain ar 20 Medi ar gyfer seremoni wobrwyo arbennig, gan gynrychioli eu hunain a thri arall sydd bellach ym Mlwyddyn 7. Sicrhaodd y grŵp y wobr gyntaf am greadigrwydd yng Nghystadleuaeth Mandarin 'Chinese Bridge' y Deyrnas Unedig a gynhaliwyd dros yr haf. Fel yr unig ysgol yng Nghymru sydd wedi ennill yr anrhydedd hon, rydym yn hynod o falch o’u cyflawniad.
Mae’r llwyddiant rhyfeddol hwn yn amlygu ymroddiad ac angerdd y myfyrwyr, yn ogystal â’r bartneriaeth gref rhwng ein hathrawon Mandarin a chymuned yr ysgol. Rydym yn ddiolchgar i’r athrawon Mandarin dawnus yn Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor, am feithrin y dysgwyr ifanc disglair hyn.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y gamp wych hon!