Dathliadau Diwylliannol yn Ysbrydoli Disgyblion Canolfan Addysg y Bont!
Ar 14 Chwefror, cafodd disgyblion Canolfan Addysg y Bont, Llangefni gymryd rhan mewn diwrnod bywiog o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd, gan gynnwys gweithdai ymarferol a pherfformiadau hyfryd.
Cafodd y diwrnod ei gynnal gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ac roedd y sesiynau’n gymysgedd cyffrous o gerddoriaeth, symudiadau, a chrefftau traddodiadol. Uchafbwynt y digwyddiad oedd perfformiad ar yr erhu gan y cerddor dawnus Yushan Gao, ac mae’n siŵr fod naws hudolus yr offeryn wedi mynd â’r disgyblion i fyd arall. Cawsant hefyd gyfle i roi cynnig ar Tai Chi, a chael y profiad o lonyddwch ac egni’r grefft ymladd hynafol hon.
Roedd y creadigrwydd yn llifo yn y gweithdai torri papur a gwneud breichledau, wrth i’r disgyblion greu dyluniadau cywrain ac ategolion lliwgar. Cafodd pawb gadw eu creadigaethau i gofio am yr achlysur ac am yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu am draddodiadau Tsieina.
Roedd y disgyblion yn chwilfrydig iawn gan ofyn cwestiynau ac ymgysylltu'n llawn â phob gweithgaredd. Roedd y digwyddiad yn rhan o ymrwymiad parhaus Sefydliad Confucius i ddod â phrofiadau diwylliannol i ysgolion lleol, gan gyfoethogi dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae’r gweithdai’n llwyddo i amlygu’r llawenydd y gall rhywun ei gael wrth archwilio traddodiadau newydd ac yn amlygu pa mor rymus yw cyfnewid diwylliannol ym myd addysg.