Hwyl Ddiwylliannol yn Sefydliad Confucius: Diwrnod Agored Gemau Tsieineaidd Traddodiadol
Ar 6 Rhagfyr, cynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor Ddiwrnod Agored difyr. Roedd gwahoddiad i fwynhau byd hynod ddiddorol y gemau Tsieineaidd traddodiadol.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys siwrnai ryngweithiol trwy gemau bwrdd hynafol Tsieina, ac ymchwilio i'w hanes a'u gwreiddiau. Bu’n gyfle i fwynhau her ddeallusol Go (围棋), chwarae strategol Gwyddbwyll Tsieineaidd (象棋), a hwyl gymdeithasol Mahjong (麻将). Mi aethant hefyd i’r afael â phosau traddodiadol fel Huarongdao (华容道) a’r Naw Modrwy (九连环). Bu’n ddiwrnod difyr a hwyliog.
Wrth i'r flwyddyn ddirwyn i ben, mae Sefydliad Confucius yn falch o gyhoeddi Diwrnod Agored olaf 2024, ar 13 Rhagfyr. Bydd y digwyddiad yn dymhorol ei naws a bydd yn dathlu cerddoriaeth a dawns Tsieineaidd, gan gynnwys cerddoriaeth a pherfformiadau dawns hudolus. P'un a ydych yn chwilio am brofiad diwylliannol ysbrydoledig neu ffordd o fwynhau'r tymor, mae'r digwyddiad yn argoeli’n un llawen.
Peidiwch â cholli cyfle gwych i gloi'r flwyddyn gyda hwyl yr ŵyl a darganfyddiad diwylliannol!