Michelle Yim yn dod â'r Dywysoges Der Ling yn Fyw mewn Unawd Gwych!
Neithiwr, swynodd Michelle Yim y gynulleidfa yn adeilad Pontio gyda’i phortread pwerus o’r Dywysoges Der Ling, ffigwr hanesyddol rhyfeddol o linach y Qing. Roedd y perfformiad unigol bythgofiadwy hwn, a gyflwynwyd gan Red Dragon Fly Productions, yn rhan o’r digwyddiadau i ddathlu 140 o flynyddoedd ers sefydlu Prifysgol Bangor a drefnwyd gan Sefydliad Confucius.
Trwy straeon bywiog, emosiwn twymgalon, a mymryn o hiwmor, bu Michelle yn adrodd hanes bywyd y Dywysoges Der Ling, gan archwilio themâu cydraddoldeb rhyw, hunaniaeth ddiwylliannol, a gwytnwch. Roedd y cysylltiad rhwng genedigaeth y Dywysoges Der Ling ym 1885 a sefydlu Prifysgol Bangor ym 1884 yn ychwanegu ystyr at y noson gofiadwy hon.
Diolch enfawr i Gwenan Hine, ysgrifennydd Prifysgol Bangor, am ei gair o groeso, a osododd y naws ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn.
Roedd y cynhyrchiad yn atseinio’n ddwfn gyda’r gynulleidfa, a fynegodd eu hedmygedd o ddawn ac angerdd Yim. Bu llawer o’r gynulleidfa’n cymryd rhan mewn trafodaethau bywiog gan longyfarch y gantores, oedd yn adlewyrchu effaith ddwys ei pherfformiad.
Roedd perfformiad Michelle yn orfoleddus ac yn dyst i bŵer theatr i addysgu, ysbrydoli, a chysylltu ar draws cenedlaethau. Am ddathliad addas o'n hanes a'n treftadaeth ddiwylliannol!