MYFYRWYR TSIEINEAIDD YN YMUNO Â DWY YSGOL HAF AR-LEIN!
Cyd-gynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor a Phrifysgol Gwyddor Wleidyddol a Chyfraith Tsieina ysgolion haf ar-lein ar feddwl beirniadol creadigol ac ar y Saesneg a diwylliant Prydain. Yn ystod y tair wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf, bu’r myfyrwyr yn dysgu sgiliau academaidd a bywyd, yn archwilio diwylliant a bywyd cymdeithasol Bangor, yn ymarfer ynganu Saesneg, ac yn trafod ffeithiau diddorol am Gyfraith Prydain.
Cafodd yr Ysgolion Haf eu dylunio a’u cyflwyno gan Anthony Brooks rhwng 3 a 21 Gorffennaf! Meddai Anthony:
'Roedd sylwi ar fyfyrwyr yr haf hwn a’u cynnydd yn eu hyder wrth siarad – sef y tro cyntaf i lawer ohonynt gyda siaradwr Saesneg brodorol – yn rhoi llawer o foddhad. Yn ystod y cwrs deg rhan hirach, 'Meddwl yn Feirniadol Allan o'r Bocs', tyfodd ymwybyddiaeth y cyfranogwr o sut i ymgysylltu'n weithredol ag unrhyw bwnc fesul sesiwn. Daethant i ymateb yn reddfol i enghreifftiau o ragfarn, rhagdybiaeth, a rhethreg, yn ogystal â chydbwysedd, perthnasedd, a dadansoddi’n deg. Dywedodd un myfyriwr yn graff fod y sesiynau hynny'n teimlo fel "taith", a dyna'n union y bwriadwyd iddynt fod. Yn olaf, yn sesiynau olaf y ddau gwrs, anogwyd myfyrwyr ac fe wnaethant ymateb yn dda i'r cyfle i ofyn cwestiynau craff a threiddgar.'
Roedd yr ymateb yn gadarnhaol dros ben, gyda dros 96% o'r myfyrwyr yn nodi bod yr ysgol haf yn rhagorol. Dywedodd un o’r myfyrwyr:
"Roeddwn mor ffodus i fachu’r cyfle i gymryd rhan gan fod y cwotâu ar gyfer y cwrs yn llawn tua munud ar ôl i’n hathro anfon y wybodaeth. Roedd Anthony, athro'r cwrs, yn garedig ac yn broffesiynol. Arweiniodd y myfyrwyr yn ôl eu galluoedd. Fe wnaeth hyd yn oed fy ngalluogi i ddangos fy nhalentau a’m hannog, gan fy ngwneud yn fwy hyderus. Cyfunodd fy nghyflwyniad byr â'i ddarlith, a oedd yn rhagorol. Yn fwy na hynny, mae cynnwys ei gwrs yn gyfoethog a diddorol. Rydw i’n gweld fy nghynnydd o ran Saesneg llafar a meddwl yn feirniadol. Roeddwn i’n ffodus iawn cwrdd ag Anthony; Dwi mor ddiolchgar!'
Dywedodd Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius: 'Dyma'r drydedd flwyddyn i ni gynnal yr Ysgolion Haf, ac rydym wrth ein bodd bod y myfyrwyr yn eu cael yn werthfawr ac yn eu mwynhau! Diolchwn i Anthony Brooks o’r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS) ym Mhrifysgol Bangor am ddarparu sesiynau cyffrous, deniadol a rhyngweithiol er gwaethaf y nifer fawr o fyfyrwyr yn ei ddosbarthiadau. Gobeithiwn y bydd myfyrwyr o'r brifysgol sy’n bartner inni, CUPL, yn gallu ymuno â’r ysgol haf y flwyddyn nesaf yn y cnawd a chael golwg ymarferol o'r iaith Saesneg mewn cyd-destun academaidd.