O Iaith i Gelfyddyd: Gweithdy Creadigol Sefydliad Confucius gyda Sgowtiaid Beavers 1af Porthaethwy!
Roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd i gwt Sgowtiaid Beavers cyntaf Porthaethwy ar 7 Tachwedd i arwain gweithdy arbennig yn cyflwyno’r Sgowtiaid ifanc i iaith a diwylliant Tsieina. Cafodd ein tîm fwynhau awyrgylch cynnes a bywiog wrth i ni rannu ymadroddion Mandarin sylfaenol a chynnal sesiwn torri papur creadigol gyda'r Beavers.
Dechreuodd y gweithdy gyda sesiwn Mandarin ryngweithiol, lle aeth y Sgowtiaid ati’n eiddgar i ddysgu cyfarchion syml ac ymarfer ysgrifennu eu henwau mewn nodau Tsieineaidd. Roedd eu brwdfrydedd yn wirioneddol heintus, ac roedd yn wych gweld pa mor gyflym y gwnaethant ddysgu'r sgiliau iaith newydd hyn.
Yn dilyn hyn, aeth y Sgowtiaid i afael â gweithgaredd torri papur Panda, gan archwilio celf draddodiadol Tsieineaidd o dorri papur. Aethant ati’n frwdfrydig, gyda sisyrnau a phapur lliw, i greu dyluniadau Panda hardd. Roedd y gweithgaredd ymarferol hwn yn cynnig ffordd greadigol o ymgysylltu â sgiliau echddygol manwl ac roedd hefyd yn dyfnhau eu gwerthfawrogiad o ddiwylliant Tsieineaidd.
Diolch i Sgowtiaid Beavers cyntaf Porthaethwy am ein gwahodd, ac am eu cyfranogiad gwych. Rydym yn edrych ymlaen at fwy o gyfleoedd i gyflwyno profiadau iaith a diwylliant Tsieina i grwpiau cymunedol, gan feithrin chwilfrydedd a dealltwriaeth ryngddiwylliannol ymhlith dysgwyr ifanc.
Rhannodd Sara Jones, rhiant wirfoddolwr, ei hadborth ar y sesiwn:
“Dyma e-bost cyflym i ddweud diolch YN FAWR i’r tîm a ddaeth draw i weithio gyda’r Beavers neithiwr. Roedd yn noson wych gyda phob un o’r Beavers yn ymgysylltu â’r gweithgareddau. Roedd y tîm mor gyfeillgar, caredig a phroffesiynol, ac yn wych gyda'r plant. Fe wnaethon ni i gyd fwynhau dysgu rhai geiriau newydd, y canu, ac wrth gwrs gwneud ein dyluniadau Panda papur ein hunain (fe ymunodd yr arweinwyr hyd yn oed!). Roedd y Beavers wrth eu bodd yn ysgrifennu eu henwau mewn Mandarin ar eu lluniau hefyd a dysgu sut i'w ynganu. Roedd yn sesiwn mor wych.”