Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor a Swyddfa Sefydliad Confucius Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddol a Chyfraith Tsieina yn Dathlu Pedwar Blwyddyn o Ysgol Haf Ar-lein Lwyddiannus
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Swyddfa Sefydliad Confucius Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddol a Chyfraith Tsieina, wedi cwblhau ei phedwaredd Ysgol Haf Ar-lein flynyddol, ar Iaith a Diwylliant Saesneg, yn llwyddiannus. Roedd rhaglen eleni unwaith eto’n cynnig profiad trochi a chyfoethog i fyfyrwyr Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddol a Chyfraith Tsieina, a oedd yn ceisio gwella eu sgiliau Saesneg ac atgyfnerthu eu dealltwriaeth o ddiwylliant Prydain.
Roedd ysgol haf eleni, a gynhaliwyd rhwng 15 Gorffennaf ac 19 Gorffennaf, yn cynnwys cwricwlwm cyfun wedi'i deilwra i gwrdd â diddordebau amrywiol.
"Rydym wrth ein bodd yn parhau i gynnig y cyfle addysgol unigryw hwn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol," meddai Dr Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. “Mae ein hysgol haf wedi’i chynllunio i wella hyfedredd Saesneg yr unigolion sy’n cymryd rhan, yn ogystal â darparu dealltwriaeth ddofn ac ystyrlon o ddiwylliant Prydain, sy’n hanfodol i unrhyw un sydd eisiau ymgysylltu â’r Deyrnas Unedig ar unrhyw lefel.”
Mae myfyrwyr Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddol a Chyfraith Tsieina wedi canmol y rhaglen am ansawdd uchel ei chynnwys, cyfarwyddyd arbenigol gan Anthony Brooks, sef darlithydd y cwrs, a'r mewnwelediadau diwylliannol amhrisiadwy a enillwyd. Mae'r fformat ar-lein yn sicrhau hygyrchedd i bawb, gan ganiatáu i ddysgwyr ymuno yr holl ffordd o Tsieina.