Y Gymuned yn Un i Ddathlu Diwrnod Tai Chi y Byd yn Pontio!
Ar fore Sadwrn, 27 Ebrill, daeth nifer sy’n ymddiddori mewn Tai Chi ynghyd yn Pontio i ddathlu Diwrnod Tai Chi y Byd. Aethant ati mewn llonyddwch i ymarfer Tai Chi, dan arweiniad hyfforddwyr profiadol yn erbyn cefnlen odidog Pontio.
"Rydym wrth ein boddau â’r ymateb i Ddiwrnod Tai Chi y Byd," meddai Xianke Zhang, sy’n diwtor Tai Chi yn Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. “Mae’n braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu’r gamp hynafol hon, gan hyrwyddo lles cyfannol ac ymwybyddiaeth ofalgar.”
Roedd y digwyddiad yn tystio i apêl barhaus Tai Chi, gan feithrin undod ymhlith y cyfranogwyr wrth iddynt geisio heddwch a lles mewnol. Bu'n ddathliad cofiadwy gan nodi ymrwymiad o'r newydd i iechyd a harmoni yng nghymuned Bangor.