Ysgol Treffos yn Dathlu Blwyddyn y Neidr gyda Chyfuniad Afieithus o Tai Chi, Dawns Tsieineaidd, a Cherddoriaeth Erhu!
Ar 31 Ionawr, cynhaliodd Ysgol Treffos, ysgol gynradd annibynnol flaenllaw sy'n ymroddedig i feithrin creadigrwydd, chwilfrydedd, a dealltwriaeth ddiwylliannol, ddathliad deinamig i groesawu Blwyddyn Newydd Tsieineaidd y Neidr.
Cafodd y myfyrwyr a’r staff brofiad diwylliannol cyfoethog gan gynnwys cymysgedd difyr o arddangosiadau Tai Chi, dawns draddodiadol Tsieineaidd, a pherfformiad swynol ar yr Erhu. Bu’r perfformiadau hynny, ynghyd â gweithdai rhyngweithiol, yn fodd i’r myfyrwyr archwilio technegau dawns Tsieineaidd a gwerthfawrogi arwyddocâd Blwyddyn y Neidr.
Dywedodd athrawon yr ysgol ynghylch y digwyddiad: “Sesiwn hyfryd a oedd yn ennyn diddordeb y plant i’r eithaf. Roedd yna gymysgedd hyfryd o berfformiadau dawns a cherddoriaeth, ynghyd ag arddangosiadau clir a hawdd eu dilyn a oedd yn caniatáu i'r plant gymryd rhan. Diolch i chi am eich amser heddiw.
Bu’n ddathliad cofiadwy ac yn gyfle gwych i’r myfyrwyr gysylltu â thraddodiadau Tsieina trwy symud, cerddoriaeth a dysgu ymarferol.