Ysgolion Lleol yn Dathlu Gŵyl y Gwanwyn!
Ymunodd disgyblion o Ysgol Ffordd Dyffryn, Ysgol Friars, Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Gynradd Rhosneigr ac Ysgol Gymuned Bryngwran i ddathlu gŵyl y gwanwyn. Neilltuodd pob ysgol ddiwrnod rhwng Chwefror 19 a 23 i drwytho eu disgyblion yn harddwch celf a chrefft Tsieineaidd, gan arwain at wythnos yn llawn profiadau ystyrlon a oedd yn cryfhau cysylltiadau cymunedol.
Trwy gydol y dathliad, bu disgyblion yn cymryd rhan weithredol mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a drefnwyd yn ofalus i arddangos y tapestri cyfoethog o ddiwylliant Tsieineaidd, gyda phob dydd yn cynnig profiad dysgu unigryw a chofiadwy i bob disgybl.
Roedd tiwtoriaid ac addysgwyr yn allweddol wrth arwain y disgyblion trwy'r gweithgareddau diwylliannol hyn, gan lenwi’r dathliadau gyda'u brwdfrydedd a'u harbenigedd. Llwyddwyd i ddathlu gŵyl y gwanwyn a hefyd creu awyrgylch llawn llawenydd a chyfeillgarwch yng nghymuned pob ysgol.
Wrth i ni adfyfyrio ar yr wythnos lwyddiannus hon o gyfnewid diwylliannol, mae’r ysgolion wedi mynegi eu brwdfrydedd ynglŷn â chyfleoedd yn y dyfodol i ddathlu’r diwylliannau amrywiol sy’n cyfrannu at yr amgylchedd dysgu cyfoethog yn y gymuned.
Bu Miss Tilbury, athrawes trydedd flwyddyn yn Ysgol Ffordd Dyffryn, yn canmol diddordeb a mwynhad y disgyblion trwy gydol y sesiynau. Diolchodd yn ddiffuant am yr adnoddau gwerth chweil a phwysleisiodd effaith gadarnhaol y profiad arni hi a'i disgyblion. Adleisiwyd ei theimladau gan Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Friars, Ysgol Gynradd Rhosneigr ac Ysgol Gymuned Bryngwran, sydd wedi nodi eu diolch diffuant am y cyfle i gymryd rhan yn yr ŵyl arbennig hon. Maent yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddathliadau pellach i hyrwyddo amrywiaeth ac undod byd-eang, gan feithrin ymdeimlad o gyfeillgarwch ymhlith yr holl gyfranogwyr.
"Diolch am sesiwn fendigedig!" meddai Miss Tilbury, gan grynhoi diolchgarwch a brwdfrydedd pawb.