Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs dysgu cyfunol yw hwn, cod y modiwl yw NHS-4228. Mae’n agored i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda chorff rheoleiddio yn y Deyrnas Unedig ac sy'n gweithio mewn rôl sy’n wynebu’r claf.
Bydd y modiwl yn dechrau ar 5 Chwefror 2025, yn semester 2 y flwyddyn academaidd 2024-2025.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, parafeddygon a fferyllwyr sy'n dymuno datblygu cwmpas eu hymarfer er budd gofal cleifion. Mae'r modiwl hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n dymuno ennill technegau archwilio corfforol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi diagnosis a rheolaeth mewn cleifion â chyflyrau diwahaniaeth a chyflyrau heb eu diagnosio.
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i fabwysiadu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud archwiliad corfforol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gleifion sydd ag amrywiaeth o gyflyrau a symptomau diwahaniaeth. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae ehangu cwmpas eich ymarfer yn effeithio ar eich atebolrwydd fel gweithiwr iechyd proffesiynol.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y modiwl bob dydd Mercher, rhwng 09:30 a 16:00 o'r gloch ar ein campws ym Mangor. Bydd yn dechrau ar 5 Chwefror a'r diwrnod addysgu olaf fydd 30 Ebrill.
Mae’r wythnosau canlynol fel arfer yn wythnosau astudio dan gyfarwyddyd:
- 12 Chwefror 2025
- 2 Ebrill 2025
Mae’r wythnosau canlynol fel arfer yn cael eu neilltuo ar gyfer astudio hunangyfeiriedig i baratoi ar gyfer aseiniadau:
- 26 Chwefror 2025
- 23 Ebrill 2025
- 7 Mai 2025
- 14 Mai 2025
- 21 Mai 2025
- 28 Mai 2025
Fel arfer cynhelir arholiadau ymarferol naill ai ar 4 Mehefin neu 11 Mehefin, gyda'r aseiniadau terfynol i’w cyflwyno ym mis Medi 2025.
Tiwtor
Ffion yw arweinydd yr MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch, yn ogystal ag arweinydd y cyrsiau presgripsiynu ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Ffion hefyd yn ddirprwy gadeirydd Rhwydwaith Addysgwyr Ymarfer Uwch Cymru (WAPEN).
Cymhwysodd Ffion fel nyrs gofrestredig yn 1996 ac fel presgripsiynydd annibynnol yn 2011. Cwblhaodd ei MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2012 a gweithiodd fel ACP mewn meddygaeth acíwt am 6 mlynedd cyn ymuno â'r Brifysgol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ar y modiwl hwn, cewch eich addysgu gan uwch ymarferwyr clinigol profiadol a chlinigwyr eraill o wahanol gefndiroedd proffesiynol. Cefnogir yr addysgu gan glinigwyr arbenigol i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol i ymarfer clinigol.
Erbyn diwedd y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn gallu gwerthfawrogi, deall ac arddangos sgiliau archwilio corfforol yn y pedair system graidd. Byddwch hefyd yn datblygu gwell dealltwriaeth o resymu diagnostig ac atebolrwydd proffesiynol, cyfreithiol a moesegol.
Beth fyddwch chi yn astudio ar y cwrs ?
Trefnir y modiwl hwn yn unedau dysgu a fydd yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
- nodweddion anatomegol
- asesiad cyhyrysgerbydol o’r breichiau a’r coesau
- ymchwiliadau biocemeg i gefnogi diagnosis a rheolaeth
- dehongli nwy gwaed y rhydwelïau
- ymchwiliadau haematoleg i gefnogi diagnosis a rheolaeth
- archwiliad niwrolegol
- archwiliad cardiofasgwlar
- archwiliad resbiradol
- archwiliad gastroberfeddol
- cofnodi a dehongli ECG
- dehongli pelydr-X
- deall rôl ymchwiliadau mewn diagnosis a rheolaeth
- rhesymu diagnostig
- atebolrwydd
Cost y Cwrs
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gall ysgoloriaethau fod ar gael ar gyfer y Cwrs Byr hwn, cysylltwch â'r tîm i drafod ymhellach.
Gofynion Mynediad
Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar radd BSc israddedig 2:2 neu uwch o Sefydliad Addysg Uwch cydnabyddedig.
Mae profiad cysylltiedig ag iechyd neu ofal yn fuddiol ar gyfer y cwrs byr hwn.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Archwiliad Corfforol a Diagnosteg : y cod yw NHS-4228. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
(nid oes angen darparu manylion yma) Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol