Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Caiff y cwrs byr, lefel 7 rhan-amser hwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor gyda rhywfaint o ddysgu ar-lein (dull dysgu cyfunol)
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r modiwl hwn wedi'i anelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, fferyllwyr, nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffwyr, a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig o broffesiynau eraill, sy'n gyfrifol am ofal cleifion, arweinyddiaeth, ansawdd a diogelwch.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr werthuso'n feirniadol y sefydliad a chyd-destunau ehangach ar gyfer gwella ansawdd mewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol o wahanol safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol.
Mae cynnwys y cwrs byr hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr nodi, cymhwyso a gwerthuso'n feirinadol strategaethau ac ymyriadau i gefnogi gwelliannau yn ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol.
Trwy ddysgu gweithredol, bydd dysgwyr yn cael eu hannog i adfyfyrio a dysgu o'u heriau arweinyddiaeth eu hunain a'r sgiliau hwyluso a ddefnyddir yn eu gwaith proffesiynol
Pa mor hir mae’n cymryd i gwblhau’r cwrs?
Cyflwynir y cwrs byr hwn fel rheol dros 11 wythnos yn ystod semester 1 o'r flwyddyn academaidd, ac mae’n cynnwys:
- 9 x prynhawn o ddarlithoedd wyneb yn wyneb (ar ein campws ym Mangor, unwaith yr wythnos dros 9 wythnos)
- 2 x sesiwn awr ar-lein gyda’r nos (dros bythefnos )
- astudio hunan-gyfeiriedig
Bydd asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Cyfrannu 1,000 o eiriau i’r fforymau trafod (o fewn 11 wythnos i ddyddiad dechrau’r modiwl).
- Traethawd (3,000 o eiriau). Wedi'i gyflwyno o fewn 19 wythnos i ddyddiad dechrau’r cwrs.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr werthuso'n feirniadol y sefydliad a chyd-destunau ehangach ar gyfer gwella ansawdd mewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol o wahanol safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol.
Mae cynnwys y cwrs byr hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr nodi, cymhwyso a gwerthuso'n feirinadol strategaethau ac ymyriadau i gefnogi gwelliannau yn ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol.
Trwy ddysgu gweithredol, bydd dysgwyr yn cael eu hannog i adfyfyrio a dysgu o'u heriau arweinyddiaeth eu hunain a'r sgiliau hwyluso a ddefnyddir yn eu gwaith proffesiynol.
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Erbyn diwedd y cwrs byr hwn, bydd myfyrwyr yn gallu:
- Dadansoddi a thrafod yn feirniadol gyfraniad ystod eang o ddisgyblaethau at theori ac ymarfer arwain gwelliannau ansawdd er mwyn i'r dysgwr allu dewis y dulliau mwyaf priodol i gyflawni gwelliant o ran canlyniadau
- Archwilio’n feirniadol swyddogaeth y dysgwr ei hun, swyddogaeth unigolion eraill, y sefydliad a’r cyd-destun ehangach wrth lywio gwella ansawdd er mwyn arwain yn effeithiol a chyflawni gwelliannau ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau
- Gwerthuso’r defnydd o ddamcaniaeth i ddangos y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i arwain tîm amlddisgyblaethol i wella iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn i’r dysgwr gael dealltwriaeth o’r risgiau a rheoli risgiau sydd eu hangen i gyflwyno gwelliannau ansawdd effeithiol, effeithlon a derbyniol
- Archwilio ac adolygu’n feirniadol y broses rheoli newid sy’n gysylltiedig â chyflwyno gwelliannau er mwyn i’r dysgwr allu arwain newid yn y modd mwyaf priodol a gwireddu buddion gwelliant
- Adolygu a gwerthuso’n feirniadol technegau ac offer a ddefnyddir yn y broses o arwain ansawdd a gwelliant mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach
Gofynion Mynediad
Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar radd BSc israddedig 2:2 neu uwch o Sefydliad Addysg Uwch cydnabyddedig.
Mae profiad cysylltiedig ag iechyd neu ofal yn fuddiol ar gyfer y cwrs byr hwn.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Arweinyddiaeth mewn Cyd-destun: y cod yw NHS-4380. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
(nid oes angen darparu manylion yma) Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol