Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs yn adeiladu ar y diddordeb yn nigwyddiad Hanes ‘Coleg ar y Bryn’ Bangor at 140 mlwyddiant y Brifysgol, ac mae’n archwilio gwahanol agweddau ar hanes a threftadaeth gogledd Cymru. Mae ein haneswyr a’n harcheolegwyr yn arbenigwyr brwd dros eu meysydd. Cafodd y cwrs ei gynllunio i gyflwyno rhai o’r agweddau mwyaf dadleuol ar hanes lleol a chymunedol.
Ar gyfer pwy?
Dros bedair wythnos, bydd y cyfranogwyr yn archwilio:
- Cestyll Cymru: Ddoe a Heddiw (gyda Dr Euryn Roberts)
- Y Plastai a thirwedd Cymru (gyda Dr Lowri Ann Rees)
- Cestyll Tywod a’r Haul yn Rhyl (gyda Dr Mari Wiliam)
- Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol: Defnyddiau newidiol Chwareli Llechi Cymru (gyda Dr Leona Huey)
Deilliannau Dysgu
- Ymwybyddiaeth o hanes a threftadaeth gogledd Cymru
- Dealltwriaeth o ffyrdd o herio hanes lleol
Manteision y cwrs
- Gwybodaeth hanesyddol ehangach
- Cwrdd â phobl o'r un anian.
- Darganfod beth mae Tîm Hanes Bangor yn ei gynnig
Hyd
4 wythnos, 2 awr o dosbarthiadau yr wythnos
Tiwtoriaid
Dr Marc Collinson (Convenor)
Dr Lowri Ann Rees
Cwblhaodd Dr Rees ei BA, MA a PhD mewn Hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Fel Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, mae gwaith dysgu Dr Rees yn canolbwyntio ar hanes Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cwblhaodd ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch ym Mhrifysgol Bangor, ac mae’n Gymrawd Hŷn o’r Academi Addysg Uwch. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar Gymru’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig hanes y bonedd ac ystadau. Mae Dr Rees wedi cyhoeddi ar dadolaeth a phrotest yng nghefn gwlad Cymru, Terfysgoedd Beca, y stiward tir, cyfoeth newydd a mudoledd cymdeithasol, a Cymry yn preswylio yn India.
Dr Mari Wiliam
Mi nes i benderfynu astudio Hanes yn y Brifysgol am y rheswm syml fy mod i'n mwynhau'r pwnc, a dwi dal yn ei fwynhau: ma' 'na wastad bethe newydd i'w dysgu, ac mae'r chwilfrydedd yma'n help i ddeall y byd heddiw. Felly, dros 20 mlynedd ers i mi ddod i Brifysgol Bangor fel myfyriwr is-radd (wedyn MA a PhD) dwi dal yma, ac yn Ddarlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru ers 2013.
Dwi'n edrych yn bennaf ar hanes o ddiwedd oes Victoria hyd at ddechrau'r 21ain ganrif, ac mae gen i ddau brif ddiddordeb yn fy ymchwil ac addysgu. Yn gyntaf, edrych ar hunaniaethau cenedlaethol, yn benodol yng Nghymru. Yn ail, archwilio hanes bywyd-bob-dydd, sy'n rhoi golwg i ni ar sut mae pobl wedi byw yn y gorffennol. Gyda'i gilydd mae hyn yn golygu fod llawer o fy modiwlau i'n eclectig o ran cynnwys, ac efo trafodaethau am bynciau sy'n ymestyn o genedlaetholdeb, y frenhiniaeth, datganoli a rhywedd i feysydd fel y diwydiant niwclear, astudiaethau tirlun a hanesion bwyd, anifeiliaid a thatŵs.
Dwi ar hyn o bryd yn ysgrifennu monograff ar ogledd-ddwyrain Cymru rhwng 1950 a 1962, yn ymwneud efo projectau hanes llafar trwy Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) ac yn cydweithio ar ymchwil i gymunedau niwclear yng ngogledd Cymru. Dwi'n mwynhau sgwrsio am fy ymchwil efo cymdeithasau hanes lleol ac ysgolion. Dwi hefyd yn cyfrannu ar y teledu a radio i drafod pynciau fel y frenhiniaeth a chenedlaetholdeb.
Dr Euryn Roberts
Euryn Rhys Roberts yw Darlithydd mewn Hanes Canoloesol a Hanes Cymru. Astudiodd am ei ddoethuriaeth ym Mangor dan oruchwyliaeth yr Athro Huw Pryce, ar ôl ennill gradd MA (Hanes Cymru) o Fangor a gradd BA (Hanes Modern) o Brifysgol Rhydychen. Mae'n arbenigo yn hanes Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol ac mae hefyd â diddordeb yn y ffordd y defnyddir a chyflwynir y gorffennol canoloesol yng Nghymru gyfoes. Mae'n dysgu ar wahanol agweddau ar hanes canoloesol Prydain ac Ewrop.
Dr Leona Huey
Mae maes astudio cyfredol Leona mewn archeoleg ôl-ganoloesol, gyda ffocws ar claddedigaeth, caethiwed a gwrthdaro. Mae safleoedd archeolegol o dan ymchwiliad presennol yn cynnwys gwersyll Carcharorion Rhyfel Frongoch.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Sesiynau yn cael ei cynnal ar y dyddiadau yma:
- 19 Mawrth 2025: Y Castellau o Gymru - Dr Euryn Roberts
- 26 Mawrth 2025: Y Tŷ Gwledig Cymreig - Dr Lowri Ann Rees
- 2 Ebrill 2025: Defnyddiau newidiol Chwareli Llechi Cymru - Dr Leona Huey
- 9 Ebrill 2025: Castellau Tywod a 'Rhyl Heulog' - Dr Mari Wiliam