Ynglŷn â’r Cwrs Yma
1-5 Medi 2025
Mae Visceral Mind yn gwrs niwroanatomeg weithredol, a fwriedir i:
- ymchwilwyr ôl-radd, ymchwilwyr ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n astudio niwrowyddoniaeth wybyddol a disgyblaethau cysylltiedig.
- ymarferwyr clinigol, meddygol a pherthynol i iechyd sy’n aelodau o gorff goruchwylio proffesiynol neu statudol.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Dysgir niwroanatomeg gweithredol yng nghyd-destun cleifion niwrolegol gydag amhariadau oherwydd namau canolog i'r ymennydd, a dosbarthiadau niwroanatomeg ymarferol gyda meinwe'r ymennydd dynol – i ddod â niwroanatomeg yn fyw a'i wneud yn berthnasol i fyfyrwyr niwrowyddoniaeth wybyddol.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Medi 1-5 2025
Mae Visceral Mind yn Ysgol Haf breswyl 5 diwrnod flynyddol a ddarperir ar ein campws ym Mangor a'r cyffiniau.
Mae cofrestru'n cynnwys:
- Llety (gwely a brecwast) am 6 noson mewn ystafelloedd en suite ym Mhrifysgol Bangor
- Ffioedd cwrs a mainc gan gynnwys cynhadledd cleifion, dyraniad yr ymennydd a darlithoedd
- Cinio’r gynhadledd, cinio canol dydd a phaneidiau
- Taith yng ngogledd Cymru
Tiwtoriaid Visceral Mind
Oliver Turnbull, Athro Niwroseicoleg
Arweinydd y rhaglen Visceral Mind
Mae gan yr Athro Turnbull ddiddordeb hir sefydlog mewn dysgu niwroanatomeg trwy luniadu, a hefyd peintio, delweddau o’r ymennydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymdrin ag emosiwn a'i ganlyniadau niferus i fywyd y meddwl. Mae'r rhain yn cynnwys: niwroseicoleg rheoleiddio emosiwn, dysgu ar sail emosiwn a 'greddf'; cyfraniad emosiwn at gredoau ffug, dysgu seiliedig ar atgofion o emosiwn ar ôl amnesia; a niwrowyddoniaeth seicotherapi. Mae’n awdur nifer o erthyglau gwyddonol ar y pynciau hyn, ynghyd â'r llyfr gwyddoniaeth poblogaidd ‘The Brain and the Inner World' (gyda Mark Solms). Mae'n Athro Niwroseicoleg ac yn Ddirprwy i’r Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor
Richard Binney
Dirprwy-arweinydd y rhaglen Visceral Mind
Mae Richard yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n niwroseicolegydd/niwrowyddonydd sy’n ymchwilio i’r ffordd y mae’r ymennydd dynol yn storio ac yn defnyddio ein gwybodaeth am bobl, gwrthrychau, a geiriau. Mae ganddo ddiddordebau arbennig mewn rhwydweithiau blaenarleisiol. Hefyd, mae'n ceisio deall sut mae'r galluoedd hyn yn chwalu ar ôl anaf i'r ymennydd neu afiechyd (e.e. dementia). Mae'n defnyddio mesurau ymddygiad megis amseroedd ymateb, sgoriau cywirdeb a graddfeydd goddrychol, ochr yn ochr â delweddu'r ymennydd a thechnegau ysgogi'r ymennydd.
Nils Muhlert, Manchester University
Mae gan yr Athro Turnbull ddiddordeb hir sefydlog mewn dysgu niwroanatomeg trwy luniadu, a hefyd peintio, delweddau o’r ymennydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymdrin ag emosiwn a'i ganlyniadau niferus i fywyd y meddwl. Mae'r rhain yn cynnwys: niwroseicoleg rheoleiddio emosiwn, dysgu ar sail emosiwn a 'greddf'; cyfraniad emosiwn at gredoau ffug, dysgu seiliedig ar atgofion o emosiwn ar ôl amnesia; a niwrowyddoniaeth seicotherapi. Mae’n awdur nifer o erthyglau gwyddonol ar y pynciau hyn, ynghyd â'r llyfr gwyddoniaeth poblogaidd ‘The Brain and the Inner World' (gyda Mark Solms). Mae'n Athro Niwroseicoleg ac yn Ddirprwy i’r Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor
Michel Thiebaut de Schotten, L’Institut du Cerveau et de la Moelle Épinière
Michel yw Cyfarwyddwr Ymchwil CNRS, cadeirydd yr Organization for Human brain Mapping (4000 o aelodau niwroddelweddu), prif olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid Brain Structure & Function, deiliad grant yr ERC, a phennaeth yr adran ddelweddu niwroweithredol yn Bordeaux (GIN) a’r labordy ymddygiad cysylltedd yr ymennydd ym Mharis (BCBlab). Mae ei waith yn cynnwys dros 100 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid ar gysylltedd yr ymennydd o fethodolegau niwroddelweddu newydd i waith arbrofol i theori. Yn hollbwysig, mae'n rhoi o’i amser yn sylweddol i sicrhau bod ei waith yn cael ei gyfieithu’n glinigol trwy ddull model agored sy'n gwneud ei waith yn hygyrch i'r gymuned. Datblygodd gyfres feddalwedd BCBtoolkit, set o raglenni i gyfrifiannu datgysylltiadau, sydd ar gael am ddim i'r cymunedau gwyddonol a chlinigol. Yn ddiweddar, mae wedi astudio cysylltiadau gwynnin yn y diffiniad o feysydd gweithredol. Mae ei ganfyddiadau diweddaraf yn ailddatgan cynsail sylfaenol niwrobioleg, h.y. bod cysylltedd yr ymennydd yn diffinio'r gweithrediad ac yn darparu offeryn dibynadwy i segmentu'r cortecs yn unedau ystyrlon i astudio datblygiad a chlefyd ymhlith pobl byw. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd ei atlas cyntaf o weithrediad gwynnin yn ogystal â meddalwedd newydd y functionnectome, sy'n ceisio egluro cyfraniad cylchedau gwynnin at weithrediad.
Cathryn Roberts, Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol, Gwasanaeth Anafiadau i'r Ymennydd Gogledd Cymru
Mae Cathryn yn Niwroseicolegydd Ymgynghorol sy’n gweithio yng Ngwasanaeth Anafiadau i’r Ymennydd Gogledd Cymru (NWBIS) ac mae wedi gweithio mewn gwasanaethau niwroseicoleg o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers blynyddoedd lawer. Yn ei swydd bresennol, hi yw arweinydd clinigol tîm niwroadsefydlu cymunedol rhyngddisgyblaethol i bobl sy’n byw gydag anaf caffaeledig i’r ymennydd ar draws gogledd Cymru. Mae Cathryn yn frwd dros gefnogi pobl ag anaf i’r ymennydd i addasu, gwneud y gorau o’u gweithrediad a gwella ansawdd eu bywyd trwy adsefydlu ar sail tystiolaeth. Fel rhan o’i swydd, mae hi hefyd yn cynnig asesiad ac ymgynghoriad niwroseicolegol arbenigol, yn ogystal ag addysgu a hyfforddi myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol. Yn ogystal, mae ganddi gefndir ymchwil mewn niwroseicoleg emosiwn a diddordeb arbennig mewn gweithio gyda theuluoedd ar ôl anaf i'r ymennydd.
Martyn Bracewell, Prifysgol Bangor, Niwrolegydd ac Academydd
Mae Martyn Bracewell yn Uwch Ddarlithydd Niwroleg Ymddygiadol a Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn Sefydliad Wolfson ar gyfer Niwrowyddoniaeth Glinigol a Gwybyddol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn Niwrolegydd Ymgynghorol yng Nghanolfan Niwroleg a Niwrolawdriniaeth Walton, Lerpwl a Gwasanaeth Anafiadau i’r Ymennydd Gogledd Cymru. Astudiodd feddygaeth yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen ac mae ganddo PhD mewn niwrowyddoniaeth o’r Massachusetts Institute of Technology. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys gweithrediad echddygol a gwybyddol y ganglia gwaelodol a’r serebelwm.
proffil staff Martyn Bracewell
Guillaume Thierry, Prifysgol Bangor Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol
Mae ei ddiddordeb pennaf mewn ymchwilio i brosesu ystyr yn yr ymennydd, h.y. integreiddio semantig, amrywiaeth o themâu cysylltiedig, megis datgysylltiadau geiriol/di-eiriau, adnabod gwrthrychau gweledol, canfyddiad lliw, anghymesuredd gweithredol yn yr ymennydd, rhyngweithiadau iaith ac emosiynau, datblygiad iaith, dyslecsia datblygol a dwyieithrwydd. Mae wedi cael cyllid gan y BBSRC, yr ESRC, yr AHRC, y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a’r Academi Brydeinig i ymchwilio i integreiddio semantig gan ddefnyddio mesuriadau ymddygiadol, potensial yr ymennydd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau, tracio’r llygaid a niwroddelweddu gweithredol mewn amrywiol boblogaethau a chyd-destunau. Mae ganddo hefyd hanes o drosglwyddo gwybodaeth ym maes iechyd a diogelwch, diogelu'r amgylchedd, a lles byd-eang trwy gyfrwng darlithoedd cyhoeddus, gweithdai, a digwyddiadau theatrig trochol (Cognisens, Cerebellium).
proffil staff Guillaume Thierry
Rudi Coetzer
Mae Rudi Coetzer yn Gyfarwyddwr Clinigol y Disabilities Trust UK, ac yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Cyn hynny bu’n gweithio fel niwroseicolegydd ymgynghorol a phennaeth gwasanaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am dros ugain mlynedd. Mae ar gofrestr arbenigol BPS o niwroseicolegwyr clinigol.
Kami Koldewyn
Mae prif ddiddordebau Dr Koldewyn mewn datblygiad cymdeithasol a sut rydym yn canfod, yn rhoi sylw i, yn cofio ac yn deall gwybodaeth gymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y modd mae rhanbarthau'r ymennydd sy'n ymwneud â phrosesu cymdeithasol yn cael eu tiwnio ar draws datblygiad, a sut mae Gweithrediad a chysylltedd y rhanbarthau hyn yn gallu newid mewn anhwylderau sy'n effeithio ar alluoedd cymdeithasol. Mae hi’n arwain y 'Labordy Gweledigaeth Gymdeithasol Datblygiadol' ym Mhrifysgol Bangor, sy’n cyfuno mesurau ymhlyg ac echblyg o ganfyddiad cymdeithasol, sylw cymdeithasol a dysgu cymdeithasol yn ogystal â delweddu ymennydd strwythurol a gweithredol. Mae hi’n Ddarllenydd Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn ogystal â chyd-gyfarwyddwr ymchwil Coleg y Gwyddorau Dynol ym Mhrifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Nid oes unrhyw beth a all gymryd lle’r profiad o ddyrannu ymennydd dynol, na ffordd well o ddysgu, trwy edrych a chyffwrdd, am yr ymennydd tri dimensiwn. Bwriadwyd y cwrs hwn i ymchwilwyr ôl-radd ac ôl-ddoethurol sy'n astudio niwrowyddoniaeth wybyddol. Dysgir niwroanatomeg gweithredol yng nghyd-destun cleifion niwrolegol gydag amhariadau oherwydd namau canolog i'r ymennydd, a dosbarthiadau niwroanatomeg ymarferol gyda meinwe'r ymennydd dynol – i ddod â niwroanatomeg yn fyw a'i wneud yn berthnasol i fyfyrwyr niwrowyddoniaeth wybyddol.
Byddwn yn dechrau gyda chynadleddau achos gyda chleifion ag arwyddion niwrolegol o anaf i system neu lwybr yn cael eu cyfweld a'u harchwilio, gan dynnu sylw at dechnegau archwilio niwrolegol ac egwyddorion lleoleiddio. Bydd sganiau'r claf yn cael eu hadolygu am y gydberthynas clinig-anatomegol sy'n ymwneud ag arwyddion a symptomau ag anatomeg radiolegol. Yn y labordy dyrannu, bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd â strwythur 3D yr ymennydd, trwy edrych a chyffwrdd, er mwyn cydberthyn â'r hyn byddant yn ei weld mewn cynadleddau achos a sganiau
Bydd Rhaglen Ysgol Haf Visceral Mind yn cynnwys:
Sesiynau ymarferol ar anatomeg yr ymennydd
Gan gynnwys edrych ar ddyraniadau o’r ymennydd cyfan a’r hemisffer, penglog, meninges gwaedlestriad. Bydd pawb yn cael cyfle i ddyrannu'r ymennydd yn ymarferol a defnyddio technegau dyrannu arbennig.
Cynadleddau Achos Cleifion
Dysgir niwroanatomeg gweithredol yng nghyd-destun cleifion niwrolegol gydag amhariadau oherwydd namau canolog i'r ymennydd, gan dynnu sylw at dechnegau archwiliadau niwrolegol ac egwyddorion lleoleiddio i ddod â niwroanatomeg yn fyw a'i wneud yn berthnasol i fyfyrwyr niwrowyddoniaeth wybyddol.
Darlithwyr a chyflwyniadau, gan gynnwys:
- Yr ymennydd mewn 3D
- Cyfeiriannu yn y pen: penglog, meninges a gwaedlestriad
- System weledol
- System limbig ac amnesia
- Fideos o archwiliadau o gleifion niwrolegol
- Anatomeg gwynnin
- Tractograffeg
- Adolygu sganiau a labordai niwroddelweddu
- Systemau echddygol synhwyraidd
Cost y Cwrs
1-5 Medi 2025
Mae Visceral Mind yn ysgol haf breswyl flynyddol 5 diwrnod o hyd a ddarperir ar ein campws ym Mangor a'r cyffiniau
Mae cofrestru'n cynnwys:
- Llety (gwely a brecwast) am 6 noson mewn ystafelloedd en suite ym Mhrifysgol Bangor
- Ffioedd cwrs a mainc gan gynnwys cynhadledd cleifion, dyraniad yr ymennydd a darlithoedd
- Cinio’r gynhadledd, cinio canol dydd a phaneidiau
- Taith yng ngogledd Cymru
Cost
- Preswyl - i'w gadarnhau
- Dibreswyl - i'w gadarnhau
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i fod yn gymwys i’r cwrs niwroanatomeg gweithredol hwn:
- ymchwilwyr ôl-radd, ymchwilwyr ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n astudio niwrowyddoniaeth wybyddol a disgyblaethau cysylltiedig.
- ymarferwyr clinigol, meddygol a pherthynol i iechyd sy’n aelodau o gorff goruchwylio proffesiynol neu statudol.
Gwneud Cais
1-5 Medi 2025
Llenwch y ffurflen hon os hoffech gofrestru eich diddordeb yn y cwrs Visceral Mind.
Rhoddir gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus maes o law.
Gofynion Fisa
Os yw conswl y DU yn mynnu bod gennych fisa i fynychu’r cwrs, cysylltwch â ni drwy e-bostio visceral mind@bangor.ac.uk gan nodi pa wybodaeth sydd ei angen.