Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cynhelir y cwrs hwn mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai ac Addysg Oedolion Gwynedd a Môn, fel rhan o’u fframwaith.


Nid yw athroniaeth yn ymwneud â syniadau haniaethol yn unig—mae iddi ran hanfodol yn llunio’r ffordd yr ydym yn gweld y byd ac yn gwneud synnwyr o’r heriau a wynebwn. Yn ei hanfod, mae athroniaeth yn ein hannog i gwestiynu rhagdybiaethau, meddwl yn feirniadol a chloriannu gwahanol safbwyntiau. Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn wedi ei gynllunio i rai sy’n newydd i athroniaeth, gan ddarparu archwiliad clir a hygyrch o sut mae meddwl athronyddol yn ein helpu i adfyfyrio ar rai o gyfyngderau moesegol mwyaf dybryd y byd sydd ohoni. Trwy drafod a dadansoddi, byddwn yn archwilio sut mae athroniaeth yn dyfnhau ein dealltwriaeth o faterion cyfoes o bwys ond hefyd yn arwain y broses o wneud penderfyniadau, yn cyfrannu at gyfeiriad trafodaeth gyhoeddus, ac yn herio'r ffordd yr ydym yn ymdrin â moesoldeb, cyfiawnder a hawliau dynol.
Bydd darlithoedd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y 12fed, 19eg, 26ain o Fawrth a'r 2il o Ebrill rhwng 6pm-8pm.
Deillianau dysgwyr?
Bob wythnos, byddwn yn archwilio mater gwahanol, gan ystyried sut mae athronwyr wedi mynd i’r afael â’r dadleuon cymhleth hyn:
- A ddylem ni allu gwerthu ein horganau mewnol? Ymreolaeth, camfanteisio a moeseg perchnogaeth gorfforol.
- A ellir byth gyfiawnhau rhyfeloedd, neu ai heddychiaeth ddylai fod y safiad moesegol eithaf? Damcaniaeth rhyfel cyfiawn, di-drais a chost foesol gwrthdaro.
- Caethwasiaeth fodern: Sut mae athroniaeth yn ein helpu i wynebu gormes, camfanteisio ac urddas pobl.
- A yw canibaliaeth bob amser yn anfoesol? Moeseg goroesi, perthnasedd diwylliannol a ffiniau moesoldeb.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n chwilfrydig am sut mae athroniaeth yn berthnasol i fywyd bob dydd a dadleuon cyfoes. P'un a ydych wedi astudio athroniaeth o'r blaen neu'n gwbl newydd i'r pwnc, byddwch yn cael gwybodaeth werthfawr am sut mae meddwl athronyddol yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth o'r byd.
Tiwtor
Dr. Joshua Andrews

Dr. Joshua Andrews yw darlithydd mewn Crefyddau Asiaidd ym Mhrifysgol Bangor, lle mae hefyd yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Ymgysylltu Myfyrwyr yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith, a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae ei arbenigedd yn ymwneud â Chrefyddau Asiaidd, gyda ffocws arbennig ar Hindŵaeth a Bwdhaeth. Yn ogystal â'i weithgareddau academaidd, mae Dr. Andrews wedi datblygu diddordeb gwirioneddol mewn Existentialaeth, a arweiniodd ef i gwblhau ei PhD, gan archwilio'r berthynas rhwng meddwl existentialaidd Soren Kierkegaard a athroniaeth Fwdhaidd.
Mae diddordebau ymchwil Joshua wedi dylanwadu ar ei ddysgu, gan arwain ef i ddatblygu ystod o fodiwlau sy'n archwilio crefyddau Asiaidd a'u hymatebion i faterion fel rhyw, rhywedd, yr argyfwng amgylcheddol, a materion hawliau dynol. Ynghyd â chrefyddau Asiaidd, mae Joshua hefyd yn dysgu existentialaeth, moeseg, ac athroniaeth wleidyddol.