Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs yn dechrau gyda chyflwyniad byr ar ddementia a'i effaith ar deuluoedd, gan gynnwys pobl ifanc. Yna bydd yn cyflwyno iSupport for Young People, esbonio sut cafodd ei greu, ei gynulleidfa darged ac yna bydd yn disgrifio sut mae wedi ei strwythuro (modiwlau, sesiynau, ymarferion). Yna bydd yn mynd trwy bob un o bum modiwl iSupport for Young People gan egluro eu pwrpas a’u cynnwys:
Modiwl 1: Cyflwyniad i ddementia.
Modiwl 2: Bod yn ofalwr.
Modiwl 3: Gofalu amdanaf fy hun.
Modiwl 4: Darparu gofal bob dydd.
Modiwl 5: Delio â newidiadau ymddygiad.
Bydd y cwrs yn cloi gydag esboniad o sut gellir cael mynediad i’r rhaglen (iSupport for Young People) a’i rhannu â sefydliadau, gweithwyr proffesiynol a theuluoedd.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae o tua awr o ddeunydd dysgu ynghlwm a’r cwrs, ac awgrymir y bydd dysgwyr yn rhoi hyd at 2 awr ychwanegol o’u hamser i gael y mwyaf allan o’r cwrs hwn. Mae’r cwrs yn cynnig 3 awr ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Pam Astudio'r cwrs hwn?
Bydd y cwrs iSupport for Young People yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad i weithwyr proffesiynol a theuluoedd ynglŷn â sut i ddefnyddio iSupport for Young People i roi'r cymorth gorau i bobl ifanc sy'n helpu i ofalu am aelod o'r teulu sy’n byw gyda dementia.
Bydd y cwrs hwn yn :
- Codi ymwybyddiaeth am iSupport for Young People
- Darparu disgrifiad manwl o gynnwys a strwythur iSupport for Young People
- Hyrwyddo a chynyddu nifer defnyddwyr iSupport for Young People, yn enwedig trwy sefydliadau sy'n cefnogi pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan ddementia.
- Mae'r cwrs yma am ddim ac rhan-amser.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn yn addas?
Sefydliadau a gweithwyr proffesiynol (yn y Deyrnas Unedig a hefyd yn rhyngwladol – Saesneg eu hiaith yn bennaf) sy’n gweithio neu sy’n dod i gysylltiad â theuluoedd sy’n byw gyda dementia neu â phobl ifanc (rhwng tua 10 a 17 oed). Gall hyn gynnwys:
- Gweithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig ag elusennau sy'n gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia a gofalwyr.
- Gweithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig ag elusennau sy'n gweithio gyda phobl ifanc.
- Gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig ag elusennau sy'n gweithio i gefnogi gofalwyr ifanc.
- Athrawon ysgol uwchradd (e.e. sy’n rhan o’r tîm gofal bugeiliol).
Mae’r cwrs hefyd yn addas i unrhyw rieni neu oedolion sydd eisiau cynnig mwy o gefnogaeth i’r bobl ifanc hyn sy’n byw mewn teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan ddementia
Tiwtor
Dr Patricia Masterson Algar
Mae Patricia yn ymchwilydd iechyd sydd â diddordeb mewn gwella bywydau pobl y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnynt. Mae ei hymchwil yn archwilio effaith y cyflyrau hyn nid yn unig ar fywydau'r rhai y maent yn effeithio arnynt ond hefyd ar y teulu cyfan. Yn 2017, cwblhaodd Patricia a'i chydweithwyr broject ymchwil lle gwnaethant gynllunio a gwerthuso ymyriad cefnogaeth cymheiriaid gan leygwyr ar gyfer adferiad yn dilyn strôc. Yn arwain o'r gwaith hwnnw, llwyddodd Patricia i sicrhau cyllid i gymrodoriaeth ôl-ddoethurol gan RCBC Cymru. Yn ei chymrodoriaeth, defnyddiodd Patricia ddulliau arloesol i fapio'r profiadau a nodi ffynonellau cefnogaeth i oedolion ifanc sy'n byw mewn teuluoedd a effeithir gan gyflwr niwrolegol. Yn ddiweddar, mae Patricia wedi ymuno â'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) lle bydd yn parhau i ddatblygu ymchwil sy'n canolbwyntio ar gynllunio a gwerthuso ymyriadau pwrpasol i gefnogi pobl ifanc sy'n gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia. Ar hyn o bryd, mae hi’n gyd-ymchwilydd ar hap-dreial rheoledig ac astudiaeth ddichonoldeb ar effeithiau ymyriad e-iechyd 'iSupport' i leihau gofid ymysg gofalwyr dementia, yn arbennig yn ystod y pandemig COVID-19. Mae Patricia yn arwain y pecyn gwaith sy'n canolbwyntio ar addasu iSupport i ddiwallu anghenion pobl ifanc sy’n gofalu am bobl sy’n byw gyda dementia.
Cwblhaodd Patricia BSc a gradd Meistr ymchwil gwyddor y môr cyn newid gyrfa a hyfforddi fel therapydd galwedigaethol yn 2009. Arweiniodd ei diddordeb mewn gwerthuso a gweithredu ymyriadau adsefydlu cymhleth at ddoethuriaeth, a chynhaliodd werthusiad proses o'r treial OTCH (ymyriad therapi galwedigaethol i breswylwyr â strôc mewn cartrefi gofal yn y Deyrnas Unedig) a ymchwiliodd i effaith cwrs pwrpasol o therapi galwedigaethol ar bobl sydd wedi cael strôc ac sy'n byw mewn cartrefi nyrsio a phreswyl. Roedd Patricia hefyd yn rhan o'r tîm ym Mhrifysgol Bangor a arweiniodd y gwerthusiad proses o'r treial PD COMM, sef treial rheoledig ar hap aml-ganolfan cam III sy'n anelu at werthuso effeithiolrwydd dau ddull o therapi iaith a lleferydd o gymharu â dim therapi iaith a lleferydd o gwbl i bobl â chlefyd Parkinson
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cwrs yn cynnwys pum rhan. Bydd pob rhan yn recordiad fideo annibynnol:
Rhan 1: Cyflwyniad
Rhan 2: Datblygiad, Cynnwys a Strwythur iSupport for Young People
Rhan 3: Adolygu Modiwlau 1, 2 a 3
Rhan 4: Adolygu Modiwlau 4 a 5
Rhan 5: Cyrchu a defnyddio iSupport for Young People
Deilliannau dysgu:
-
Codi ymwybyddiaeth o’r effaith y gall dementia yn y teulu ei chael ar bobl ifanc.
-
Codi ymwybyddiaeth o'r grŵp hwn o bobl ifanc sy’n gofalu am rywun sy’n byw gyda dementia.
-
Codi ymwybyddiaeth o’r dyletswyddau gofalu y gallai fod gan bobl ifanc sy’n byw mewn teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan ddementia.
-
Er mwyn deall cynnwys iSupport for Young People
-
Deall pwrpas a chynulleidfa darged iSupport for Young People
-
Deall sut gellir cael mynediad at iSupport for Young People a'i rannu
Cost y Cwrs
Mae y cwrs yma am ddim
Gofynion Mynediad
Caiff y cwrs ei gyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg. Os nad ydych yn siarad Saesneg yn rhugl: nid oes angen prawf ffurfiol o'ch hyfedredd yn y Saesneg arnom. Fodd bynnag, gan fod ein cyrsiau byr yn gyrsiau lefel prifysgol, rydym yn argymell yn gryf y dylai fod gennych lefel sy'n cyfateb o leiaf i IELTS 6.5 er mwyn elwa'n llawn.