Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bwriad y rhaglen yw rhoi'r wybodaeth gefndirol a'r sgiliau technegol i chi er mwyn eich galluogi i gynllunio, dadansoddi a gwerthuso ymchwil ym maes delweddu. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar dechnegau yn seiliedig ar ddelweddu cyseiniant magnetig (MRI), gan gynnwys MRI swyddogaethol, delweddu anatomegol, delweddu tensor trylediad, a sbectrosgopeg. Trafodir technegau delweddu gan gyfeirio at gymwysiadau biofeddygol perthnasol. Mae'r MSc yn cynnwys pedwar modiwl ar niwroddelweddu. Mae dau ohonynt yn canolbwyntio ar agweddau methodolegol. Mae'r ddau arall yn rhoi cyflwyniad manwl i dechnegau delweddu arbenigol a ddefnyddir i ddeall bioleg gweithrediad yr ymennydd ar adegau o iechyd a chlefyd.
Rhoddir pwyslais cryf ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol, gan eich paratoi at waith pellach ym maes niwroddelweddu. Mewn labordy cyfrifiadurol pwrpasol, byddwch yn dysgu ac yn ymarfer technegau dadansoddi a delweddu. O dan oruchwyliaeth staff academaidd rhagorol, byddwch yn ymwneud â chynllunio astudiaeth ddelweddu, i'w chynnal gan ddefnyddio'r sganiwr MRI 3T mewnol.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Dyma gwrs byr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn dulliau niwroddelweddu modern sy'n seiliedig ar MRI. Mae'n berthnasol iawn i ymchwilwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, seicolegwyr, ffisegwyr, peirianwyr, gwyddonwyr cyfrifiadurol, phawb sy’n chwilfrydig ynghylch yr ymennydd. P'un a ydych am wella'ch arbenigedd neu archwilio sut mae niwrowyddonwyr gwybyddol a meddygon yn ymchwilio i weithrediad yr ymennydd, mae'r cwrs yn cynnig profiad dysgu diddorol ac addysgiadol.
Pam astudio’r cwrs?
Mae’r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn mewn niwroddelweddu, gan arfogi dysgwyr â’r isod:
- Gwybodaeth ddamcaniaethol hanfodol ar gyfer deall MRI modern ac ymchwil niwrowyddoniaeth swyddogaethol sy'n seiliedig ar MRI.
- Dealltwriaeth foesegol ac athronyddol o heriau ymchwil niwroddelweddu.
- Sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddylunio, cynnal, a dadansoddi astudiaethau niwroddelweddu.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan bawb yr arbenigedd i ddehongli data niwroddelweddu a chymhwyso eu gwybodaeth yng nghyd-destun ymchwil neu glinigol.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Caiff y cwrs rhan amser ei gynnal dros 12 wythnos yn ystod Semester 1 y flwyddyn academaidd.
Ym flwyddyn academaidd 2025/26, bydd Semester 1 yn rhedeg o 29 Medi tan 22 Rhagfyr 2025.
Gwybodaeth am asesiadau
Caiff yr asesiadau eu cynllunio i annog dysgu parhaus a chymhwyso deunyddiau’r cwrs yn ymarferol. Maent yn cynnwys:
- Gwaith cwrs wythnosol byr (150-300 gair) – 40% o’r marc cyffredinol.
- Arholiad terfynol wedi'i amseru ar ffurf llyfr agored – 60% o'r marc cyffredinol.
Tiwtor
Dr Ken Valyear

Rwy'n dysgu niwrowyddoniaeth adsefydlu, ysgogiad yr ymennydd, niwrowyddoniaeth glinigol a chymhwysol, a dulliau mewn niwrowyddoniaeth wybyddol. Rwy'n goruchwylio traethodau BSc, MSc a PhD myfyrwyr.
Prof. Paul Mullins

Athro Delweddu Niwrolegol ac Uwch Ffisegydd yn Ganolfan Ddelweddu Bangor yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon.
Mae fy ymchwil yn cwmpasu tri maes eang: defnyddio delweddu cyseiniant magnetig a sbectrosgopeg i ymchwilio i brosesau niwrolegol a ffisiolegol sylfaenol mewn iechyd a chlefyd; defnyddio'r technegau hyn i fesur newidiadau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo niwrodrosglwyddyddion a gweithgaredd niwral mewn iechyd a chlefyd; ac ymchwilio i effeithiau heriau ffisiolegol (e.e. hypocsia, clwyf pen, ymarfer corff) ar yr ymennydd.
Rwyf hefyd yn rhyngweithio â chydweithwyr o'r Coleg Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd ar ddylunio astudiaethau MRI, caffael data a phrosesu a'r adnoddau sydd ar gael i helpu gyda'u cwestiynau ymchwil, fy nod yw cadw Uned Ddelweddu Bangor yn ganolfan o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil delweddu niwrolegol yng Ngogledd Cymru
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd pawb yn archwilio cysyniadau allweddol a sgiliau ymarferol mewn niwroddelweddu, gan gynnwys:
-
Cyfrifiadura sylfaenol a llythrennedd data ar gyfer niwroddelweddu.
-
Fformatau data delweddu a thechnegau rheoli.
-
Dadansoddiad ystadegol o ddata cyfres amser swyddogaethol.
-
Dylunio arbrofol ar gyfer astudiaethau delweddu swyddogaethol.
-
Sgiliau meddalwedd ar gyfer prosesu a dadansoddi data, gan ddefnyddio offer fel MATLAB, FSL, SPM, a TARQUIN.
Rhestr o unedau
Mae’r maes llafur yn cwmpasu’r meysydd canlynol:
- Llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol – Deall gwybodeg yr ymennydd a strwythurau data.
- Gweld data niwroddelweddu - Fformat NIFTI, cyferbyniadau delwedd, a datrysiad.
- Defnyddio MATLAB – Efelychu ymatebion hemodynamig ledled cyfresi amser.
- Y Model Llinol Cyffredinol (GLM) - Matricsau dylunio, effeithlonrwydd profi, a dadansoddiad lefel gyntaf mewn FSL.
- Dadansoddiad ail lefel gydag SPM – Dehongli data niwroddelweddu uwch.
- Prosesu Delweddu Tensor Tryledu (DTI). – Hanfodion tractograffeg.
- Sbectrosgopeg Cyseiniant Magnetig (MRS) - Prosesu a dadansoddi data.
- Dyluniad astudiaeth niwroddelweddu – Egwyddorion sefydlu a methodoleg arbrofol.
Gofynion Mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs, bydd angen yr isod ar ymgeiswyr:
- Gradd israddedig (2:1 neu uwch).
Fel arall, gallwn ystyried ymgeiswyr gydag o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar neu ddatblygiad proffesiynol (sy'n dangos parodrwydd i astudio ar Lefel 6/7).
Os nad ydych yn bodloni’r gofynion academaidd safonol, cysylltwch ag arweinydd y cwrs i drafod eich cymhwystra.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Non-Graduating Taught Modules in Sport Health and Excercise Science (NGGT/SHES) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Cyflwyniad i Niwroddelweddu: y cod yw (PPP-4022). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol