Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein Diploma Ôl-radd newydd mewn Nyrsio Anableddau Dysgu Cymunedol yn Gymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) a gynlluniwyd ar gyfer nyrsys anableddau dysgu cofrestredig sydd am arbenigo mewn darparu gofal cynhwysol o ansawdd uchel mewn lleoliadau cymunedol. Bydd yn cael ei gyflwyno trwy ddysgu hyblyg ar-lein ac mae'n cefnogi llwybrau astudio llawn amser a rhan amser; mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n cydbwyso ymarfer clinigol gyda datblygiad proffesiynol.
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ac fe'i cynlluniwyd i ddiwallu anghenion cymhleth ac esblygol pobl ag anableddau dysgu. Bydd yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu gwybodaeth uwch, ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a sgiliau arweinyddiaeth i weithio'n effeithiol mewn lleoliadau amlasiantaethol. Byddwch yn ennill yr arbenigedd i ddarparu gofal cynhwysol, gwella ansawdd bywyd, a hybu tegwch mewn gofal iechyd.
Cofrestrwch eich diddordeb nawr
Er nad yw ceisiadau ar agor eto, gallwch gofrestru eich diddordeb heddiw. Drwy lenwi’r ffurflen fer isod, chi fydd y cyntaf i dderbyn diweddariadau, dyddiadau allweddol, ac arweiniad ar sut i wneud cais unwaith y bydd y cwrs wedi’i gymeradwyo’n llawn.
Er na ellir gwneud cais am yr cwrs hwn eto, rydym wrthi’n casglu diddordeb gan ddarpar ddysgwyr i’n helpu i lunio’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth.
Pam astudio'r cwrs hwn?
- Datblygwch eich gyrfa mewn gofal anableddau dysgu o fewn lleoliadau cymunedol
- Cyfle i wella'ch sgiliau i arwain timau amlasiantaethol a darparu cefnogaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Cefnogi ymagweddau cynhwysol, seiliedig ar hawliau at ofal a datblygu gwasanaethau
- Darpariaeth hyblyg ar-lein wedi'i deilwra i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith a'ch ymrwymiadau personol.
- Gellwch astudio ochr yn ochr â chymheiriaid o bob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig, gan rannu ymarfer gorau a meithrin rhwydweithiau proffesiynol.
- Mae lleoedd wedi'u comisiynu ar gael i staff a gyflogir gan Fyrddau Iechyd Cymru, gan gefnogi datblygiad proffesiynol o fewn gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. *
Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol mewn gofal iechyd, lle mae’r pwyslais yn gynyddol ar alluogi pobl i fyw’n dda yn y gymuned a grymuso nyrsys i arwain y newid hwnnw.
Ydi’r cwrs yma’n addas i chi?
Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer nyrsys anableddau dysgu cofrestredig sy'n ymarfer mewn lleoliadau cymunedol ar hyn o bryd. Efallai eich bod yn un o’r canlynol:
- Ceisio symud ymlaen yn eich gyrfa
- Diddordeb mewn gwella canlyniadau gofal a chefnogi integreiddio ar draws gwasanaethau
- Yn ceisio datblygu arweinyddiaeth ac arloesedd mewn Gwasanaethau anableddau dysgu
Gofynion mynediad*
Rhaid i ymgeiswyr fod â’r canlynol:
-
Wedi cofrestru gyda chorff nyrsio statudol (anableddau dysgu) am o leiaf blwyddyn
-
Ffafrir gradd 2:1 neu radd dosbarth cyntaf; bydd ceisiadau gan y rhai sydd â 2:2 yn cael eu hystyried yn seiliedig ar eirdaon a datganiad personol
-
Tystiolaeth o fynediad i leoliadau clinigol sy'n cyd-fynd â deilliannau dysgu'r rhaglen
-
Meddu ar wiriad uwch cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
-
Darparu datganiad personol cryf a geirda proffesiynol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr hŷn a'r rhai sy'n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant gyrfa.
*yn amodol ar gymeradwyaeth a dilysiad terfynol y cwrs.