Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein Diploma Ôl-radd newydd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl Cymunedol yn Gymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) a gynlluniwyd ar gyfer nyrsys iechyd meddwl sy'n dymuno arbenigo ac arwain mewn lleoliadau gofal yn y gymuned. Bydd yn cael ei gyflwyno trwy ddysgu hyblyg ar-lein ac mae'n cefnogi llwybrau astudio llawn amser a rhan amser; mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n cydbwyso ymarfer clinigol gyda datblygiad proffesiynol.
Mae’r rhaglen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, a’i nod yw ymateb yn uniongyrchol i anghenion esblygol gofal iechyd meddwl cymunedol, gan roi i ymarferwyr sgiliau clinigol, diwylliannol ac arweinyddiaeth uwch sydd eu hangen i ddarparu cefnogaeth effeithiol a chynhwysol ar draws poblogaethau amrywiol ac amgylcheddau gofal cymhleth.
Cofrestrwch eich diddordeb nawr
Er nad yw ceisiadau ar agor eto, gallwch gofrestru eich diddordeb heddiw. Drwy lenwi’r ffurflen fer isod, chi fydd y cyntaf i dderbyn diweddariadau, dyddiadau allweddol, ac arweiniad ar sut i wneud cais unwaith y bydd y cwrs wedi’i gymeradwyo’n llawn.
Er na ellir gwneud cais am yr cwrs hwn eto, rydym wrthi’n casglu diddordeb gan ddarpar ddysgwyr i’n helpu i lunio’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth.
Pam astudio'r cwrs hwn?
-
Gwella eich arbenigedd clinigol mewn meysydd fel cyflyrau sy'n cyd-ddigwydd a rheoli achosion cymhleth
-
Datblygu galluoedd arweinyddiaeth i ddylanwadu ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned a’u gwella
-
Ennill cymhwysedd diwylliannol i gefnogi gofal teg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
-
Darpariaeth hyblyg ar-lein wedi'i deilwra i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith a'ch ymrwymiadau personol.
-
Gellwch astudio ochr yn ochr â chymheiriaid o bob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig, gan rannu ymarfer gorau a meithrin rhwydweithiau proffesiynol.
-
Mae lleoedd wedi'u comisiynu ar gael i staff a gyflogir gan Fyrddau Iechyd Cymru, gan gefnogi datblygiad proffesiynol o fewn gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. *
Cynlluniwyd y rhaglen hon i baratoi nyrsys iechyd meddwl cymunedol ar gyfer heriau a rolau arweinyddol yn y dyfodol mewn maes gofal iechyd hanfodol sy'n tyfu.
Ydi’r cwrs yma’n addas i chi?
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer nyrsys iechyd meddwl cofrestredig sy’n gweithio mewn lleoliad iechyd meddwl cymunedol ar hyn o bryd. Efallai eich bod yn un o’r canlynol:
-
Yn ceisio ehangu cwmpas eich ymarfer
-
Yn gobeithio ymgymryd â swyddi arbenigol neu arweinyddol
-
Yn ceisio ysgogi gwelliannau mewn canlyniadau cleifion a darpariaeth gwasanaeth
-
Diddordeb mewn adeiladu eich arbenigedd mewn gofal sy'n ddiwylliannol gymwys a chynhwysol
Gofynion mynediad*
Rhaid i ymgeiswyr fod â’r canlynol:
-
Wedi cofrestru gyda chorff nyrsio statudol (iechyd meddwl) am o leiaf blwyddyn
-
Ffafrir gradd 2:1 neu radd dosbarth cyntaf; bydd ceisiadau gan y rhai sydd â 2:2 yn cael eu hystyried yn seiliedig ar eirdaon a datganiad personol
-
Tystiolaeth o fynediad i leoliadau clinigol sy'n cyd-fynd â deilliannau dysgu'r rhaglen
-
Meddu ar wiriad uwch cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
-
Darparu datganiad personol cryf a geirda proffesiynol
-
Yn gweithio ar hyn o bryd mewn amgylchedd iechyd meddwl cymunedol
ydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr hŷn a'r rhai sy'n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant gyrfa.
*yn amodol ar gymeradwyaeth a dilysiad terfynol y cwrs.