Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein Diploma Ôl-radd newydd mewn Nyrsio Meddygaeth Teulu yn Gymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) a gynlluniwyd ar gyfer nyrsys cofrestredig sy'n dymuno datblygu sgiliau uwch mewn gofal cychwynnol. Bydd yn cael ei gyflwyno trwy ddysgu hyblyg ar-lein ac mae'n cefnogi llwybrau astudio llawn amser a rhan amser; mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n cydbwyso ymarfer clinigol gyda datblygiad proffesiynol.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn unol ag anghenion gofal iechyd cyfoes, a’i nod yw rhoi'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen ar ymarferwyr i ffynnu mewn lleoliad meddygaeth teulu. Byddwch yn ennill yr arbenigedd i ymgymryd â swyddogaethau annibynnol, arwain gwella ansawdd, ac eirioli dros gleifion ar draws amgylcheddau gofal amrywiol a deinamig.
Cofrestrwch eich diddordeb nawr
Er nad yw ceisiadau ar agor eto, gallwch gofrestru eich diddordeb heddiw. Drwy lenwi’r ffurflen fer isod, chi fydd y cyntaf i dderbyn diweddariadau, dyddiadau allweddol, ac arweiniad ar sut i wneud cais unwaith y bydd y cwrs wedi’i gymeradwyo’n llawn.
Er na ellir gwneud cais am yr cwrs hwn eto, rydym wrthi’n casglu diddordeb gan ddarpar ddysgwyr i’n helpu i lunio’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth.
Pam astudio'r cwrs hwn?
-
Datblygwch eich gyrfa mewn gofal cychwynnol gyda gwybodaeth arbenigol a chymwysterau cydnabyddedig.
-
Cyfle i wella eich sgiliau clinigol, arweinyddiaeth, a gwneud penderfyniadau, gan eich galluogi i ddarparu gofal diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
-
Darpariaeth hyblyg ar-lein wedi'i deilwra i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith a'ch ymrwymiadau personol.
-
Gellwch astudio ochr yn ochr â chymheiriaid o bob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig, gan rannu ymarfer gorau a meithrin rhwydweithiau proffesiynol.
-
Mae lleoedd wedi'u comisiynu ar gael i staff a gyflogir gan Fyrddau Iechyd Cymru, gan gefnogi datblygiad proffesiynol o fewn gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. *
Ydi’r cwrs yma’n addas i chi?
Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer nyrsys cofrestredig sy’n gweithio ar hyn o bryd mewn amgylchedd gofal cychwynnol neu meddygaeth teulu sy’n barod i gamu i swyddi uwch. Efallai eich bod yn un o’r canlynol:
-
Yn ceisio arbenigo mewn nyrsio meddygaeth teulu
-
Yn gobeithio ymgymryd â chyfrifoldebau arwain
-
Yn ceisio gwella canlyniadau cleifion trwy ymarfer ar sail tystiolaeth
-
Gyda diddordeb mewn gweithio ar frig eich trwydded o fewn tîm amlddisgyblaethol
Gofynion mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fod â’r canlynol:
-
Wedi cofrestru gyda chorff nyrsio statudol am o leiaf blwyddyn
-
Ffafrir gradd 2:1 neu radd dosbarth cyntaf; bydd ceisiadau gan y rhai sydd â 2:2 yn cael eu hystyried yn seiliedig ar eirdaon a datganiad personol
-
Tystiolaeth o fynediad i leoliadau clinigol sy'n cyd-fynd â deilliannau dysgu'r rhaglen
-
Meddu ar wiriad uwch cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
-
Darparu datganiad personol cryf a geirda proffesiynol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr hŷn a'r rhai sy'n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant gyrfa.
*yn amodol ar gymeradwyaeth a dilysiad terfynol y cwrs.