Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Caiff y cwrs byr, lefel 7 rhan-amser hwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor a Wrecsam, gyda rhywfaint o gynnwys ar gael ar-lein (dull dysgu cyfunol).
Mae gweithwyr gofal iechyd arennol proffesiynol yn gofalu am grŵp o gleifion sy'n llwyr ymwybodol o effeithiau dinistriol y salwch acíwt/cronig.
Mae dibyniaeth ar offer technegol iawn, cymhlethdodau therapi hirdymor a phrofiadau cyson o sefyllfaoedd sy’n peryglu bywyd, yn rhoi pwysau aruthrol ar yrfaoedd, teulu a ffrindiau.
O ganlyniad, mae’r Cwrs Byr hwn ar Ddatblygiadau mewn Gofal Arennol yn hanfodol i sicrhau bod y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny sy’n gweithio ym maes arennol yn gwbl gymwys i ymdrin â’r cyfoeth o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gyfoes sy’n ymwneud â rheoli’r cyflwr a’i gymhlethdodau. Bydd hyn yn eu galluogi i ddarparu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth ofalu am y grŵp hwn o gleifion.
Mae'r Cwrs Byr hwn yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio o fewn y maes arennol e.e. unedau arennol/dialysis, gofal critigol a gofal meddygol acíwt.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs yn agored i nyrsys a Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) sy'n gweithio gyda chleifion arennol ar hyn o bryd.
Pam astudio’r cwrs?
Mae'r cwrs byr hwn wedi'i gynllunio'n benodol i gynorthwyo ymarferwyr cofrestredig i baratoi ar gyfer eu rôl yn y maes arennol. Bydd y dysgwr yn cael y cyfle i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn anafiadau acíwt i'r arennau (AKI) a chlefyd cronig yn yr arennau (CKD) a dysgu sut i ddarparu gofal o ansawdd uchel wrth archwilio anghenion gofal cymhleth unigolion â chlefyd arennol.
Mae’r cwrs wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n hybu trafodaeth a chydweithio rhwng myfyrwyr, gan ddysgu o brofiadau a safbwyntiau ei gilydd. Mae wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion gweithwyr cofrestredig sy'n gweithio mewn practis ac mae'n archwilio canllawiau cenedlaethol cyfredol ac arfer gorau o ran nodi, trin a rheoli clefyd arennol.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae’r cwrs byr hwn yn rhedeg dros 22 wythnos, fel arfer yn ystod semester 1 o’r flwyddyn academaidd.
Mae dyddiadau’r cwrs ar gyfer blwyddyn academaidd 24/25 fel a ganlyn:
8 diwrnod astudio, ar y dyddiadau canlynol, ar ein campws ym Mangor:
- 17 Medi 2024
- 1 Hydref 2024
- 15 Hydref 2024
- 5 Tachwedd 2024
- 19 Tachwedd 2024
- 3 Rhagfyr 2024
- 28 Ionawr 2025
- 11 Chwefror 2025
Bydd asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Aseiniad - Adolygiad llenyddol yn ymchwilio i broblem neu fater o fewn yr arbenigedd arennol
- Cymwyseddau Clinigol
Tiwtor
Heather Bloodworth,Darlithydd mewn Gofal Iechyd, Ysgol Gwyddorau Iechyd
Mae gan Heather wybodaeth a phrofiad helaeth yn ymwneud ag ymarfer uwch, endocrinoleg, gofal brys a nyrsio practis cyffredinol.
Julie Cripps, Darlithydd mewn Gofal Iechyd, Ysgol Gwyddorau Iechyd
Mae Julie wedi cael gyrfa hir mewn nyrsio arennol lle cafodd brofiad o bob agwedd ar reoli Arennol. Ar hyn o bryd mae Julie yn dysgu ar fodiwlau cyn ac ôl-gofrestru.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cwrs byr yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- Achosion a rheolaeth o anafiadau acíwt i'r arennau
- Clefyd cronig yn yr arennau (CKD) • Gofal cyn dialysis
- Ymchwiliadau arennol
- Ffarmacoleg
- Ymchwiliadau radiograffeg
- Therapïau amnewid arennol
- Therapïau cartref
- Mynediad fasgwlaidd
- Maeth arennol
- Effaith seicolegol o therapi amnewid arennol
- Trawsblannu
- Cynllunio Gofal Uwch
- Pontio rhwng gofal gweithredol i ofal lliniarol
- Rheolaeth geidwadol
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Ar ddiwedd y cwrs byr hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
- Trafod yn feirniadol achosion anaf acíwt i'r arennau a sut i'w reoli mewn amgylchedd ysbyty acíwt.
- Datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o glefyd cronig yn yr arennau
- Deall egwyddorion Therapi Amnewid Arennol a'r gallu i ymdrin â materion sy’n ymwneud a addasrwydd, gallu, amgylchiadau ac ansawdd bywyd claf.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o'r materion moesegol, diwylliannol, crefyddol, ysbrydol ac ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig â chlefyd arennol
- Archwilio a gwerthuso’n feirniadol rôl y tîm amlddisgyblaethol o fewn y gosodiad arennol, a dangos eu bod yn gallu gweithio fel aelod effeithiol o dîm amlddisgyblaethol.
- Dehongli a lledaenu gwybodaeth gyfredol yn feirniadol trwy adolygiad beirniadol o'r llenyddiaeth sy'n ymwneud â chlefyd yr arennau a sut mae'n berthnasol i ddarpariaeth gofal iechyd
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda chleifion arennol mewn lleoliad acíwt neu gymunedol.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio ol-raddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:Datblygiadau Mewn Gofal Arennol : y cod yw NHS 4246. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol