Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr hyblyg ar lefel ôl-raddedig sy'n cael ei gyflwyno ar-lein.
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs Byr hwn yn addas?
Mae'r modiwl dysgu o bell ar-lein hwn ar Ddatblygu Talent yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb deall sut i ddatblygu arbenigedd a rhagori.
Pam astudio’r cwrs?
Mae llwyddiant mewn chwaraeon yn dibynnu yn aml ar allu athletwr i feithrin a mireinio sgiliau canfyddiadol ac echddygol penodol, unigryw. Yn ôl y "rheol 10,000-awr" y cyfeirir ati’n aml, mae'n cymryd tua 10 mlynedd neu 10,000 o oriau o ymarfer bwriadol i gyflawni hyfedredd arbenigol yn y sgiliau hyn.
Nod y cwrs hwn yw archwilio lle canolog demograffeg, ffactorau seicogymdeithasol, a dulliau ymarfer wrth ddatblygu dawn. Ei brif amcan yw arfogi cyfranogwyr â dealltwriaeth ddamcaniaethol ac empirig gadarn o'r llenyddiaeth ynghylch datblygu talent. Drwy wneud hynny, bydd modd datblygu’r ddirnadaeth sydd ei hangen i ddylunio a gweithredu rhaglenni datblygu sy'n meithrin yr amgylchiadau sy'n ffafriol i ddatblygu dawn.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs byr hwn yn cymryd 12 wythnos i'w gwblhau. Bydd holl ddeunyddiau’r darlithoedd ar gael ichi ar ddechrau'r cwrs a fydd yn eich galluogi i weithio wrth eich pwysau yn ôl eich amgylchiadau personol.
Asesiad
Mae’r asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Datblygu adroddiad gweithredol neu ffeithlun addas i hyfforddwyr sy'n ymwneud â'r llenyddiaeth gyfredol ym maes datblygu talent, gan grynhoi'r ffactorau demograffig a seicogymdeithasol sy'n cyfrannu at ddatblygu talent yn effeithiol. (1500 o eiriau)
- Datblygu adroddiad gweithredol neu ffeithlun addas i hyfforddwyr sy'n ymwneud â'r llenyddiaeth gyfredol ym maes datblygu talent gyda phwyslais ar o leiaf un nodwedd o brofiadau ymarfer sy'n cyfrannu at ddatblygu talent yn effeithiol. (1000 o eiriau)
Y Gofynion Technegol
Cwrs ar-lein yw hwn a gyflwynir trwy Blackboard Ultra. Bydd angencysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd, adnoddau Technoleg Gwybodaeth a chyfrifiadur a meddalwedd cyfoes, meicroffon a chlustffonau neu seinyddion ar y myfyrwyr.
Tiwtor
Dr Gavin Lawrence
Mae Gavin yn uwch ddarlithydd ac ymchwilydd mewn seicoleg perfformiad. Mae’n aelod o’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît, yn Gadeirydd Pwyllgor Talent a Pherfformiad Canŵ Cymru, ac yn Is-gadeirydd Bwrdd Economi Sgiliau Lleol Gogledd Cymru y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA).
Mae gan Dr Lawrence dau brif faes diddordeb: Dysgu a Rheoli Echddygol, gyda phwyslais penodol ar weithio tuag at nod, ac arferion hyfforddi effeithiol, rhagoriaeth, a datblygu dawn. Ei brif bwyslais yn y maes olaf yw deall yn well sut mae datblygu dawn ac arbenigedd, gan gloriannu’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ragori drwy arferion ymddygiadol a seicolegol.
Mae ei ymchwil yn archwilio sut mae strwythur a phrosesau ymarfer yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth o hyfforddi effeithiol a datblygu talent. Er enghraifft, beth sy'n gwahaniaethu'r rhai sy'n cyrraedd arbenigedd a statws uwch-elît oddi wrth y rhai nad ydynt? Mae ei waith yn archwilio strwythurau ymarfer er mwyn dysgu ynghynt a pha ymarfer sydd angen i chi ei wneud, pryd, a faint sydd ei angen arnoch chi i gynyddu’ch siawns o gyrraedd statws arbenigol a llwyddo.
Mae Dr Lawrence wedi sicrhau cyllid allanol ar gyfer ei ymchwil gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff gan broject Pathway2Podium Rhyngddisgyblaethol UK Sport, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, a Chodi Pwysau Cymru, ymhlith eraill. Mae'r projectau hyn yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol o ddeall datblygiad talent ac arbenigedd.
Mae ganddo deulu ifanc, gyda dau efallai o ddoniau’r dyfodol, y mae'n eu caru’n fawr. Does ganddo fawr o amynedd efo ffyliaid ond mae’n agored i bob syniad a dysgeidiaeth newydd, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â gwella perfformiad pobl. Mae Dr Lawrence hefyd yn athletwr 'methedig' ac yn ddrymiwr angerddol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Cyflwynir y cwrs byr hwn gan wyddonydd Datblygu Talent sy’n gweithio gyda sefydliadau chwaraeon blaenllaw fel UK Sport a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr. Ceir tair rhan i’r cwrs: 'Demograffeg', 'Seicogymdeithasol', a 'Hyfforddiant ac Ymarfer'. Yn yr adran gyntaf, byddwn yn archwilio materion yn ymwneud â datblygu talent, gan ganolbwyntio ar gefndiroedd a magwraeth athletwyr. Bydd yr ail adran yn ymchwilio i gyfansoddiad seicolegol athletwyr i ddeall yn well y meddylfryd sy'n gysylltiedig â thalent. Yn yr adran olaf, byddwn yn archwilio sut i wneud y gorau o amgylcheddau ymarfer i ddatblygu sgiliau'n effeithiol. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn pwysleisio'r ffactorau effaith sy'n dylanwadu ar ddatblygu doniau’n effeithiol.
Rhestr o unedau
Unedau Dysgu
- Demograffeg – effeithiau brodyr a chwiorydd a dyddiadau geni
- Ffactorau seicogymdeithasol
- Profiadau amlygiad ac ymarfer – ymarfer bwriadol a 'chwarae'; arbenigedd cynnar ac arallgyfeirio.
Ar ôl pob uned, mae seminar byw rhithwir lle gallwch drafod meddyliau, holi cwestiynau, a rhannu profiadau i wella’ch dealltwriaeth.
Cost y Cwrs
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Non-Graduating Taught Modules in Sport Health and Excercise Science (NGGT/SHES) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Datblygu Talent: y cod yw (JXH-4213). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol