Ynglŷn â’r Cwrs Yma
This is a part-time, level 7 short course delivered online.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae’r cwrs hwn yn addas i fydwragedd, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig eraill sy’n gweithio ym maes bydwreigiaeth neu ofal mamolaeth neu fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol sy’n darparu gofal i bobl, merched a theuluoedd ar draws y continwwm geni.
Pam astudio’r cwrs?
Nod y modiwl hwn yw paratoi gweithwyr iechyd mamolaeth proffesiynol i optimeiddio'r profiad o roi genedigaeth i'r merched a'r teuluoedd y maent yn gofalu amdanynt - ar draws y continwwm cyn-geni, mewnbartwm ac ôl-enedigol. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ystyried sut y gallwn optimeiddio’r profiad o roi genedigaeth i bob merch a’u baban newydd-anedig, yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar wella gofal o fewn paramedrau culach yr agenda geni arferol. Mae’r fframwaith ar gyfer gofal o safon i’r fam a’r baban newydd-anedig (Renfrew et al, 2014) yn darparu’r athroniaeth sy’n sail i’r modiwl.
Pa mor hir mae’r cwrs yn cymryd i'w gwblhau? ?
Cynhelir y cwrs byr hwn dros gyfnod o 12 wythnos ac mae’n cynnwys 5 diwrnod o ddarlithoedd (un diwrnod yr wythnos dros 5 wythnos). Y dyddiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 24/25 yw:
- 07/10/2024
- 14/10/2024
- 28/10/2024
- 04/11/2024
- 18/11/2024
Bydd dysgwyr yn ymgymryd a 100 awr o astudio hunangyfeiriedig yn ystod y 12 wythnos, a bydd cyfle am diwtorialau wyneb yn wyneb neu ar-lein yn ystod y cwrs.
Bydd y cwrs byr hwn yn cael ei gynnal fel rheol yn ystod semester 1 o'r flwyddyn academaidd.
Asesiadau:
Mae’r asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Cyflwyniad poster
- Aseiniad 3,000 o eiriau yn ymwneud â'r cyflwyniad. Bydd y dulliau asesu hyn yn galluogi'r dysgwr i ddatblygu sgiliau llafar, ysgrifenedig a chreadigol mewn amgylchedd colegol.
Tiwtor
Ruth Lovelady
Mae Ruth yn fydwraig brofiadol gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn rhychwantu gyrfa sy’n cynnwys gweithio yn yr ysbyty a lleoliadau cymunedol, fel goruchwyliwr bydwreigiaeth, bydwraig datblygu ymarfer, aelod o gyngor nyrsio a bydwreigiaeth (panel yr NMC), a phrofiad fel tyst arbenigol.
Mae Ruth wedi bod yn gweithio ym maes addysg bydwreigiaeth ers dros 10 mlynedd ac mae bellach yn Fydwraig â Phrif Gyfrifoldeb dros Addysg ym Mhrifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r modiwl hwn yn defnyddio fframwaith Lancet ar gyfer 'gofal o safon i’r fam a’r baban newydd-anedig' (Renfrew et al, 2014) i strwythuro ein hystyriaeth o'r gofal mamolaeth gorau posibl.
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Erbyn diwedd y cwrs byr hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
- Dadansoddi a thrafod yn feirniadol ffisioleg a seicoleg y fam a/neu eu ffetws / baban newydd-anedig sy'n hwyluso'r profiad geni gorau posibl
- Gwerthuso maes ymarfer yn feirniadol mewn perthynas â darparu amgylchedd gofal gorau posibl i ferched a/neu eu ffetws/babanod newydd-anedig
- Gwerthuso’n feirniadol rôl y gweithiwr iechyd proffesiynol, a rôl y tîm proffesiynol ehangach, wrth weithio i gynnal yr amgylchedd gofal gorau posibl i ferched a/neu eu ffetws / babanod newydd-anedig. Dylai hyn gynnwys ystyriaeth o ymarfer perthnasol, rhwystrau cymdeithasol a diwylliannol a hwyluswyr.
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- Bydwragedd cofrestredig, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig eraill sy'n gweithio mewn maes gofal iechyd perthnasol.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio ol-raddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Genedigaeth Optimaidd y cod yw GIG-4385. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol