Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Caiff y cwrs byr, lefel 7 rhan-amser hwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor. Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio felly mae croeso i ymgeiswyr ymuno a dilyn y cwrs o bell.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Bydd y cwrs byr hwn yn addas i'r rhai sy'n gweithio gyda phobl nad ydynt efallai ‘n rhannu'r un diwylliant neu iaith. Bydd y cwrs yn trafod y ffordd orau o sicrhau bod hunaniaeth a diwylliant unigolyn yn cael eu deall a'u parchu ar adegau o argyfwng a gofal. Byddai'r cwrs DPP hwn yn ddefnyddiol i nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i Iechyd ac ymarferwyr Gofal Cymdeithasol
Pam astudio’r cwrs?
Mae cynnydd yn y sylw a niferoedd o bobl sydd yn perthyn i ddiwylliant lleiafrifol a gall y cwrs yma wella eich dealltwriaeth o sut i ddarparu gofal sydd yn parchu diwylliant.
Bydd cyfle i ddefnyddio'r ddarpariaeth i siaradwyr Cymraeg fel astudiaeth achos gan archwilio syniadau a darpariaeth y 'Cynnig Rhagweithiol', er mwyn gan sicrhau parch ac urddas i bobl sydd yn siaradwyr naturiol yn Gymraeg.
Byddwch hefyd yn archwilio technegau a dulliau ar gyfer gweithio'n effeithiol efo phobl â dementia a gofalwyr teulu mewn modd sy'n sensitif i’w ddiwylliant.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae'r modiwl hwn yn rhedeg yn rhan-amser dros 12 wythnos, fel arfer yn ystod ail semester y flwyddyn academaidd, ac mae'n cynnwys:
- 10 diwrnod astudio ar y campws neu ar-lein.
Y dyddiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yw
- 23 Ebrill 2024
- 7 Mai 2024
- 14 Mai 2024
- 21 Mai 2024
- 28 Mai 2024
- 04 Mehefin 2024
- 11 Mehefin 2024
- 18 Mehefin 2024
- 2 Gorffennaf 2024
- 9 Gorffennaf 2024
Tiwtor
Catrin Hedd Jones
Mae Dr Catrin Hedd Jones yn Seicolegydd Siartredig ac yn ddarlithydd Astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor ers 2016. Mae wedi gweithio fel ymchwilydd ar sawl prosiect gan gynnwys ymchwil i fanteision cynnig gweithdai Celfyddyd i bobl sydd yn byw efo dementia, effaith cefnogaeth ar ôl derbyn diagnosis ddementia a Phontio’r Cenedlaethau. Mae Catrin yn cyd-arwain gwaith datblygu dulliau ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), sy’n gydweithrediad rhwng Prifysgolion Bangor ac Abertawe ac yn aelod o INTERDEM sef grŵp Ewropeaidd o ymchwilwyr sydd am wella gofal pobl sydd yn byw efo dementia. Mae wedi darparu hyfforddiant i Arolygwyr ac Ymarferwyr Gofal ar draws Cymru a chyhoeddi ymchwil i Senedd Cymru ar Ddementia.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser ar lefel 7, sy’n cael ei gynnal ar ein campws ym Mangor. Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio felly mae croeso i ymgeiswyr ymuno a dilyn y cwrs o bell.
Bydd y cwrs byr hwn yn eich galluogi i werthuso’r ddarpariaeth bresennol o arferion sydd yn sicrhau sensitifrwydd diwylliannol a chynhwysol wrth gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Byddwch yn cael budd o brofiad arbenigwyr trwy brofiad i gynyddu ein dealltwriaeth o sut i sicrhau gofal Dementia sy'n parchu diwylliant. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno cydsyniad o ddylanwadau cyd adrannau wrth sicrhau urddas a thrugaredd i bobl sydd yn perthyn i grŵp lleiafrifol mewn cymdeithas, gan gynnwys Iaith a Rhywioldeb. Byddwn yn defnyddio astudiaethau achos megis rôl y celfyddydau, crefydd a gweithredu'r Cynnig Rhagweithiol sy'n parchu anghenion unigolion
Pam astudio’r cwrs?
Mae cynnydd yn y sylw a niferoedd o bobl sydd yn perthyn i ddiwylliant lleiafrifol a gall y cwrs yma wella eich dealltwriaeth o sut i ddarparu gofal sydd yn parchu diwylliant.
Bydd cyfle i ddefnyddio'r ddarpariaeth i siaradwyr Cymraeg fel astudiaeth achos gan archwilio syniadau a darpariaeth y 'Cynnig Rhagweithiol', er mwyn gan sicrhau parch ac urddas i bobl sydd yn siaradwyr naturiol yn Gymraeg.
Byddwch hefyd yn archwilio technegau a dulliau ar gyfer gweithio'n effeithiol efo phobl â dementia a gofalwyr teulu mewn modd sy'n sensitif i’w ddiwylliant.
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
- Dadansoddi'n feirniadol faterion yn ymwneud ac urddas, dewis a thrugarog yn y broses o ymgysylltu â phobl â dementia a/neu eu gofalwyr.
- Dadansoddi'n feirniadol fodelau damcaniaethol a safbwyntiau gwahanol ar ddementia er mwyn cynnal gwerthusiad annibynnol o’r ymchwil.
- Gwerthuso profiadau, problemau ac anghenion unigryw pobl sydd yn byw efo ddementia sydd yn rhan o grŵp lleiafrifol
- Syntheseiddio a chynnal gwerthusiad beirniadol ymagweddau gofal dementia i sicrhau cyfathrebu sensitif â phobl y mae dementia'n effeithio arnynt.
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Bydd angen i ymgeiswyr fod ag gradd israddedig 2:1 neu uwch sy'n gysylltiedig â'r maes ac o sefydliad Addysg Uwch cydnabyddedig.
Os nad ydych yn bodloni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos eich gallu i astudio ar lefel 7) efallai y byddwn yn ystyried eich cais.
Cysylltwch ag Dr Catrin Hedd Jones (c.h.jones@bangor.ac.uk) i drafod ymhellach.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Gofal Dementia sy'n Ddiwylliannol Sensitif: y cod yw NHS-4373. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol