Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs byr hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n dymuno bod yn hyrwyddwr gweithle egnïol. Fel arfer, mae dysgwyr yn cynnwys staff y GIG, unigolion sy'n gweithio mewn mentrau bach, canolig a mawr, ac unigolion sy'n gweithio gydag elusennau a sefydliadau anllywodraethol.
Os hoffech drefnu’r hyfforddiant hwn yn benodol ar gyfer eich sefydliad neu fusnes, cysylltwch ag arweinydd y cwrs i drafod ymhellach.
Pam astudio’r cwrs?
Ar ôl cwblhau'r cwrs byr hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Deall pam mae symudiad yn y gweithle’n cynnig buddion i'r gweithiwr a'r cyflogwr;
- Deall ein perthynas â symudiad a gweithgarwch corfforol;
- Gallu myfyrio ar ddiwylliant eich gweithle a gwerthuso’i effaith ar symudiad.
- Deall sut y gall fframweithiau cysyniadol Llythrennedd Corfforol a’r model COM-B lywio eich strategaeth, eich ymddygiad a’ch dull o hyrwyddo diwylliant o symudiad a gweithgarwch corfforol yn y gweithle.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Bydd y cwrs yn cael ei redeg dros ddau weithdy 3 awr, wedi'u trefnu tair wythnos ar wahân, gyda thasg adfyfyriol i’w wneud rhwng y ddau.
Tiwtoriaid
Yr Athro Jamie Macdonald, Arweinydd y Cwrs
Cwblhaodd Jamie PhD mewn ffisioleg ymarfer corff clinigol ac mae bellach yn Athro Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Jamie yn arwain rhaglen o ymchwil gymhwysol gyda'r nod o helpu mwy o bobl i symud mwy, mwy o'r amser. Mae’n un o sylfaenwyr ac yn Arweinydd Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru ac mae ganddo gontract anrhydeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Hoff agwedd Jamie o’i rôl yw cydweithio ag ymchwilwyr ac ymarferwyr cymhwysol, ar brosiectau fel cynhyrchu Pecyn Cymorth Gweithle Actif (i’w gyhoeddi’n fuan gan BIPBC) ac ysgrifennu canllawiau ar weithgarwch corfforol ar gyfer Cymdeithas Arennau’r DU.
Pan nad yw'n gweithio, gellir dod o hyd i Jamie yn yr awyr agored, yn aml gyda'i ferch, yn ceisio ei orau i ddringo, beicio a sgïo cystal ag y gwnaeth 20 mlynedd yn ôl.
Gethin Thomas
Mae Gethin yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant, a chefnogaeth ymgynghorol a chynghori i’r sectorau addysg, iechyd a chwaraeon. Mae hefyd yn cefnogi sefydliadau gyda’u gwaith cynllunio strategol, yn ogystal a ysgrifennu adnoddau, canllawiau a dogfennau polisi. Mae arbenigeddau Gethin yn cynnwys y canlynol:
Addysg
-Cwricwlwm i Gymru
-Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles Cwricwlwm i Gymru
-Dylunio a chynllunio’r cwricwlwm
-Datblygu athrawon-ymchwilwyr
-Addysgeg addysg gorfforol wedi’i llywio gan lythrennedd corfforol
Iechyd
-Datblygu diwylliant gweithle egnïol
-Ymarfer wedi’i lywio gan lythrennedd corfforol gan gynnwys cynllunio strategol i ysgogi -mwy o symudiad a ffyrdd mwy egnïol o fyw
Gwylio'r fideo - Hyfforddiant Hyrwyddwr Gweithle
"Felly rydym wedi datblygu'r cwrs Hyfforddi Hyrwyddwyr Gweithle Egnïol i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau yr ydym yn eu gweld yn y gymdeithas nawr, sef diffyg lefelau gweithgarwch corfforol. Ac mae'r gweithle yn rhoi cyfle gwych i ni. Rydym yn treulio llawer o amser yn y gwaith, ac mae'n rhoi'r cyfle gwych hwn i ni allu mynd i'r afael â'r her honno o gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a chael pobl i symud mwy fel rhan o'u bywydau bob dydd.
Ond yn hytrach, rhai sydd efo’r gallu i ddylanwadu ac i arwain ac i newid sefydliad o ran y diwylliant fel ein bod ni’n cael manteision i’r sefydliad yna ac i’r unigolion dros amser. Mae o’n rhywbeth ‘da ni angen anelu tuag at – arweinwyr o fewn sefydliadau neu fusnes a hefyd y gweithwyr.
Mae'r rhaglen hyfforddi hon yn addas i unrhyw un sy'n angerddol am geisio gwella gweithgarwch corfforol a symud yn eu gweithle. Felly gellid ei gyflwyno i weithiwr neu gyflogwr ar unrhyw lefel, ond y peth pwysicaf yw eu bod yn cael y cyfle i newid y diwylliant hwnnw a cheisio rhoi cyfle i bobl allu bod yn fwy egnïol yn y gweithle.
Mae newid ymddygiad yn heriol iawn, ac mae newid ymddygiad i ymddygiad iach yn arbennig o heriol oherwydd yn aml mae'n waith caled i gynyddu gweithgarwch corfforol. Mae'n gofyn am lawer o gymhelliant, ynghyd â llawer o ffactorau eraill o fewn y diwylliant yn eich sefydliad.
Mae’r hyfforddiant yn datblygu gweithwyr o fewn sefydliad i newid y diwylliant o fewn y sefydliad fel ein bod ni’n gwerthfawrogi symud a gweithgaredd corffol a’n bod ni wedyn yn gallu manteisio o’r gweithlu yn symud mwy. Hynny ydi, o ran manteision corfforol i’w iechyd corfforol nhw, i’w iechyd meddyliol nhw a hefyd i’w iechyd a’u lles emosiynol a cymdeithasol nhw fel bod unigolion yn cael caniatâd a’r cyfle i symud mwy yn y gwaith, a’u bod nhw wedyn yn gweld mantais ac yn fwy parod i symud yn y gwaith a’i fod o’n iawn i sefyll wrth ddesg, i gymryd y grisiau, ac i fynd am dro wrth drafod mewn cyfarfod. Bod y newidiadau yn yr ymddygiadau yma wedyn dros amser yn arwain at nifer o fanteision dros y tymor canolig i’r tymor hir nid yn unig i'r unigolyn ond hefyd i’r sefydliad.
‘Dw i'n meddwl bod newid ymddygiad yn heriol, ac mae'n anodd cynnal ymddygiad iach. Mae'n gofyn am lawer o gymhelliant, a'r cyfle mae'r gweithle yn ei ddarparu yw y cewch wneud y newidiadau fel rhan o'ch diwrnod gwaith. Rydym yn defnyddio dull hyfforddi'r hyfforddwr, felly rydym yn ceisio helpu sefydliadau i ofalu amdanynt eu hunain, ac mae hynny'n ei gwneud hi'n llawer mwy cynaliadwy a realistig i sefydliadau allu mynd i'r afael â'r newid ymddygiad heriol hwnnw sydd ei angen i gael y buddion hynny o weithgarwch corfforol a symud."
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rôl hyrwyddwr gweithle egnïol yw ysbrydoli a dylanwadu ar gydweithwyr i gyfrannu at ddiwylliant o symudiad a gweithgarwch corfforol yn y gweithle.
Cyflwynir y cwrs rhyngweithiol hwn mewn dwy ran gan arbenigwyr mewn gweithgarwch corfforol a bydd yn paratoi dysgwyr i ymgymryd â rôl hyrwyddwr gweithle o fewn eu sefydliad eu hunain.
Bydd y cwrs yn eich cefnogi i arwain trwy esiampl a hwyluso eraill i wella eu hymddygiad gweithgarwch corfforol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o lythrennedd corfforol ac egwyddorion newid ymddygiad, yn dysgu sut i gynllunio gweithgareddau gydag empathi ar gyfer anghenion cydweithwyr unigol, dod yn gyfathrebwr iechyd, a gwerthfawrogi sut i ddylanwadu ar reolaeth a diwylliant.
Bydd y cwrs yn cael ei redeg dros ddau weithdy 3 awr, wedi'u trefnu tair wythnos ar wahân, gyda thasg adfyfyriol i’w wneud rhwng y ddau. Ar ôl y cwrs, bydd dysgwyr yn cefnogi ei gilydd trwy eu rhwydwaith newydd o hyrwyddwyr gweithle egnïol, a gallant ofyn i arweinwyr y cwrs eu mentora.
Rhestr o unedau
Gweithdy 1:
- Cyflwyniad i rôl hyrwyddwr gweithle egnïol
- Dod i ddeall pam mae symudiad yn y gweithle’n cynnig buddion i'r gweithiwr a'r cyflogwr
- Datblygu dealltwriaeth o'n perthynas â symudiad a
- gweithgarwch corfforol
- Myfyrio ar ddiwylliant eich gweithle a gwerthuso’i effaith ar symudiad
- Dechrau datblygu dealltwriaeth o sut y gall COM-B lywio’r ffordd yr ydym yn dylanwadu ar gydweithwyr i symud mwy a herio diwylliant eisteddog yn y gweithle
Gweithdy 2:
- Ailymweld â negeseuon allweddol o weithdy 1.
- Datblygu rôl Hyrwyddwyr Gweithle Egnïol.
- Datblygu eich dealltwriaeth o sut y gall fframwaith cysyniadol Llythrennedd Corfforol a’r model COM-B lywio eich strategaeth, eich ymddygiad a’ch dull o hyrwyddo diwylliant o symudiad a gweithgarwch corfforol yn y gweithle.
- Dod yn gyfarwydd â'r adnoddau sydd ar gael.
Cost y Cwrs
Cost y gweithdy ar-lein hwn yw £225
Gwneud Cais
Nid oes dyddiad penodol ar gyfer y cwrs hwn eto. Cofrestrwch eich diddordeb trwy gwblhau’r ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.
Cofrestrwch eich diddordeb yma