Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser, lefel 7 ol-raddiedig a gyflwynir ar-lein.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Bydd y cwrs yma o ddiddordeb penodol i unigolion a sefydliadau sy’n ymroddedig i wella gofal iechyd a chanlyniadau cymunedol, gan gynnwys staff yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector dai
e.e.
- Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol: meddygon, nyrsys, ymarferwyr meddygol, a staff cymorth.
- Gweithwyr Cymdeithasol: Y sawl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol.
- Gweithwyr Tai Proffesiynol: Unigolion sy'n ymwneud â chymdeithasau tai a pholisïau.
- Darpar Arweinwyr: Unigolion sy'n anelu at rolau arweinyddol o fewn eu sectorau priodol.
Pam astudio’r cwrs?
Deilliannau Dysgu:
- Trafod yr esboniadau a'r ymyriadau seicolegol a biolegol sy’n ymwneud â lleddfu trallod meddwl a gwella ymwybyddiaeth meddyliol, a gwerthuso beirniadol ar y sylfaen tystiolaeth empirig a’r risgiau posibl sydd iddynt.
- Cynllunio ymyriadau llesiant priodol i wella gwytnwch yr hunan ac eraill.
- Dealltwriaeth gymhwysol o’r egwyddorion, yr arferion, y polisïau a’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hybu iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol.
- Cyfuno damcaniaethau seicolegol, cymdeithasol, a ffarmacolegol i ddadansoddi continwwm iechyd meddwl a lles.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Cyflwynir y cwrs hwn yn rhan-amser dros 5 mis, fel arfer yn ystod ail semester y flwyddyn academaidd (dechrau ym Mis Medi).
Bydd gofyn i ddysgwyr ymrwymo 100 awr i’r Cwrs Byr hwn, trwy gyfuniad o ddarlithoedd ar-lein, gweithdai ar-lein ac astudio hunan-gyfeiriedig
Tiwtor
Dr Carys Stringer

Ar ôl gwneud BSc. mewn Economeg ym Mhrifysgol Warwick, aeth Dr Carys Stringer ati i wneud PhD mewn Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yn archwilio i sut y cymhwysir y dull gallu mewn ymchwil sy'n cynnwys gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia. Arhosodd Carys ym Mhrifysgol Bangor fel Cymrawd Ymchwil, gan weithio ar werthusiadau economaidd sawl astudiaeth yn ymwneud â’i phrif ddiddordebau ymchwil sef dementia, heneiddio, gofalwyr ac iechyd y cyhoedd. Roedd yr astudiaethau hyn yn cynnwys cymysgedd o ymyriadau seicogymdeithasol ac ymyriadau darpariaeth gwasanaethau, gan rychwantu’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Mae Carys wedi cyfrannu at ddenu gwerth £1.3 miliwn o grantiau, gan gynnwys gwneud hynny fel Prif Ymchwilydd Cymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i archwilio economeg a gwerth cymdeithasol gwasanaethau cefnogi’r trydydd sector i ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia a chyflyrau gwybyddol eraill yng Nghymru (2017-21), ac astudiaeth yn gwerthuso effaith rhaglen y Ganolfan Iechyd i hybu gweithgarwch corfforol ymhlith pobl â chyflyrau cronig (2016-19). Ymunodd Dr Carys Stringer ag ALPHAcademi fel Darlithydd mewn Iechyd Ataliol yn 2021.