Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ydych chi erioed wedi dymuno dysgu Eidaleg? rwan yw eich cyfle i wneud hynny.
Mae ein cyrsiau ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ogystal â’r rhai y tu allan i’r Brifysgol.
Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hein wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o lefelau - o ddechreuwyr i ddysgwyr a allai fod eisiau adnewyddu sgiliau iaith sydd angen dipyn bach o waith ac/neu barhau o astudiaethau TGAU/Lefel A.
*Mae cyrsiau’n cael eu cynnal yn amodol ar niferoedd lleiaf. Mae rhai cyrsiau’n boblogaidd iawn - mewn achosion lle mae cyrsiau’n orlawn byddwn yn gweithredu cofrestru ar sail y cyntaf i’r felin. Yr isafswm oedran yw 18.
Dechrau mis Hydref!
Pam Dysgu Eidaleg?
Mae dysgu iaith yn hwyl ac yn heriol. Mae hefyd yn agor drysau i ddiwylliannau eraill, ac ehangu eich cylch cymdeithasol.
Fe welwch wybodaeth ar y dudalen hon ar sut i gofrestru ar gwrs iaith yn ogystal â manylion amserlen a gwybodaeth bellach am ddeunyddiau a llyfrau testun. Mae’r dosbarthiadau wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o lefelau - o ddechreuwyr llwyr (A1) i ddysgwyr uwch (B1) sy’n ceisio datblygu eu sgiliau iaith. Darganfyddwch fwy am y gwahanol lefelau yma.
Ystafelloedd Darlithio
Mae Ystafelloedd Darlithio (YD) 1,2,3,4,5 i gyd ar y llawr cyntaf, Prif Adeilad y Celfyddydau (Bangor LL57 2DF), trowch i’r chwith ar ben y grisiau. Mae gan yr adeilad hwn faes parcio, fel arfer yn hygyrch am ddim gyda’r nos.
Mae sesiynau ar-lein yn cael eu cynnal ar Blackboard: https://blackboard.bangor.ac.uk/ultra. Os ydych yn profi unrhyw broblemau i gael mynediad i’ch e-bost Prifysgol Bangor neu’r safle Blackboard ar gyfer eich modiwl(au) ar ôl cofrestru, cysylltwch â: shortcourses@bangor.ac.uk
unwaith y byddwch wedi cofrestru, gwiriwch Blackboard yn aml am fanylion a diweddariadau pellach.
Deunyddiau a Llyfrau Testun
Mae ein modiwlau’n gofyn i fyfyrwyr brynu llyfr testun. Cyn gynted ag y byddwch wedi’ch derbyn ar fodiwl, sicrhewch eich bod yn prynu’r llyfr testun perthnasol ar gyfer eich lefel.
Amserlen Ieithoedd i Bawb
Gwiriwch ein gwefan am wybodaeth am yr union ddiwrnod o’r wythnos pan fydd eich sesiynau’n cael eu cyflwyno.
SEMESTER 2
- Dechrau: 6.10 pm. Toriad: 7.00-7.10 pm. Diwedd: 8 pm.
- Sesiwn gyntaf: wythnos yn dechrau 3 Chwefror 2025.
- Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos yn dechrau 3 Mawrth 2025.
- Toriad y gwanwyn (3 wythnos, dim sesiynau): wythnos yn dechrau 14 Ebrill 2025.
- Sesiwn olaf: wythnos yn dechrau 5 Mai 2025.
DYDDIAD CAU COFRESTRU AR GYFER SEMESTR 2: Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2025
Sylwch: (1) Mae cyrsiau’n cael eu cynnal yn amodol ar niferoedd lleiaf; (2) Mae llawer o ddosbarthiadau’n boblogaidd - gan fod nifer y dosbarthiadau’n gyfyngedig, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl i osgoi siom; (3) Er bod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir, gall yr amserlenni newid
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
IEITHOEDD I BAWB - PA LEFEL SYDD I MI?
Edrychwch ar y disgrifyddion isod i werthuso’r lefel ddelfrydol ar gyfer eich gofynion chi. Os nad ydych yn siŵr pa lefel sydd orau i chi, siaradwch gyda’r tiwtor ar y noson cyntaf am gyngor ac arweiniad.
Dechreuwyr (CEFR*: A1) Rydych yn ddechreuwr pur, heb nemor ddim gwybodaeth o’r iaith. Byddwch yn dod yn fedrus mewn amrywiaeth o dasgau iaith syml, mewn sefyllfaoedd bob dydd y gellir eu rhagweld. Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth sylfaenol iawn o gystrawen a geirfa’r iaith.
Dechreuwyr a mwy (CEFR*: A1+) Efallai y byddwch wedi astudio’r iaith yn yr ysgol ers rhai blynyddoedd neu ddilyn cwrs dechreuwyr. Mae gennych eirfa gyfyngedig iawn a rhywfaint o ddealltwriaeth o’r cystrawennau sylfaenol. Bydd y cwrs yn cyflwyno amseroedd newydd y ferf a’ch helpu i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd bob dydd, yn gymdeithasol neu yn y gwaith..
Canolradd (CEFR*: A2) Mae gennych sylfaen resymol yn yr iaith ar lefel ysgol, efallai i lefel-O/TGAU neu gyfwerth. Gellwch ymdrin yn hyderus â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd o ‘raid’. Yn awr, rydych yn awyddus i symud y tu hwnt i ymarfer iaith syml yn unig yn ystod eich gwyliau tramor, a dysgu ymdopi mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn codi’n rheolaidd.
Canolradd a mwy (CEFR*: A2+) Mae gennych sylfaen gadarn yn yr iaith ar lefel ysgol, bron yn sicr i lefel-O/TGAU neu gyfwerth. Gellwch ymdrin yn hyderus â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyffredin. Yn awr, rydych yn awyddus i symud y tu hwnt i ymarfer dialogau syml yn unig yn ystod eich gwyliau neu’ch taith dramor ar gyfer eich gwaith, a dysgu ymdopi mewn sefyllfaoedd a chyfrannu at sgyrsiau o ddiddordeb cyffredin.
Uwch (CEFR*: B1) Mae gennych eirfa dda a dealltwriaeth weddol o reolau sylfaenol gramadeg a sut i’w defnyddio. Rydych yn teimlo’n hyderus, o fewn rheswm, wrth siarad yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyffredin, yn gymdeithasol ac yn y gwaith, ac rydych wrthi’n dod yn rhugl wrth ddarllen ac ysgrifennu. Yn awr, rydych yn awyddus i ddefnyddio’r iaith yn fwy hyblyg a defnyddio’r termau sy’n briodol i’r cyd-destun.
Uwch a mwy (CEFR*: B1+) Mae gennych eirfa dda a dealltwriaeth dda o reolau gramadeg. Mae eich medrau siarad a gwrando yn eich galluogi i deimlo’n gymharol hyderus ran amlaf, boed hynny’n gymdeithasol neu yn y gwaith. Rydych yn deall amrywiaeth eang o destunau anodd a hir ac yn llunio testunau clir a strwythuredig. Yn awr, rydych yn awyddus i fynegi eich hun yn rhugl a digymell, heb ryw lawer o chwilio am ymadroddion, ac i ddefnyddio’r iaith yn hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol.
*CEFR = Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin o ran lefelau iaith.
Cofrestrwch yma
Rydw i'n fyfyriwr Prifysgol Bangor
Mae'r cynllun Ieithoedd i Bawb, wedi ei gwneud yn bosibl i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor gofrestru ar un modiwl y semester AM DDIM (os oes lle ar gael).
Cynigir y modiwlau hyn yn y modd archwilio yn unig ar gyfer holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor – mae hynny’n golygu na fydd asesiad ffurfiol, ac ni ddyfernir credydau ar ôl cwblhau’r modiwlau. Sylwch na fyddant yn cael eu dangos yn eich amserlen.
Yn ogystal, gall myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen gofrestru ar gyfer modiwlau Ieithoedd i Bawb Semester-2 fel rhan o’u gradd, gan ennill 10 credyd/modiwl. Byddai gofyn i fyfyrwyr Blwyddyn Sylfaen gwblhau 2 asesiad/modiwl..
Nodwch os gwelwch yn dda: byddwch angen cod y modiwl a’r diwrnod o'r amserlen isod. Os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau gyda'r ffurflen, cysylltwch â: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk
Rydw i'n Weithiwr Cyflogedig Prifysgol Bangor
Gweithwyr Prifysgol Bangor (ac eithrio'r rhai hynny a gofrestrwyd hefyd fel myfyrwyr llawn-amser) £120.00. I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a’r hepgoriad ffioedd, cysylltwch â cyrsiaubyr@bangor.ac.uk. Archwiliad yn unig fydd y modiwlau – mae hynny'n golygu na fydd asesiad ffurfiol o'r modiwl ac ni ddyfernir credydau ar ôl cwblhau'r modiwl
Nodwch: byddwch angen cod y modiwl a’r diwrnod o'r amserlen isod. Os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau gyda'r ffurflen, cysylltwch â: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk
Rydw i’n dod o’r tu allan i’r Brifysgol ac yn chwilo am ddosbarthiadau nos rhan-amser (cymunedol)
Cynigir y modiwlau hyn yn y modd archwilio yn unig – mae hynny’n golygu na fydd asesiad ffurfiol, ac ni ddyfernir credydau ar ôl cwblhau’r modiwlau.
Gall pob aelod o'r gymuned gofrestru ar ein cyrsiau. Y ffi yw £150 am un modiwl 10 sesiwn Ieithoedd i Bawb. Sylwch fod pob modiwl yn cael ei addysgu dros 10 wythnos.
Os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau gyda'r ffurflen, cysylltwch â: shortcourses@bangor.ac.uk.
Wedi i chi lwyddo i gofrestru, byddwch yn cael cyfeiriad e-bost Prifysgol Bangor, cyfrinair a mynediad i Blackboard (lle rhennir holl gynnwys a hysbysiadau’r cwrs: https://blackboard.bangor.ac.uk/ultra). Os cewch unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich e-bost Prifysgol Bangor neu safle Blackboard ar gyfer eich modiwl(au), cysylltwch â: languagesforall@bangor.ac.uk