Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ydych chi'n eiriolwr cymdeithasol neu amgylcheddol, neu'n arweinydd sy'n gweithio dros newid cadarnhaol? Mae rhaglen chwe wythnos Inner Change Works (ICW) wedi’i chynllunio i rymuso unigolion fel chi gyda’r gwydnwch seicolegol a’r ymatebolrwydd tosturiol sydd eu hangen i ffynnu yn wyneb heriau byd-eang. Boed chi’n teimlo gorflinder (burnout), gorbryder neu flinder tosturiol, mae’r English Are you a social or environmental advocate or a leader working for positive change? The Inner Change Works (ICW) six-week programme is designed to empower individuals like you with the psychological resilience and compassionate responsiveness needed to thrive in the face of global challenges.
rhaglen arloesol yma, sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi, yn cynnig arfau i’ch helpu i ailgysylltu â’ch pwrpas wrth feithrin eich llesiant, hyrwyddo cyfathrebu medrus a gweithredu doeth, a chychwyn newid ymddygiad cynaliadwy. Mae ICW yn fwy na hyfforddiant – mae’n daith drawsnewidiol i feithrin gwytnwch, meithrin gobaith gweithredol, a dyfnhau ymwybyddiaeth foesegol ar gyfer eiriolaeth gynaliadwy. Ymunwch â chymuned gynyddol o wneuthurwyr newid sy'n awyddus i wella eu gallu i ymateb yn effeithiol, arwain yn foesegol, a chyfrannu'n ystyrlon at les cymdeithasol ac ecolegol. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol lle mae eiriolaeth yn ffynnu ochr yn ochr ag iechyd meddwl a chynaliadwyedd. Barod i gael dylanwad bositif, tra’n gofalu amdanoch eich hun? Porwch trwy’r rhaglen ICW heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at ffordd mwy gwydn a thosturiol o sicrhau newid.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn wedi'i anelu at unigolion a sefydliadau sy’n ymgysylltu â'r gymuned, neu’n gweithio ym maes cyfiawnder cymdeithasol, a chynaladwyedd a hynny mewn cyd-destunau lleol a byd-eang.
Pam astudio’r cwrs?
Mae rhaglen chwe wythnos Inner Change Works (ICW) yn mynd i’r afael â’r angen dybryd am wytnwch seicolegol ac ymatebolrwydd tosturiol ymhlith unigolion sy’n ymwneud â newid cymdeithasol a gwaith cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae'r cynllun hwn yn cydnabod yr heriau iechyd meddwl sy'n aml yn cyd-fynd ag amlygiad i faterion byd-eang, megis eco-bryder, gorflino, a blinder tosturiol. Trwy integreiddio dulliau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi, mae rhaglen ICW yn cefnogi meithrin gwytnwch, gobaith gweithredol, ac ymwybyddiaeth foesegol, sydd yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu cynaliadwy ag ymdrechion cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae rhaglen ICW yn ddull arloesol sy’n canolbwyntio ar wydnwch tuag at hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi sy’n mynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl a heriau moesegol eiriolwyr cymdeithasol ac amgylcheddol cyfoes. Trwy feithrin gwytnwch seicolegol, ymwybyddiaeth foesegol, a gweithredu tosturiol, mae’r rhaglen yn grymuso unigolion i ymgysylltu’n fwy cynaliadwy ag eiriolaeth ac i gyfrannu’n ystyrlon at lesiant ar y cyd. Nid yn unig mae hyfforddiant o’r fath o fudd i ymarferwyr unigol ond mae hefyd yn hyrwyddo llewyrch cymdeithasol ac ecolegol ehangach, gan wneud cyfraniad gwerthfawr i faes ymyriadau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Cynhelir y cwrs byr hwn dros gyfnod o 6 wythnos gyda sesiynau 2.5 awr ar-lein yn wythnosol.
Tiwtor
Dr Sophie Sansom
Mae Sophie yn gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Fel uwch ddarlithydd mae Sophie yn dysgu ar y rhaglen meistr ac mae'n angerddol am fentrau cymdeithasol ac amgylcheddol, ac mae wedi cyd-ddatblygu'r rhaglen Inner Change Works (ICW) yn ddiweddar. Yn sylfaenydd SiTT (Cymorth ar gyfer Uniondeb mewn Addysgu a Hyfforddiant) mae Sophie wedi sefydlu fframweithiau ar gyfer datblygiad cymunedol a safonau proffesiynol yn y maes. Ar ôl cyd-ddatblygu dull arloesol ar gyfer cydnabod cwricwla MBP (mindfulness based practice) newydd, mae Sophie yn cadeirio’r Panel Cydnabod Rhyngwladol (IPA) a gynhelir gan Gymdeithas Ewropeaidd Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (EAMBA). Wrth arwain ar ysgolheictod a datblygiad Ymyriadau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar -Meini Prawf Asesu Addysgu, mae gwaith academaidd Sophie yn archwilio ffyrdd o gefnogi arloesedd a hygyrchedd pedagogaidd wrth gynnal ansawdd a chywirdeb; ffocws allweddol yn ei rôl fel Cadeirydd Cymdeithas Brydeinig Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (BAMBA).
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
-
Meddwlgarwch
-
Tosturi
-
Technegau ‘Empowered responsive action’
Beth mae dysgwyr yn ddweud am y cwrs?
"mae yna deimlad cynyddol gryf o berthyn i we eang o gyd-geiswyr newid "
"Rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy ehangu, fy nghyfoethogi ac fy ysbrydoli. Rwy’n fwy abl i gysylltu â dyfnder fy mywyd i rannu, gweithredu, mynegi newid mewn ffordd nad oeddwn i’n ei gwneud o’r blaen."
"Rwyf yn teimlo’n bositif ac wedi fy ngrymuso. Mae gen i deimlad bod y pethau bach rydw i'n eu gwneud yn gallu gwneud gwahaniaeth."
Cost y Cwrs
£260 (pris yn ddilys ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25)
Gwneud Cais
Nid oes dyddiad penodol ar gyfer y cwrs hwn eto. Cofrestrwch eich diddordeb trwy gwblhau’r ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.