Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs microgymhwyster yma ar gyfer addysgwyr mewn swyddi arweinyddiaeth Ysgol, yn ogystal ag unigolion sy’n arwain ar faterion eco yn eu hysgolion.
Pryd byddaf yn cychwyn?
Byddwn yn cynnig dau ddyddiad cychwyn gwahanol ar gyfer y cwrs microgymhwyster hwn - mis Ionawr a mis Ebrill.
Beth yw hyd y cwrs?
50 awr (7.5 awr o ddysgu; 42.5 o astudiaeth annibynnol dan arweiniad).
Pam astudio'r cwrs yma?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu cynllun gweithredu i'w ddefnyddio yn eu hysgolion, tra'n dangos bod nifer o ffactorau mewnol ac allanol wedi'u hystyried. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno cynllun gweithredu wedi'i anodi'n feirniadol a ddefnyddir fel rhan o'ch taith newid cynaliadwyedd ar ddiwedd y cwrs.
Tiwtor
Jeremy Griffths
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r syniad o arweinyddiaeth gynaliadwy mewn addysg wedi cael ei drafod ers sawl degawd (Hargreaves & Fink, 2005). Fodd bynnag, ni fu erioed cymaint o frys i sicrhau newid amgylcheddol er lles a goroesiad cenedlaethau’r dyfodol o ddynoliaeth. Mae hyn yn cynnwys arweinwyr ar bob lefel ac o bob agwedd o fywyd.
Gellir dadlau y bydd ysgolion a'u myfyrwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod o hyd i atebion i drychineb amgylcheddol byd-eang posibl. Felly, rhaid i arweinwr:
- gael eu galluogi i ddatblygu arfer gorau a modelu cynaladwyedd i'w myfyrwyr a'u rhanddeiliaid
- ddatblygu addysgu a dysgu ar gyfer cynaladwyedd fel rhan o bob agwedd o'r cwricwlwm ac nid fel atodiad yn unig; a
- gwrando ar lais pobl ifanc a chymunedau lleol sydd â’r awydd a'r gallu i ddiogelu'r dyfodol.
Yn y modiwl hwn, byddwch yn ystyried pam, beth a sut i roi arferion a pholisïau cynaliadwy ar waith yn eich sefydliad. Byddwch yn ystyried y ffactorau mewnol ac allanol sy'n effeithio ar benderfyniadau arweinydd ac yn dylunio cynllun gweithredu cynaliadwyedd a fydd yn symud eich sefydliad ymlaen tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Deilliannau dysgu
- Dylunio a chyfiawnhau cynllun gweithredu cynaliadwyedd sy'n briodol i'ch sefydliad a fydd yn effeithio'n greadigol ar newid hirdymor ac yn cyfrannu'n unigryw at agendâu cynaliadwyedd mewn addysg.
Sut bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno?
- Bydd y cwrs microgymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddeunyddiau a recordiadau ar-lein, a gynhelir ar Blackboard, sef amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Bangor.
- Caiff myfyrwyr gyfleoedd i gydweithio â'i gilydd trwy fforymau ar-lein Blackboard a grwpiau trafod.
- Bob wythnos bydd deunydd newydd ar gael i fyfyrwyr ar ffurf fideos, deunydd darllen, tasgau hunan-astudio a gweithgareddau ymarferol.
- Rhoddir arweiniad i gefnogi myfyrwyr i gwblhau eu hasesiad yn llwyddiannus tuag at ddiwedd y cwrs.
Cost y Cwrs
- Y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 fydd £250.00 (yn cynnwys TAW).
- Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Dylai’r darpar ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (2(ii) neu uwch).
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau isod cyn gwneud cais. Mae’r cyfarwyddiadau’n nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano, a bydd dilyn y cyfarwyddiadau’n arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth bresennol;
- Blynyddoedd o brofiad a hanes cyflogaeth (fel sy'n berthnasol)
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o gwblhau'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISIO.
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau annibynnol', yna dewiswch ‘Ôl-raddedig a addysgir nad yw’n graddio’.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch ‘Non-Graduating Taught Modules in Health (NGGT/HEALTH)'. Cliciwch ‘Cadw a Pharhau’.
- Yn y dudalen nesaf, newidiwch ateb y cwestiwn cyntaf i ‘Rhan amser'.
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl. Ar gyfer Microgymhwyster: Arweinyddiaeth Gynaliadwy mewn Addysg 2 - Gweithredu’r Cynllun, y cod ar gyfer Ionawr yw XME-4492 a'r cod ar gyfer Ebrill yw XME-4104. Rhaid cwblhau'r adran hon i sicrhau fod eich cais yn cael ei brosesu.
- Rhaid i chi nodi dyddiad dechrau’r cwrs hefyd. Mae'r cwrs hwn yn rhedeg ddwywaith y flwyddyn (Medi ac Ionawr). Dewiswch un o'r opsiynau hyn, yna cliciwch ‘Cadw a Pharhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, dylech uwchlwytho’r ddogfen a baratowyd gennych ar ddechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yma. Cliciwch ‘Cadw a Pharhau'.
Mae angen i chi gynnwys gwybodaeth am y cymhwyster uchaf sydd gennych chi, e.e. os oes gennych chi gymhwyster ôl-raddedig, dim ond y wybodaeth yma sydd ei angen.
Bydd y system yn gofyn am dystiolaeth o'r cymhwyster. Os ydy'r dystiolaeth wrth law, mae modd i chi ei uwchlwytho yma. Peidiwch â phoeni os nad ydyw gennych chi, gallwch uwchlwytho'r ddogfen Word yma eto (i fodloni'r system).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn hunan-ariannu, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol.