Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r modiwl / dyfarniad Addysgu Ymarfer wedi’i gynllunio i baratoi gweithwyr cymdeithasol cofrestredig ar gyfer cynnig lleoliad dan asesiad i fyfyriwr gwaith cymdeithasol. Gall hyn fod o fewn rhaglenni cymhwyso proffesiynol ar lefel israddedig neu ôl-raddedig/meistr. Comisiynir y modiwl drwy bartneriaeth chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn). Cydlynir y modiwl gan Brifysgol Bangor, gyda phartneriaeth addysgu ychwanegol gan Brifysgol Wrecsam.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn benodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru sydd ag o leiaf 3 mlynedd o brofiad ymarfer ôl-gymhwyso. Bydd cyflogwyr yn sicrhau y neilltuir myfyriwr gwaith cymdeithasol i ymgeiswyr ar y modiwl hwn i ddarparu lleoliad. Mae’r lleoliadau yma yn lleiafswm o 80 diwrnod.
Pam astudio’r cwrs?
Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i addysgu ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal â gwybodaeth am gynllunio a rheoli lleoliad cyfan, archwilir cysyniadau dysgu ac addysgu oedolion, ystyrir ffactorau sydd yn creu amgylchedd ffafriol i fyfyrwyr ddysgu, datblygu sgiliau a hyder wrth asesu cymhwysedd, darparu adborth effeithiol ar ymarfer a chofnodion ysgrifenedig, adnabod anghenion a chyfleoedd dysgu pellach ac adnabod pan fo myfyrwyr yn cael trafferth.
Mae’r modiwl wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Wrth gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, caiff ei ystyried fel cymhwyster asesydd cydnabyddedig o fewn y Fframwaith ar gyfer y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru (2023).
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
-
3 diwrnod llawn, wyneb-yn-wyneb (lleoliad i'w drefnu)
-
Sesiynau cefnogaeth ychwanegol ar-lein
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr sy'n ymuno â'r modiwl hwn fod yn weithwyr cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig.
Rhaid i'r cyflogwr gefnogi'r enwebiad.
Rhaid i gyflogwyr gadarnhau y bydd ymgeiswyr enwebedig yn gallu mynychu'r diwrnodau hyfforddi, sydd yn 3 diwrnod llawn, wyneb-yn-wyneb, yn ogystal â sesiynau cefnogaeth ychwanegol ar-lein.
Bydd cyflogwyr hefyd yn sicrhau y neilltuir myfyriwr gwaith cymdeithasol i ymgeiswyr i ddarparu lleoliad o 80 diwrnod o leiaf ar eich cyfer.
Gwneud Cais
I gael lle ar y cwrs yma mae’n ofynnol i gyflogwyr (awdurdodau lleol fel arfer) enwebu a chymeradwyo aelodau addas o’r gweithlu ar gyfer y cwrs. Nid yw’n bosib i unigolion wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Bangor am le ar y cwrs / modiwl hwn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr y Cwrs: g.prysor@bangor.ac.uk