Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn cerdded tu allan i Adeilad y Celfyddydau

Diwrnod Agored Bach - mynediad ym Medi 2025

Diddordeb mewn astudio cwrs israddedig ym Medi 2025? Os ydych dal yn ystyried eich opsiynau, dewch i'r Diwrnod Agored Bach ar Ddydd Gwener, 24 Ionawr 2025.

Cofrestru nawr

5 rheswm i ddod i'r Diwrnod Agored Bach ar Ddydd Gwener, 24 Ionawr

Ewch am dro trwy gampws y Brifysgol lle cewch eich amgylchynu gan ein hadeiladau trawiadol a’r golygfeydd syfrdanol o fynyddoedd Eryri. Cewch weld ei fod y lle perffaith i ddysgu ac i ddatblygu’n bersonol.
Os rydych yn angerddol am yr amgylchedd, eisiau dysgu mwy am fyd busnes, yn awyddus i wybod am y dechnoleg ddiweddaraf, mae gan Fangor amrywiaeth o gyrsiau a byddwch yn sicr o ffeindio un fydd i’ch siwtio.
Mae ein staff dysgu profiadol wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd ddysgu cefnogol a chyffrous lle byddwch yn rhagori yn academaidd ac yn datblygu’n bersonol. Bydd ein cymuned gyfeillgar o  fyfyrwyr ar gael hefyd i rannu eu profiadau o fywyd myfyriwr ym Mangor. 
Mae’r Diwrnod Agored yn gyfle gwych i ddod i adnabod y Brifysgol a’i hadeiladau. Os nad ydych eisoes yn gyfarwydd â’r ardal, efallai byddwch hefyd yn dymuno ymweld â dinas Bangor a’r ardal gyfagos yn ystod eich ymweliad.  
Mae ein llety yn fodern ac o fewn pellter cerdded o fwyafrif o adeiladau’r Brifysgol. Nid yw’n syndod felly ein bod wedi ein gosod yn y 3 uchaf yn y DU am Neuaddau a Llety yng ngwobrau What Uni 2023.  

Yn ystod y Diwrnod Agored Bach, cewch:

  • Sgwrsio gyda staff a myfyrwyr presennol i gael gwybodaeth am astudio eich dewis cwrs ym mis Medi
  • Ymweld â’n llety myfyrwyr sydd wedi eu gosod yn y 3 Uchaf yn y DU (Gwobrau WhatUni? 2023) 
  • Ymweld â’r cyfleusterau chwaraeon
  • Ymweld â’r ardal arddangos i ganfod mwy am yr ystod eang o wasanaethau cefnogol ac Undeb y Myfyrwyr 

Gweld y rhaglen lawn 

Gadewch i ni wybod o flaen llaw dros ebost os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol. 

Wedi gwneud cais am gwrs yn cychwyn ym Medi 2025?

Os ydych wedi gwneud cais i astudio yma, cewch wahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr drwy'r post / e-bost. Mae'r Diwrnodau i Ymgeiswyr yn gyfle gwych i chi gael gwell dealltwriaeth o'ch cwrs ac i ddod i wybod mwy am eich opsiynau llety. 

Archebwch eich lle ar y Diwrnod Agored Bach

[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!

[0:07] Welcome to Bangor University Open Day!

[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.

[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd