Ynglŷn â’r Cwrs Yma
cod modiwl (ILA-4008)
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser, lefel 7 ol-raddiedig a gyflwynir ar-lein.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Bydd y modiwl o ddiddordeb penodol i unigolion a sefydliadau sy’n ymroddedig i wella gofal iechyd a chanlyniadau cymunedol, gan gynnwys staff yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector dai
e.e.
- Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol: meddygon, nyrsys, ymarferwyr meddygol, a staff cymorth.
- Gweithwyr Cymdeithasol: Y sawl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol.
- Gweithwyr Tai Proffesiynol: Unigolion sy'n ymwneud â chymdeithasau tai a pholisïau.
- Darpar Arweinwyr: Unigolion sy'n anelu at rolau arweinyddol o fewn eu sectorau priodol.
Pam astudio’r cwrs?
Deilliannau dysgu:
- Gwerthfawrogi'n feirniadol y ffactorau seicolegol (e.e. iechyd meddwl, gwydnwch, ac ati) a’r ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol (e.e. tlodi, normau, ac ati) a all effeithio ar ddewisiadau o ran arferion iechyd
- Cynllunio ymyriad newid ymddygiad priodol sy'n effeithio ar arferion iechyd
- Meddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ymddygiad a dulliau effeithiol o newid ymddygiad ar gyfer gweithgarwch corfforol, iechyd a lles.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Cyflwynir y cwrs hwn yn rhan-amser dros 5 mis, fel arfer yn ystod ail semester y flwyddyn academaidd (dechrau ym mis Ionawr).
Bydd y cwrs nesaf yn cychwyn ar 22 Ionawr 2024.
Bydd angen i chi fynychu dau ddiwrnod addysgu ar-lein:
- 15 Chwefror 2024 (9:30-12:30 a 13:30-15:30)
- 25 Ebrill 2024 (9:30-12:30 a 13:30-15:30)
Bydd gofyn i ddysgwyr ymrwymo 100 awr i’r Cwrs Byr hwn, trwy gyfuniad o ddarlithoedd ar-lein, gweithdai ar-lein ac astudio hunan-gyfeiriedig.
Tiwtor
Dr Rosemary Smith
Mae cefndir Rosemary ym maes addysg, cymell a mentora, ac arweinyddiaeth, i ddechrau yn y maes awyr agored fel hyfforddwr ac addysgwr hyfforddwyr, ac am y 10 mlynedd ddiwethaf, yn addysgu ar raglenni ôl-radd ac israddedig mewn Addysg Uwch. Mae gan Rosemary MEd mewn Ymarfer Proffesiynol mewn Addysg Uwch, ac EdD (Doethur mewn Addysg), ac mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Mae diddordebau ymchwil Rosemary mewn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, dysgu a chymell, yn ogystal ag ymchwil flaenorol i brofiadau merched yn yr awyr agored.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r modiwl ôl-raddedig 10 credyd annibynnol hwn ar lefel 7 yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd a gweithdai.
Bydd y gweithdai’n eich cyflwyno chi i’r prif gysyniadau mewn seicoleg newid ymddygiad, ac yn rhoi cyfle i chi archwilio’r pwnc trwy ystyried astudiaethau achos o’r byd go iawn.
Bydd cyfres o ddarlithoedd hefyd yn rhoi dealltwriaeth o seicoleg newid ymddygiad a sut y gellir ei defnyddio i hybu ymddygiadau cadarnhaol. Bydd y darlithoedd hyn hefyd yn rhoi arweiniad penodol ar sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn lleoliad Iechyd. Bydd rhestr ddarllen i bob darlith ar gael trwy lyfrgell y Brifysgol.
Bydd asesiadau yn eich galluogi i ddangos tystiolaeth o'ch gwybodaeth mewn traethawd ac arddangos eich dealltwriaeth gymhwysol mewn poster sy'n canolbwyntio ar sut i wneud dewisiadau ymddygiad iachach.
Pam astudio y Cwrs
- Gwerthfawrogi'n feirniadol y ffactorau seicolegol (e.e. iechyd meddwl, gwydnwch, ac ati) a’r ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol (e.e. tlodi, normau, ac ati) a all effeithio ar ddewisiadau o ran arferion iechyd
- Cynllunio ymyriad newid ymddygiad priodol sy'n effeithio ar arferion iechyd
- Meddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ymddygiad a dulliau effeithiol o newid ymddygiad ar gyfer gweithgarwch corfforol, iechyd a lles.
Cost y Cwrs
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gall ysgoloriaethau fod ar gael ar gyfer y Cwrs Byr hwn, cysylltwch â'r tîm i drafod ymhellach.
Gofynion Mynediad
Dylai darpar ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (o 2(ii) neu uwch), yn ogystal â datganiad personol cryf a thystlythyr(au) (academaidd a/neu gysylltiedig â gwaith).
Os nad ydych yn bodloni’r gofynion academaidd a nodir uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a bod gennych dystiolaeth o astudiaeth ddiweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai y byddwn yn ystyried eich cais. Cysylltwch gyda ni i drafod ymhellach.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Newid Ymddygiadol Iach: y cod yw (ILA-4008). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol