Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr dysgu o bell, rhan-amser ar lefel 6, a gyflwynir ar-lein.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer nyrsys practis newydd a phrofiadol sydd wedi'u cofrestru â'r NMC, ac sy'n ceisio datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn practis cyffredinol.
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y modiwl hwn yn cefnogi’r dysgwr i:
- Datblygu sgiliau mewn dulliau canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cyfweld ysgogol a dull canlyniadau personol.
- Cymhwyso a dadansoddi'n feirniadol strategaethau hybu iechyd ac atal afiechyd priodol o fewn gofal cychwynnol (primary care).
- Gwerthuso'n feirniadol y feddyginiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'i berthnasedd i bractis cyffredinol.
- Archwilio amrywiaeth o gyflwyniadau acíwt a hirdymor o fewn practis cyffredinol.
- Datblygu gwybodaeth am ystod o sgiliau clinigol priodol megis: gofal clust, sgrinio iechyd, iechyd teithio, imiwneiddio a monitro therapiwtig.
Mae'r modiwl yn gyfle gwych i unrhyw nyrs sy'n newydd i bractis cyffredinol. Nod y modiwl yw gwella datblygiad sgiliau sylfaenol sy'n briodol i bractis cyffredinol. Bwriad y modiwl yw annog y nyrs i ddatblygu sylfaen gref yn y maes ymarfer amrywiol hwn.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y modiwl hwn ddwywaith y flwyddyn, yn rhan-amser dros 15 wythnos, fel arfer yn yr Hydref a'r Gwanwyn.
Bydd y cwrs nesaf yn cael ei gynnal fel a ganlyn:
Hydref 2024
8 diwrnod astudio ar-lein ar y dyddiau canlynol:
- 4 Hydref 2024
- 21 Hydref 2024
- 11 Tachwedd 2024
- 25 Tachwedd 2024
- 2 Rhagfyr 2024
- 9 Rhagfyr 2024
- 13 Ionawr 2025
- 27 Ionawr 2025
Gwanwyn 2025
8 diwrnod astudio ar-lein ar y dyddiau canlynol:
- 17 Mawrth 2025
- 24 Mawrth 2025
- 31 Mawrth 2025
- 7 Ebrill 2025
- 14 Ebrill 2025
- 5 Mai 2025
- 12 Mai 2025
Bydd y 3 asesiad ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Blog (i’w gwblhau yn ystod y modiwl)
-
Arholiad Cwestiynau Amlddewis (MCQ)
-
Cymwyseddau clinigol
Gwybodaeth bellach
Cefnogir y modiwl gan gwrs byr ar system Rheoli Hyfforddiant y brifysgol (TDM) o'r enw, GPN Training the Supervisors. Pwrpas y cwrs byr hwn yw addysgu a chefnogi goruchwylwyr clinigol sy'n asesu ac yn cwblhau'r dogfennau sy'n ymwneud â'r modiwl nyrsio ymarfer cyffredinol.
Cysylltwch â arweinydd y cwrs am wybodaeth bellach.
Tiwtoriaid
Gillian Roberts, Uwch Ddarlithydd a Chymrawd Dysgu, Ysgol Gwyddorau Iechyd
Mae gan Gillian wybodaeth a phrofiad helaeth yn ymwneud ag ymarfer uwch, ymarferydd brys a nyrsio practis cyffredinol.
Heather Bloodworth, Darlithydd mewn Gofal Iechyd, Ysgol Gwyddorau Iechyd
Mae gan Heather wybodaeth a phrofiad helaeth yn ymwneud ag ymarfer uwch, endocrinoleg, gofal brys a nyrsio practis cyffredinol.
Enillodd Gill a Heather wobr Catalyst yn 2023 am ddysgu ac addysgu. Mae'r wobr ryngwladol flynyddol hon yn cydnabod ac yn anrhydeddu arloesedd a rhagoriaeth yng nghymuned ymarfer fyd-eang Anthology.
Enillwyd y wobr trwy ddylanwadu'n gadarnhaol ar brofiad addysgol myfyrwyr a'u goruchwylwyr clinigol sy'n cefnogi'r modiwl nyrsio practis cyffredinol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y modiwl yn trafod y pynciau canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Sgiliau cymryd hanes a sgiliau cyfathrebu
- Hybu iechyd
- Sgrinio iechyd
- Monitro therapiwtig
- Imiwneiddio
- Gofal clust
- Iechyd teithio
- Iechyd merched
- Iechyd dynion
- Cynllunio teulu ac iechyd rhywiol
- Cefnogi cyflyrau hirdymor mewn practis cyffredinol (Bydd sylw’n cael ei roi i’r pynciau canlynol: cardiaidd, anadlol a diabetes)
- Asesiad iechyd meddwl
- Arweinyddiaeth a rheoli newid/archwiliad
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Bydd y modiwl hwn yn cefnogi’r dysgwr i:
- Datblygu sgiliau mewn dulliau canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cyfweld ysgogol a dull canlyniadau personol.
- Cymhwyso a dadansoddi'n feirniadol strategaethau hybu iechyd ac atal afiechyd priodol o fewn gofal cychwynnol (primary care).
- Gwerthuso'n feirniadol y feddyginiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'i berthnasedd i bractis cyffredinol.
- Archwilio amrywiaeth o gyflwyniadau acíwt a hirdymor o fewn practis cyffredinol.
- Datblygu gwybodaeth am ystod o sgiliau clinigol priodol megis: gofal clust, sgrinio iechyd, iechyd teithio, imiwneiddio a monitro therapiwtig.
Mae'r modiwl yn gyfle gwych i unrhyw nyrs sy'n newydd i bractis cyffredinol. Nod y modiwl yw gwella datblygiad sgiliau sylfaenol sy'n briodol i bractis cyffredinol. Bwriad y modiwl yw annog y nyrs i ddatblygu sylfaen gref yn y maes ymarfer amrywiol hwn
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid israddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- Nyrs gofrestredig yr NMC yn gweithio yn y practis cyffredinol.
- Wedi eich cefnogi gan oruchwyliwr clinigol profiadol er mwyn cwblhau cymwyseddau clinigol yn ymwneud â Fframwaith Cymhwysedd GIG Cymru ar gyfer Nyrsys sy’n gweithio mewn Practis Cyffredinol yn llwyddiannus.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGU/HS) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Nyrsio Meddygaeth Teulu: y cod yw NHS: 3213* ar gyfer dechrau'r cwrs fis Ebrill neu NHS: 3180* ar gyfer dechrau'r cwrs fis Medi. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol