Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs byr yma’n cyflwyno pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’r amrywiaeth ddiwylliannol sy’n bod yn ein cymdeithas a’r angen i sicrhau parch. Mae meddiant diwylliannol (cultural appropriateion) yn agwedd broblematig ac yn gallu codi mewn sawl cyd-destun, o ddiwydiannau cyhoeddus, i’r sector breifat, i’r cyfryngau, a’r cyfryngau cymdeithasol. Yn ei hanfod, mae meddiant diwylliannol yn enghraifft o unigolyn o ddiwylliant arall yn hawlio diwylliant gwahanol a, gyda hynny, yn dangos diffyg parch tuag ato. Mae’n rhaid bod yn ymwybodol o beryglon hynny a gofalu bod parchu diwylliannau gwahanol yn hanfodi ein byd.
Beth yw hyd y cwrs?
Mae hyd y cwrs hwn ar y dyddiad penodol hwn a bydd yn rhedeg am ddwy awr a hanner 17/01/2024 – 10.00yb – 12.30yp
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs hwn yn addas?
Mae’r cwrs yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn sut i ofalu eu bod yn gweithredu mewn ffordd sy’n parchu ac yn gwerthfawrogi diwylliannau amrywiol, a ddim yn ceisio eu meddiannu i’w dibenion eu hunain.Felly, bydd y cwrs o werth i bawb sy’n gweithio yn y sector breifat, yn y byd cyhoeddus, mewn cynghorau cymuned, yn y cyfryngau, sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol.
Tiwtor
Dr Gareth Evans-Jones
Mae Dr Gareth Evans-Jones yn ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd, ac yn awdur creadigol. Wrth ei waith, mae’n cyson ymwneud â gwahanol ddiwylliannau a thraddodiadau, syniadau a chredoau, a bydolygon, ac yn ymwybodol o’r angen i barchu diwylliannau gwahanol a pheidio â’u meddiannu. Mae ganddo arbenigedd mewn diwylliannau mwyafrif byd, a sgyrsiau rhwng grwpiau ffydd, ac mae wedi cynnal gweithdai yn y gorffennol ar sut i osgoi meddiant diwylliannol mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys y gweithdy sut i osgoi meddiant diwylliannol mewn llyfrau a gynhaliwyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2021
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Testunau’r uned ddysgu yw:
Bydd y cwrs yn edrych ar yr agweddau canlynol ac yn cynnwys gweithdai i ymarfer sut i ymateb i feddiant diwylliannol:
- Cyd-destun: beth yw meddiant diwylliannol a pham ei fod yn broblem.
- Enghreifftiau o feddiant diwylliannol.
- Ystyried pa ffactorau y gellid eu cywiro i osgoi meddiant diwylliannol.
- Trafod polisiau cyfoes gwahanol: eu cryfderau a’u gwendidau.
- Meddwl am ba bethau fedrwn ni roi ar waith i osgoi meddiant diwylliannol.
Cloi drwy hunan-adlewyrchu a chynllunio at y dyfodol.
Cost y Cwrs
Mae y cwrs yma am ddim!
Gofynion Mynediad
nid oes angen unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn