Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr hyblyg ar lefel ôl-raddedig sy'n cael ei gyflwyno ar-lein.
Mae perfformio ar ein gorau mewn sefyllfaoedd allweddol yn nodweddiadol o bencampwyr mewn meysydd amrywiol megis busnes, y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, neu chwaraeon.
Byddwn yn ymchwilio i'r ffordd mae pwysau yn effeithio ar berfformiad ac yn cynnig strategaethau i osgoi methiant o dan straen. Dysgwch sut i ragori mewn sefyllfaoedd hollbwysig.
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs Byr hwn yn addas?
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb deall sut a pham mae perfformiad yn gwegian o dan straen. Bydd y cwrs o ddiddordeb arbennig i'r rhai sy'n gweithio mewn meysydd o bwysau mawr neu'n gweithio gyda phobl sy'n gweithio o dan bwysau.
Mae ein dysgwyr wedi cynnwys pobl o bob rhan o’r DU, ac o bob rhan o’r byd. Mae'r cwrs byr yma'n rhan o'r rhaglen MSc Seicoleg Perfformio (dysgu o bell) ac mae cyn-fyfyrwyr yn cynnwys:
- Hyfforddwyr chwaraeon proffesiynol: Rygbi, Criced, Pêl-droed Gaeleg, a Hyfforddwyr Rhedeg Dygnwch
- Aelodau ‘UK Coaching’
- Athletwyr Elitaidd mewn: pêl-droed, pêl-droed Gaeleg, criced, rygbi a golff
- Cyfarwyddwyr Perfformiad ar gyfer Timau Undeb Rygbi Proffesiynol
- Perfformwyr Opera
- Cerddorion Proffesiynol
- Arweinwyr Busnes
- Uwch reolwyr o sefydliadau fel MasterCard a Facebook
- Criw Cefn Hofrennydd yr RAF
- Rheolwyr traffig awyr
- Swyddogion Heddlu
- Meddygon Teulu ac Anesthetyddion
- Rheolwyr GIG
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y cwrs yn eich helpu chi ddeall sut y gall pwysau seicolegol effeithio ar berfformiad dynol, a pha strategaethau seicolegol y gellir eu defnyddio i sicrhau’r perfformiad gorau dan straen. Bydd yn cynnwys astudio 4 o theorïau amlwg ynglŷn â phwysau a pherfformiad. Ceisiwn ddarlunio’r deunyddiau trwy gyflwyno enghreifftiau o fywyd go iawn ac astudiaethau achos ynglŷn ag athletwyr sy'n profi pwysau a phroblemau o ran eu perfformiad. Byddwch yn dysgu sut mae gwneud diagnosis o broblemau sy’n ymwneud â phwysau a pherfformiad, a sut mae cyflwyno ymyriadau seicolegol i liniaru’r effeithiau andwyol sydd i’r pwysau.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Caiff y cwrs byr hwn ei gyflwyno dros gyfnod o 12 wythnos. Fodd bynnag, cewch fynediad at holl ddeunyddiau’r darlithoedd ar ddechrau'r cwrs a fydd yn eich galluogi i fynd mor gyflym neu mor araf ag y dymunwch yn ôl eich amgylchiadau personol.
Asesiad
Caiff y cwrs byr ei asesu trwy ddau gyflwyniad sy'n canolbwyntio ar ddiagnosis (cyflwyniad 1) a chynnig ymyriad (cyflwyniad 2) i ddatrys problem sy’n ymwneud â phwysau a pherfformiad. Caiff y ddau asesiad eu cyflwyno ar lafar trwy gyflwyniadau PowerPoint (10 ac 8 munud yn y drefn honno) tua diwedd y cwrs.
Y Gofynion Technegol
Cwrs ar-lein yw hwn a gyflwynir trwy Blackboard Ultra. Bydd angencysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd, adnoddau Technoleg Gwybodaeth a chyfrifiadur a meddalwedd cyfoes, meicroffon a chlustffonau neu seinyddion ar y myfyrwyr.
Tiwtor
Dr Stuart Beattie
https://www.bangor.ac.uk/staff/spss/stuart-beattie-008998/cy
Mae Stuart yn Ddarllenydd mewn Seicoleg Perfformiad, cyfarwyddwr yr MSc mewn Seicoleg Perfformiad (dysgu o bell), Seicolegydd Chwaraeon Cofrestredig HCPC, ac aelod o’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit (IPEP).
Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil mae Cryfder Meddyliol, Gwytnwch, a Seicoleg Perfformiad yn Gyffredinol.
Bu Stuart yn gweithio fel seicolegydd chwaraeon i Gymnasteg Prydain am bum mlynedd a bu’n ymwneud â phrojectau gwytnwch i Outlook Expeditions a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Ymhlith y projectau cyfredol yn goruchwylio graddau PhD mae - archwilio projectau Gwytnwch, Cryfder Meddyliol, a Pherthnasoedd Triadig gyda chlwb Pêl-droed Manchester City, yn ogystal â goruchwylio ymgeiswyr PhD yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Fel rhan o'r MSc Seicoleg Perfformiad (dysgu o bell), mae Stuart hefyd yn darparu cefnogaeth oruchwyliol i fyfyrwyr ym meysydd Opera, RAF, Busnes, a Hyfforddi Chwaraeon.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cwrsyn eich helpu chi ddeall sut y gall pwysau seicolegol effeithio ar berfformiad dynol, a pha strategaethau seicolegol y gellir eu defnyddio i sicrhau’r perfformiad gorau dan straen.
Byddwch yn dysgu am y theorïau a'r ymyriadau cymhwysol diweddaraf mewn llenyddiaeth straen a pherfformiad, a'r prif feysydd straen a pherfformiad a fydd yn cael sylw fydd:
-
Rheolaeth Sylw e.e., pam mae bygythiadau’n dwyn ein sylw?
-
Effeithiau Eironig e.e., pam ydym yn gwneud yr union bethau rydym yn dweud wrthym ein hunain am beidio?
-
Ailfuddsoddi e.e., pam rydyn ni weithiau'n “gorfeddwl” ein symudiadau dan bwysau?
-
Canfyddiadau Heriau a Bygythiadau e.e., yr hyn y mae ein hymatebion seicoffisiolegol i straen yn ei olygu, a sut gallwn ni eu rheoli yn y ffordd orau bosibl?
Bydd yr ail ran o'r cwrs yn canolbwyntio ar gynllunio ymyriadau, dylunio ac adfyfyrio, trwy gyflwyno enghreifftiau o fywyd go iawn ac astudiaethau achos ynglŷn ag unigolion sy'n profi pwysau a phroblemau o ran eu perfformiad.
Byddwch yn dysgu sut mae gwneud diagnosis o broblemau sy’n ymwneud â phwysau a pherfformiad, a sut mae cyflwyno ymyriadau seicolegol i liniaru’r effeithiau andwyol sydd i’r pwysau.
Beth fydd y dysgwr yn astudio ar y cwrs hwn?
Mae maes llafur y cwrs byr yn cynnwys 18 o ddarlithoedd byw a gaiff eu recordio ymlaen llaw a 2 ddarlith fyw ar-lein:
- Darlith 1-6: Theori Ailfuddsoddi ac Ymyriadau Ailfuddsoddi
- Darlith 7-12: Theori Arfarnu Her a Bygythiad ac Ymyriadau
- Darlith 13-17: Theori Rheolaeth Sylwgar
- Darlith 18-19: Theori Effeithiau Eironig
- Darlith 20: Ymyriadau Straen a Pherfformiad
Cynhelir dwy sesiwn Holi ac Ateb gefnogol hanner ffordd drwy’r modiwl ac eto ar ddiwedd wythnos 11/12.
Asesiad
Caiff y modiwl ei asesu trwy ddau gyflwyniad. Bydd y cyflwyniad cyntaf yn canolbwyntio ar ddiagnosis a'r ail yn canolbwyntio ar gynnig ymyriad i ddatrys problem sy’n ymwneud â phwysau a pherfformiad. Caiff y ddau asesiad eu cyflwyno ar lafar trwy gyflwyniadau PowerPoint (10 munud i'r cyflwyniad cyntaf, ac 8 munud i'r ail gyflwyniad) tua diwedd y cwrs.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu:
- disgrifio'r damcaniaethau allweddol a ddefnyddir i egluro'r berthynas rhwng straen a pherfformiad.
- cynnal dadansoddiad beirniadol o ymchwil i straen a pherfformiad
- cymhwyso theori ac ymchwil cyfoes straen a pherfformiad i esbonio'r gostyngiadau mewn perfformiad sy'n digwydd mewn astudiaethau achos o berfformwyr yn y byd go iawn
- llunio ymyriadau sy’n seiliedig ar theori i helpu lliniaru effeithiau andwyol straen ar berfformiad
Cost y Cwrs
- Y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 fydd £556 (yn cynnwys TAW).
- Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd angen i ddarpar fyfyrwyr gael gradd israddedig mewn pwnc perthnasol (2:ii neu uwch).
Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan y rheini sydd â chymwysterau proffesiynol di-radd neu amrywiol, a gan unrhyw un sydd a o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn amgylchedd perfformiad uchel (e.e. fel athletwr, hyfforddwr, cerddor proffesiynol, gweithredwr busnes neu ariannol, neu o fewn ystod eang o rolau proffesiynol eraill).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda arweinydd y cwrs os gwelwch yn dda.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Non-Graduating Taught Modules in Sport Health and Excercise Science (NGGT/SHES) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Perfformio Dan Bwysau: y cod yw (JXH-4104). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol