Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr dysgu cyfunol lefel 7 mewn Presgripsiynu Annibynnol, ac mae’n agored i nyrsys cofrestredig, bydwragedd, ffisiotherapyddion a pharafeddygon.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs Presgripsiynu Annibynnol Lefel 6, cliciwch yma: Presgripsiynu Annibynnol (NHS-3212).
Bydd y cwrs yn dechrau ar 18 Medi, 2025.
Bydd agweddau o’r addysgu yn cael eu cyflwyno ar y cyd â’r cwrs Presgripsiynu i Fferyllwyr. Mae natur aml-broffesiynol y cwrs byr hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr i weithwyr proffesiynol profiadol rannu eu gwybodaeth a'u sgiliau a datblygu gwahanol safbwyntiau ar arfer presgripsiynu. Bydd dysgu rhyngbroffesiynol yn annog ymagwedd gydweithredol tuag at ddysgu a gweithio sy'n canolbwyntio ar dîm. Yn seiliedig ar hyn, bydd disgwyl i chi chwarae rhan weithredol mewn dysgu rhyngbroffesiynol yn ystod y rhaglen trwy rannu eich arbenigedd a'ch safbwynt proffesiynol.
Bydd y cwrs yn sicrhau eich bod yn gyfarwydd ag egwyddorion cyffredinol arfer presgripsiynu y mae'n rhaid i chi eu defnyddio yn eich maes arbenigedd clinigol eich hun, a’ch bod yn gallu eu defnyddio yn eich gwaith. Bydd testunau'n cael eu cyflwyno mewn arddull generig a bydd y siaradwyr yn cyfeirio at eu profiad clinigol eu hunain i ddarparu enghreifftiau clinigol, fodd bynnag gellir cymhwyso'r egwyddorion a drafodir i bob maes ymarfer. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ehangu ar eich gwybodaeth bresennol a chymhwyso'r rhain i egwyddorion presgripsiynu. Bydd hyn yn darparu sylfaen gref ar gyfer eich datblygiad fel presgripsiynydd annibynnol/atodol newydd gymhwyso.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr presgripsiynu lefel 7 hwn wedi'i anelu at nyrsys cofrestredig, bydwragedd, ffisiotherapyddion a pharafeddygon sydd â thystiolaeth ddiweddar o astudiaeth academaidd lefel 7, ac sy'n dymuno dod yn brescripsiynwyr annibynnol.
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cydnabod y byddai cymhwyso fel presgripsiynydd annibynnol o fudd i ofal cleifion.
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y cwrs byr heriol ond gwerth chweil hwn yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol presgripsiynwyr annibynnol.
Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir ar y cwrs yn eich grymuso i fabwysiadu dull o bresgripsiynu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn eich cwmpas ymarfer a nodwyd.
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, parafeddygon a fferyllwyr, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso ymagwedd aml-broffesiynol at arfer presgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs hwn?
Mae'r cwrs rhan-amser hwn yn ymestyn dros 7 mis.
Bydd y dysgu yn cael ei gyflwyno bob dydd Iau ar ein campws ym Mangor rhwng Medi 2025 a Mawrth 2026.
- Medi 18fed, 25ain
- Hydref 2il, 9fed (o bell), 16eg
- Tachwedd 6ed, 20fed, 27ain
- Rhagfyr 11eg
- Ionawr 16eg
- Chwefror 12fed
- Mawrth 5ed
Bydd 11 wythnos pellach o astudio hunan-gyfeiriedig er mwyn paratoi ar gyfer aseiniadau.
Bydd yr aseiniad terfynol yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2026.
Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 90 awr mewn ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig (DPP).
Noder y gallai’r uchod newid o ganlyniad i’r broses ail ddilysu.
Tiwtor
Ffion Simcox

Ffion yw arweinydd y cyrsiau presgripsiynu ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal ag arweinydd yr MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch.
Mae Ffion hefyd yn ddirprwy gadeirydd o Rhwydwaith Addysgwyr Ymarfer Uwch Cymru (WAPEN).
Cymhwysodd Ffion fel nyrs gofrestredig yn 1996 ac fel presgripsiynydd annibynnol yn 2011. Cwblhaodd ei MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2012 a gweithiodd fel ACP mewn meddygaeth acíwt am 6 mlynedd cyn ymuno â'r Brifysgol.