Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr dysgu cyfunol lefel 7 mewn Presgripsiynu ar gyfer Fferyllwyr NHS-4259
Bydd y modiwl yn dechrau ar 19 Medi 2024 yn semester 1 o flwyddyn academaidd 2024-2025.
Ategir y modiwl heriol, ond gwerth chweil, hwn gan A Competency Framework for all Prescribers (2021) y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, a fydd yn eich paratoi i fod yn bresgripsiynydd annibynnol cymwys a hyderus.
Mae’r modiwl presgripsiynu hwn wedi ei gynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion dysgu fferyllwyr, gyda phwyslais ar sgiliau clinigol megis cymryd hanes meddygol, archwilio a rhesymu diagnostig.
Bydd agweddau ar yr addysgu yn cael eu cyflwyno ar y cyd â’r cwrs Presgripsiynu Annibynnol. Mae natur aml-broffesiynol y modiwl hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr i weithwyr proffesiynol profiadol rannu eu gwybodaeth a'u sgiliau a datblygu gwahanol safbwyntiau ar bresgripsiynu. Bydd y dysgu rhyngbroffesiynol yn annog dull cydweithredol o ddysgu a gweithio mewn tîm. Yn seiliedig ar hyn, bydd disgwyl i chi chwarae rhan weithredol mewn dysgu rhyngbroffesiynol yn ystod y cwrs trwy rannu eich arbenigedd a'ch safbwynt proffesiynol.
Bydd y cwrs yn sicrhau eich bod yn gyfarwydd ag egwyddorion cyffredinol presgripsiynu sy’n rhaid i chi eu defnyddio yn eich maes ymarfer clinigol eich hun. Bydd testunau'n cael eu cyflwyno mewn arddull generig a bydd y siaradwyr yn cyfeirio at eu profiad clinigol eu hunain i ddarparu enghreifftiau clinigol, ond gellir cymhwyso'r egwyddorion a drafodir i bob maes ymarfer. Bydd y modiwl yn caniatáu i chi ymhelaethu ar eich gwybodaeth a'i chymhwyso i egwyddorion presgripsiynu. Bydd hyn yn darparu sylfaen ar gyfer eich datblygiad fel presgripsiynydd annibynnol/atodol sydd newydd gymhwyso.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae’r modiwl presgripsiynu hwn wedi ei anelu’n benodol at fferyllwyr cofrestredig sy’n dymuno bod yn bresgripsiynwyr annibynnol ac sydd wedi nodi sut bydd bod yn bresgripsiynydd annibynnol o fudd i ofal cleifion.
Pam astudio’r cwrs?
Yn y modiwl heriol, ond gwerth chweil hwn, byddwch yn dysgu’r sgiliau clinigol sydd eu hangen i gefnogi eich ymarfer presgripsiynu. Bydd yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol fferyllydd presgripsiynu. Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir yn y modiwl hwn yn eich grymuso i fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o bresgripsiynu yn y cwmpas ymarfer a nodwyd gennych.
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion a pharafeddygon, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso dull amlbroffesiynol o ymdrin â phresgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y cwrs ar ddydd Iau ar ein campws ym Mangor rhwng 19 Medi 2024 - 6 Mawrth 2025. Cyflwynir y sesiynau bob wythnos i ddechrau, ac yna bob pythefnos:
- Mae 10 Hydref yn ddiwrnod astudio dan gyfarwyddyd, pan na fydd rhaid i chi ddod ar y campws.
- Bydd disgwyl i chi gwblhau 14 diwrnod arall o ddysgu annibynnol.
- Cyflwynir yr aseiniad terfynol ym mis Ebrill 2025.
- Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 90 awr mewn ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth ymarferydd presgripsiynu dynodedig.
Tiwtor
Ffion Simcox
Ffion yw arweinydd y cyrsiau presgripsiynu ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal ag arweinydd yr MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch.
Mae Ffion hefyd yn ddirprwy gadeirydd o Rhwydwaith Addysgwyr Ymarfer Uwch Cymru (WAPEN).
Cymhwysodd Ffion fel nyrs gofrestredig yn 1996 ac fel presgripsiynydd annibynnol yn 2011. Cwblhaodd ei MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2012 a gweithiodd fel ACP mewn meddygaeth acíwt am 6 mlynedd cyn ymuno â'r Brifysgol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Yn y modiwl heriol, ond gwerth chweil hwn, byddwch yn dysgu’r sgiliau clinigol sydd eu hangen i gefnogi eich ymarfer presgripsiynu. Bydd yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol fferyllydd presgripsiynu. Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir yn y modiwl hwn yn eich grymuso i fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o bresgripsiynu yn y cwmpas ymarfer a nodwyd gennych.
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion a pharafeddygon, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso dull amlbroffesiynol o ymdrin â phresgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.
Trefnir y cwrs hwn yn unedau dysgu a fydd yn ymdrin â'r meysydd pwnc canlynol:
- sgiliau ymgynghori
- sgiliau archwilio
- rheoli risg
- rhesymu diagnostig
- cadw cofnodion
- stiwardiaeth gwrthficrobaidd a chyfrifoldebau iechyd cyhoeddus y presgripsiynydd
- dibresgripsiynu
- gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gwneud penderfyniadau ar y cyd
- presgripsiynu ar sail tystiolaeth.
- fframweithiau cyfreithiol ac atebolrwydd
- materion moesegol
- llywodraethu presgripsiynu
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Ar y modiwl hwn, cewch eich dysgu gan bresgripsiynwyr annibynnol a meddygol profiadol o wahanol gefndiroedd proffesiynol. Cefnogir yr addysgu gan glinigwyr arbenigol i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol i ymarfer clinigol.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu deall ac arddangos y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn bresgripsiynydd annibynnol diogel ac effeithiol, gyda phwyslais ar ofal unigol, fel yr amlinellir yn adroddiad y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Competency Framework for all Prescribers (RPS, 2019).
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cofnodi eu statws fel presgripsiynydd annibynnol/atodol gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
Cost y Cwrs
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yn darparu cyllid ar gyfer y cwrs hwn i ymgeiswyr sy'n gweithio yng Nghymru.
Os ydych yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cysylltwch â'r fferyllydd arweiniol addysg a hyfforddiant i wneud cais am gyllid gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Os nad ydych yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cysylltwch â HEIW.Pharmacy@wales.nhs.uk i wneud cais am gyllid.
Dylech wneud cais am gyllid ac absenoldeb astudio ar yr un pryd â'ch cais prifysgol.
Gofynion Mynediad
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r meini prawf canlynol:
- wedi eu cofrestru fel fferyllydd gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu Gymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI).
- ar delerau da gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu Gymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI) a heb unrhyw gyfyngiadau ar ymarfer.
- meddu ar brofiad perthnasol mewn fferyllfa yn y Deyrnas Unedig ac yn gallu adnabod, deall a chyfleu’r sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen ar bresgripsiynydd
- ymarfer mewn amgylchedd lle mae angen defnyddio presgripsiynu annibynnol neu bresgripsiynu atodol yn rheolaidd
- wedi nodi maes ymarfer clinigol neu therapiwtig i ddatblygu ymarfer presgripsiynu annibynnol:
- wedi sicrhau ymarferydd presgripsiynu dynodedig â chymwysterau addas sydd wedi cytuno i oruchwylio eu dysgu wrth ymarfer.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
*Pwysig: Ar ôl i chi gwblhau’r cais hwn, bydd y tiwtor derbyniadau yn cysylltu â chi i ofyn ichi lenwi ffurflen gais atodol sy’n benodol i’r cwrs hwn.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Presgripsiynu ar gyfer Fferyllwyr : y cod yw NHS-4259. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
(nid oes angen darparu manylion yma) Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol