Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs byr hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac academyddion sydd â diddordeb mewn adsefydlu anhwylderau niwroseiciatrig. Mae'n arbennig o fuddiol i feddygon, nyrsys, therapyddion, seicolegwyr, ac ymchwilwyr sydd am wella eu gwybodaeth a chymryd rhan mewn trafodaethau amlddisgyblaethol.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas i?
Mae'r cwrs yn darparu trosolwg o bynciau niwroadsefydlu trwy gyflwyniadau achos manwl a thrafodaethau manwl o achosion clinigol heriol a gafwyd yn ystod gofal adferol. Bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn cael cyfle i wneud y canlynol: ·
- Adfyfyrio ar arferion ac ymarferion clinigol a'u cymharu. ·
- Archwilio peryglon a manteision gwahanol ddulliau gofal.
- Ymgysylltu â grŵp amrywiol o glinigwyr i ehangu eu safbwyntiau.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Cynhelir Rowndiau Dysgu unwaith y mis, gyda 10 sesiwn yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn galendr.
Tiwtor
Dr Giovanni d'Avossa
Mae Dr Giovanni d'Avossa yn Ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor ac yn Ymgynghorydd Niwroleg er Anrhydedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ei brif ddiddordeb ymchwil yw deall canlyniadau niwed i'r ymennydd ar amhariad meddyliol a chorfforol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd cyfranogwyr yn cael mewnwelediad cynhwysfawr i gyflwyniad clinigol a dilyniant achosion niwroseiciatrig. Bydd y pynciau’n cynnwys:
1. Y Berthynas Rhwng Niwed i'r Ymennydd ac Amhariadau Niwroseiciatrig: Archwilio'r cydadwaith rhwng niwed niwrolegol a chamweithrediadau gwybyddol, emosiynol a chorfforol.
2. Meini Prawf Diagnostig ar gyfer Anhwylderau Iechyd Meddwl, Gwybyddol, Echddygol a Chyfathrebu: Deall fframweithiau allweddol a ddefnyddir mewn asesiadau clinigol.
3. Cynllunio Triniaethau Adferol: Datblygu strategaethau therapiwtig wedi'u teilwra ar gyfer gofal cleifion.
4. Asesu a Rhagweld Canlyniadau: Dysgu gwerthuso prognosis a photensial adferiad hirdymor. Bydd y sesiynau'n ymdrin â methodolegau ar gyfer gwneud diagnosis, trin a chynllunio ymyriadau adferol, wedi'u hategu gan asesiadau clinigol, canfyddiadau cyfryngol, a data labordy
Gofynion Mynediad
Mae'n ofynnol i gyfranogwyr gadw cyfrinachedd cleifion a rhaid iddynt fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol: ·
- Bod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn swyddogaeth glinigol. ·
- Bod yn fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi clinigol ffurfiol. ·
- Bod yn ymchwilydd sy'n gysylltiedig â sefydliad academaidd. ·
- Bod yn arbenigwr â phrofiad bywyd sy'n gysylltiedig â grŵp Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd (PPI).
Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, cysylltwch ag arweinydd y cwrs, Dr Giovanni d'Avossa, i drafod ymhellach.