Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr hyblyg ar lefel ôl-raddedig sy'n cael ei gyflwyno ar-lein.
Mae pawb wedi clywed bod timau llwyddiannus yn fwy na swm eu rhannau ond pam mae rhai timau’n rhagori, ac eraill yn methu? Mae’n fwy na doniau unigolion yn unig! Mae'r modiwl yn ymdrin â ffactorau amlwg sy'n cynorthwyo datblygiad timau effeithiol sy'n berthnasol ymhob maes perfformio.
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs Byr hwn yn addas?
Mae'r modiwl dysgu o bell ar-lein hwn ar Seicoleg Perfformiad Tîm yn ddelfrydol i bawb sydd â diddordeb gwella effeithiolrwydd tîm. P'un a ydych chi'n ymwneud â chwaraeon, busnes, gwasanaethau brys, y celfyddydau perfformio, neu unrhyw faes arall, mae gwaith tîm effeithiol yn hanfodol i gyflawni canlyniadau rhagorol.
Mae ein dysgwyr wedi cynnwys pobl o bob rhan o’r DU, ac o bob rhan o’r byd. Mae'r cwrs byr yma'n rhan o'r rhaglen MSc Seicoleg Perfformio (dysgu o bell) ac mae cyn-fyfyrwyr yn cynnwys:
- Hyfforddwyr chwaraeon proffesiynol: Rygbi, Criced, Pêl-droed Gaeleg, a Hyfforddwyr Rhedeg Dygnwch
- Aelodau ‘UK Coaching’
- Athletwyr Elitaidd mewn: pêl-droed, pêl-droed Gaeleg, criced, rygbi a golff
- Cyfarwyddwyr Perfformiad ar gyfer Timau Undeb Rygbi Proffesiynol
- Perfformwyr Opera
- Cerddorion Proffesiynol
- Arweinwyr Busnes
- Uwch reolwyr o sefydliadau fel MasterCard a Facebook
- Criw Cefn Hofrennydd yr RAF
- Rheolwyr traffig awyr
- Swyddogion Heddlu
- Meddygon Teulu ac Anesthetyddion
- Rheolwyr GIG
Pam astudio’r cwrs?
Prif amcan y modiwl yw amlygu pwysigrwydd mewnbwn tîm a phrosesau sy'n dylanwadu ar berfformiad tîm. Bydd y dysgwyr yn deall theorïau, llenyddiaeth ymchwil, a chymhwyso ymchwil i sefyllfaoedd bywyd go iawn sy'n berthnasol i ffactorau tîm dylanwadol o'r fath.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs byr hwn yn cymryd 12 wythnos i'w gwblhau. Cewch fynediad at holl ddeunyddiau’r darlithoedd ar ddechrau'r cwrs a fydd yn eich galluogi i fynd mor gyflym neu mor araf ag y dymunwch yn ôl eich amgylchiadau personol.
Asesiad
Mae'r asesiad hyblyg yn fodd i'r dysgwyr ddilyn eu diddordebau hwythau trwy ysgrifennu adroddiad cymhwysol sy’n ymwneud â’u parth perfformio. Bydd yr adroddiad yn pwysleisio agwedd o'r tîm sydd fwyaf perthnasol i'w cyd-destun. (2,000 gair)
Tiwtor
Dr. James Hardy
Ar ôl cael gradd israddedig o Brifysgol Birmingham, aeth James i Ogledd America i weld sut roedden nhw’n ymdrin â seicoleg chwaraeon. Cwblhaodd ei hyfforddiant ôl-radd (MA a PhD) ym Mhrifysgol Gorllewin Ontario, Canada, o dan oruchwyliaeth yr Athro Craig Hall. Mae'n gyflwynydd rheolaidd mewn cynadleddau rhyngwladol ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ymchwil ynglŷn â’r ddau brif faes y mae’n arbenigo ynddynt (yn benodol, hunan-siarad a delweddaeth) a deinameg grŵp (e.e., cydlyniad tîm ac arweinyddiaeth) ym meysydd chwaraeon ac ymarfer corff.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Yn draddodiadol, byddai rheolwyr busnes a hyfforddwyr chwaraeon yn treulio llawer o amser ac ymdrech yn datblygu lefelau talentau unigol eu timau. Nodwedd bwysig a all fod yr un mor berthnasol, os nad yn fwy perthnasol, yw datblygu timau a gwaith tîm effeithiol. Mae hynny’n berthnasol iawn i dimau chwaraeon sy’n cyflawni tasgau rhyngweithiol (fel pêl-droed, rygbi ac yn y blaen). Yn wir, mae'r busnes meithrin tîm yn ddiwydiant gwerth miliynau o bunnoedd. Yn y modiwl hwn, byddwn yn edrych ar rai o'r ffactorau amlwg sy'n cyfrannu at ddatblygiad timau chwaraeon effeithiol.
Bydd y dysgwyr yn deall theorïau, llenyddiaeth ymchwil, a chymhwyso ymchwil i sefyllfaoedd bywyd go iawn sy'n berthnasol i ffactorau tîm dylanwadol o'r fath.
- Gwaith Tîm
- Personoliaeth a thimau
- Cydlyniad tîm
- Rolau
- Arweinyddiaeth
- Meithrin tîm
Yn fras, dyma'r drefn a ddilynwn i ymdrin â'r pynciau uchod hefyd. Caiff y cynnwys damcaniaethol a’r ymchwil cysylltiedig (h.y., tystiolaeth) eu cyflwyno a'u trafod ynghyd â'u harwyddocâd ymarferol. Yn wir, oherwydd bod meithrin tîm yn weithred gymhwysol, mae hon yn thema sy'n yn plethu drwy bob un o'r pynciau eraill pan fo'n briodol gwneud hynny.
Rhestr o unedau
- Unedau Dysgu
- Hanfodion y modiwl
- Gwaith Tîm
- Personoliaeth a thimau
- Cydlyniad tîm
- Rolau
- Arweinyddiaeth
- Meithrin tîm
- Sesiynau byw x 3
Cost y Cwrs
- Y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 fydd £556 (yn cynnwys TAW)
- Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd 2.ii o leiaf. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn raddedigion ond sydd â chymwysterau proffesiynol amgen neu sy’n gallu dangos o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn amgylchedd perfformiad uchel (e.e. fel athletwr, hyfforddwr, cerddor proffesiynol, gweithredwr busnes neu gyllid neu o fewn amrywiaeth eang o swyddi proffesiynol eraill).
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Non-Graduating Taught Modules in Sport Health and Excercise Science (NGGT/SHES) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Seicoleg Perfformiad Tîm: y cod yw (JXH-4104). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol