Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr hyblyg ar lefel ôl-raddedig sy'n cael ei gyflwyno ar-lein.
Mae'r ddeuad hyfforddi’n aml yn berthynas gymhleth iawn. Mae'r ddau barti eisiau llwyddo ond yn aml mae ganddyn nhw safbwyntiau gwrthgyferbyniol. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar brosesau seicolegol a gwybyddol y ddeuad hyfforddi. Caiff yr anghysondebau ymhlith unigolion ac oddi mewn i unigolion eu hamlygu fel agwedd bwysig ar y ddeuad hyfforddi.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr yma'n addas i unrhyw un sydd â diddordeb deall sut mae perthnasoedd deuadig llwyddiannus yn gweithio a pham (e.e., hyfforddwr/athletwr, cyflogwr/gweithiwr, athro/dysgwr). Bydd y cwrs hefyd yn canolbwyntio ar ymyriadau a fydd yn helpu gwella perthnasoedd aneffeithiol.
Mae ein dysgwyr wedi cynnwys pobl o bob rhan o’r DU, ac o bob rhan o’r byd. Mae'r cwrs byr yma'n rhan o'r rhaglen MSc Seicoleg Perfformio (dysgu o bell) ac mae cyn-fyfyrwyr yn cynnwys:
- Hyfforddwyr chwaraeon proffesiynol: Rygbi, Criced, Pêl-droed Gaeleg, a Hyfforddwyr Rhedeg Dygnwch
- Aelodau ‘UK Coaching’
- Athletwyr Elitaidd mewn: pêl-droed, pêl-droed Gaeleg, criced, rygbi a golff
- Cyfarwyddwyr Perfformiad ar gyfer Timau Undeb Rygbi Proffesiynol
- Perfformwyr Opera
- Cerddorion Proffesiynol
- Arweinwyr Busnes
- Uwch reolwyr o sefydliadau fel MasterCard a Facebook
- Criw Cefn Hofrennydd yr RAF
- Rheolwyr traffig awyr
- Swyddogion Heddlu
- Meddygon Teulu ac Anesthetyddion
- Rheolwyr GIG
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar brosesau seicolegol a gwybyddol y ddeuad hyfforddi. Caiff yr anghysondebau ymhlith unigolion ac oddi mewn i unigolion eu hamlygu fel agwedd bwysig ar y ddeuad hyfforddi. lle mae safbwyntiau gwrthgyferbyniol yn aml yn broblematig, ac mae cyfathrebu’n allweddol. Bydd y modiwl yn edrych yn helaeth ar berthnasoedd y ddeuad hyfforddi o ran agosrwydd, ymrwymiad, ymddygiadau cyflenwol, a safbwyntiau cydgyfeiriedig. Bydd yr anghysondebau ymhlith unigolion ac oddi mewn i unigolion yn chwarae rhan fawr iawn trwy gydol y modiwl.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Caiff y cwrs byr hwn ei gyflwyno dros gyfnod o 12 wythnos. Fodd bynnag, cewch fynediad at holl ddeunyddiau’r darlithoedd ar ddechrau'r cwrs a fydd yn eich galluogi i fynd mor gyflym neu mor araf ag y dymunwch yn ôl eich amgylchiadau personol.
Asesiad
Pwrpas yr asesiad yw rhoi profiad o ymgynghori cymhwysol i’r myfyrwyr a fydd yn helpu'r myfyriwr ddeall egwyddorion hyfforddi a chyfathrebu effeithiol. Bydd yr asesiad hwn yn canolbwyntio ar berthynas y ddeuad hyfforddi. Rhaid i fyfyrwyr nodi deuad nad yw'n gweithio mor effeithiol ag y gallai. Caiff yr arsylwadau a’r asesiadau cychwynnol eu cynnal trwy driongli dulliau h.y., arsylwi sesiwn hyfforddi a chyfweliadau’n dilyn. Gyda thystiolaeth o'r sesiwn hyfforddi a arsylwyd a'r holiaduron, bydd gofyn i’r myfyrwyr adrodd beth allai'r broblem fod, a gan gyfeirio at ymchwil i seicoleg perfformiad, pa ymyriadau y gellid eu cymhwyso i'r sefyllfa yn gymorth i hyfforddi effeithiol. Bydd myfyrwyr na allant ganfod deuad i weithio â hi’n cael set o ddata a bennir ymlaen llaw i weithio arni.
Y Gofynion Technegol
Cwrs ar-lein yw hwn a gyflwynir trwy Blackboard Ultra. Bydd angencysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd, adnoddau Technoleg Gwybodaeth a chyfrifiadur a meddalwedd cyfoes, meicroffon a chlustffonau neu seinyddion ar y myfyrwyr.
Tiwtor
Dr Stuart Beattie
https://www.bangor.ac.uk/staff/spss/stuart-beattie-008998/cy
Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil mae Cryfder Meddyliol, Gwytnwch, a Seicoleg Perfformiad yn Gyffredinol.
Bu Stuart yn gweithio fel seicolegydd chwaraeon i Gymnasteg Prydain am bum mlynedd a bu’n ymwneud â phrojectau gwytnwch i Outlook Expeditions a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Ymhlith y projectau cyfredol yn goruchwylio graddau PhD mae - archwilio projectau Gwytnwch, Cryfder Meddyliol, a Pherthnasoedd Triadig gyda chlwb Pêl-droed Manchester City, yn ogystal â goruchwylio ymgeiswyr PhD yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Fel rhan o'r MSc Seicoleg Perfformiad (dysgu o bell), mae Stuart hefyd yn darparu cefnogaeth oruchwyliol i fyfyrwyr ym meysydd Opera, RAF, Busnes, a Hyfforddi Chwaraeon.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan seicolegydd chwaraeon ac ymarfer sy'n gweithio gydag athletwyr elît, hyfforddwyr, busnes, a'r lluoedd arfog; byddwch yn dysgu am y theorïau a'r ymyriadau cymhwysol diweddaraf yn llenyddiaeth y ddeuad hyfforddi. Yn y modiwl hwn mae’r anghysondebau ymhlith unigolion ac oddi mewn i unigolion yn allweddol. Er enghraifft, bydd yr anghysondebau ymhlith unigolion yn archwilio safbwyntiau ymhlith unigolion. Bydd anghysondebau oddi mewn i unigolion yn archwilio'r bwlch a gaiff ei greu pan fyddwn yn gosod nodau. Mae cau dolen anghysondeb o ran nod yn bwysig i’n datblygiad ni ein hunain. Fodd bynnag, os nad yw ein nodau a’n bwriadau’n cael eu rhannu na’u cyfleu’n effeithiol, gall diffyg dealltwriaeth godi rhwng y ddeuad ac arwain at wrthdaro.
Unedau Dysgu
- Darlith 1: Theori hunan-anghysondeb
- Darlith 2: Proffilio Perfformiad
- Darlith 3: Perthynas ddeuol mewn argyfwng
- Darlith 4: Asesu'r berthynas rhwng hyfforddwr ac athletwr
- Darlith 5: Cyd-gyfeiriad
- Darlith 6: Cymedrolwyr yn dylanwadu ar y berthynas ddeuol
- Darlith 7: Strategaethau cynnal a chadw
- Darlith 8: Trawsnewidiad
- Darlith 9: Gwrthdaro a chyfathrebu
- Darlith 10: Sesiwn Holi ac Ateb fyw a chyfle i ddal i fyny
Asesiad
Pwrpas yr asesiad yw rhoi profiad o ymgynghori cymhwysol i’r myfyrwyr a fydd yn helpu'r myfyriwr ddeall egwyddorion hyfforddi a chyfathrebu effeithiol.
Rhaid i fyfyrwyr nodi deuad nad yw'n gweithio mor effeithiol ag y gallai. Caiff yr arsylwadau a’r asesiadau cychwynnol eu cynnal trwy driongli dulliau h.y., arsylwi sesiwn hyfforddi a chyfweliadau’n dilyn. Gyda thystiolaeth o'r sesiwn hyfforddi a arsylwyd a'r holiaduron, bydd gofyn i’r myfyrwyr adrodd beth allai'r broblem fod, a gan gyfeirio at ymchwil i seicoleg perfformiad, pa ymyriadau y gellid eu cymhwyso i'r sefyllfa yn gymorth i hyfforddi effeithiol. Bydd myfyrwyr na allant ganfod deuad i weithio â hi’n cael set o ddata a bennir ymlaen llaw i weithio arni.
Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus bydd y myfyrwyr yn gallu:
- dangos dealltwriaeth feirniadol o anghysondebau o fewn unigolion a rhyngddynt
- datblygu dealltwriaeth feirniadol o'r ymchwil ar berthnasoedd ddeuadig
- dehongli data a chyflwyno ymyriad yn effeithiol i fynd i'r afael ag anghysondebau rhwng y ddau barti nad ydynt yn gweithio'n dda gyda'i gilydd
Cost y Cwrs
Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd 2.ii o leiaf. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn raddedigion ond sydd â chymwysterau proffesiynol amgen neu sy’n gallu dangos o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn amgylchedd perfformiad uchel (e.e. fel athletwr, hyfforddwr, cerddor proffesiynol, gweithredwr busnes neu gyllid neu o fewn amrywiaeth eang o swyddi proffesiynol eraill).
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Non-Graduating Taught Modules in Sport Health and Excercise Science (NGGT/SHES) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Y Ddeuad Hyfforddi: y cod yw (JXH-4214). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol