Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r radd ymchwil hon wedi'i theilwra'n arbennig ar gyfer eich diddordebau mewn ymgynghoriad â'r meysydd arbenigedd a gynigir. Mae'n cynnwys dwy ran:
Rhan Un: Bydd y myfyrwyr yn ysgrifennu dau draethawd, ill dau'n 5000 o eiriau (30 credyd yr un) o blith y pynciau isod. Penderfynir ynghylch teitlau a chynnwys y traethawd mewn ymgynghoriad â'ch goruchwylydd. Caiff pob myfyriwr gefnogaeth lawn gan oruchwylydd dynodedig (bydd y rhai sy'n astudio trwy Ddysgu o Bell yn derbyn cefnogaeth dros e-bost, ffôn, Skype, neu ddulliau eraill sy'n gyfleus i bawb).
Rhan Dau: Mae hyn yn cynnwys traethawd hir o dan oruchwyliaeth o 40,000 o eiriau (120 o gredydau). Chi fydd yn penderfynu ar bwnc y traethawd hir mewn ymgynghoriad â'ch goruchwylydd. Disgwylir fel arfer y bydd y pwnc yn ymwneud â'r amrywiol bynciau a restrir yn Rhan 1.
Gofynion Mynediad
Fel rheol mae angen gradd Baglor 2.i neu uwch. Ar y llaw arall, gellir eich derbyn os oes gennych gymhwyster proffesiynol addas neu brofiad perthnasol. Sgôr IELTS o 7.0 (heb yr un elfen o dan 6.5), neu gyfwerth, os nad Saesneg na Chymraeg yw eich iaith gyntaf.
Gyrfaoedd
Bydd y rhaglen yn fuddiol iawn i'r rheiny sy'n dymuno dysgu crefydd neu athroniaeth mewn ysgolion neu mewn sefydliadau Addysg Uwch. Bydd llawer sy'n dilyn y rhaglen yn cychwyn ar yrfaoedd amrywiol yn y sector cyhoeddus neu breifat.
Rhagwelir y bydd y radd hon yn ddefnyddiol i fyfyrwyr rhyngwladol o ddiwylliannau heblaw'r Gorllewin wrth iddynt weithio mewn sefydliadau a busnesau rhyngwladol. Efallai y bydd rhai myfyrwyr am fynd ymlaen i astudio doethuriaeth a dilyn gyrfa academaidd mewn prifysgol.